Gwobrau a Chynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2024: Ail-ddychmygu economi Cymru drwy Bobl, Elw, Pwrpas, a’r Blaned

Mae’r Gwobrau a’r Gynhadledd yn ddigwyddiad deuddydd, a gynhelir dros 1af ac 2il o Hydref.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y gwobrau a’r gynhadledd.

Diwrnod 1: Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, 01/10/2024, 19:00 – 22:00

Yn ei 9fed flwyddyn, ac yn cael ei chynnal gan y newyddiadurwr a’r darlledwr Siân Lloyd, ymunwch â ni i ddathlu’r mentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd yn eu cymunedau.

Diwrnod 2: Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru, 02/10/2024, 09:00 – 16:30

Mae cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ail-ddychmygu economi Cymru drwy Bobl, Elw, Pwrpas a Phlaned, ac mae’n addo cymysgedd amrywiol o siaradwyr, gweithdai goleuedig, a chyfle perffaith i gysylltu â phartneriaid o’r sector preifat a chyhoeddus.

Mae tocyn i’r gynhadledd yn addo mynediad i offer a strategaethau ymarferol, y cyfle i ddysgu oddi wrth fentrau cymdeithasol llwyddiannus, a chyfleoedd rhwydweithio hanfodol.

 

Gweithdai

  • Y Bunt Gymreig – Cadw cadwyni cyflenwi caffael yn lleol
  • Rôl mentrau cymdeithasol mewn hybu twf a chynhyrchiant trwy drawsnewid economïau lleol – heriau/cyfleoedd
  • Llwyddo a ffynnu mewn cyfnod cyfnewidiol
  • Creu Cymru fwy cynhwysol a thosturiol

Cliciwch yma am mwy am ein gweithdai.

Siaradwyr

  • Alwen Williams – Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru
  • Scott Darraugh – Cadeirydd Bevan Health / Leadling Lives a Prif Weithredwr Social AdVentures.
  • Marquis Caines – Partner a Phennaeth Portffolio, Diversity X

Cliciwch yma am mwy am ein siaradwyr.

Event details

Date

Hydref 1, 2024 to Hydref 2, 2024

Time

19:00 - 16:30

Location

Venue Cymru, The Promenade, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB
Book Event