Sut y gall modelau busnes amgen helpu’r economi werdd i ffynnu yng Nghymru
Blog gan Dr. Sarah Evans, Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghoriaeth Cwmpas
Yn ddiweddar, rhoddais dystiolaeth i Ymchwiliad Economi Werdd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – roedd hi’n galonogol gweld y mater hwn yn cael ei drafod yn y Senedd ac roeddwn yn falch o ddangos rôl bwysig modelau busnes amgen.
Gall pob sector chwarae ei ran yn yr economi werdd. Ond pa rôl all modelau busnes fel busnesau cydweithredol a mentrau cymdeithasol ei chwarae wrth helpu Cymru i arwain y ffordd?
A sut allan nhw gefnogi agenda Pontio Teg Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ein llwybr at economi wyrddach yn lleihau unrhyw effaith niweidiol ar ein cymunedau?
Cefnogi’r sector i wneud ei ran
Mae rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf wrth wraidd cenhadaeth Cwmpas – ac rydym yn parhau i gefnogi mentrau cymdeithasol sy’n gwneud dewisiadau cynaliadwy ac yn eu hymgorffori yn eu modelau busnes.
Weithiau, mae’r cysylltiad hwn yn amlwg – fel cynhyrchu ynni cymunedol – ond mae llawer o fentrau cymdeithasol eraill yn rhoi cynaliadwyedd wrth graidd eu gwaith.
Mae Elite Paper Solutions ym Merthyr Tudful yn enghraifft wych o hyn. Maen nhw’n darparu gwasanaeth dinistrio cyfrinachol, storio archifau a sganio dogfennau i fusnesau yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anghenion ychwanegol. Maen nhw’n falch o’u hymwybyddiaeth amgylcheddol – maent yn ailgylchu dros 476 tunnell o garpion papur ac nid ydynt yn anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi – gan ennill Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd sy’n cael ei dyfarnu i sefydliadau sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd.
Gyda’r sector mentrau cymdeithasol yn parhau i dyfu, mae cefnogi’r model hwn yn gwneud synnwyr er mwyn sicrhau’r effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol fwyaf posibl drwy’r model busnes llinell waelod triphlyg – gan flaenoriaethu pobl, y blaned ac elw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth gref i ddatblygiad y sector mentrau cymdeithasol drwy barhau i ariannu Busnes Cymdeithasol Cymru – a ddarperir gan gonsortiwm y Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol dan arweiniad Cwmpas – yn dilyn diwedd cyllid yr UE.
Rhwystrau i dwf
Roedd ymarfer mapio sector Busnes Cymdeithasol Cymru, a gyhoeddwyd yn 2023, yn amlygu rhwystrau i dwf.
Cyfeiriodd bron i draean o’r busnesau at gostau ynni, tra bod bron i hanner yn sôn am yr hinsawdd economaidd a chwyddiant uchel. Roedd llif arian yn rhwystr i chwarter y busnesau hefyd, gan fwy na dyblu ers 2020.
Fodd bynnag, i fwy na hanner, y rhwystr mwyaf oedd pwysau amser / diffyg capasiti staff.
Roedd cynnydd amlwg hefyd yn y rhai a nododd eu bod yn cael cyllid grant, o 31% yn 2020 i 51% yn 2022. Mae hyn yn dilyn patrwm ers y pandemig, gan nad oedd llawer o grantiau cadernid neu adferiad ar gyfer busnesau yn 2020 ar gael mwyach yn 2022.
Mae’r data’n awgrymu mai un o brif ysgogwyr y pryder hwn oedd diffyg amser i wneud cais am gyllid, gan adlewyrchu’r trafferthion ehangach yn ymwneud â chapasiti sefydliadol a staff.
Roedd llawer yn teimlo hefyd nad oedd ganddynt yr arbenigedd i ymgeisio am gyllid, gan awgrymu bwlch sgiliau yn y sector.
Gydag adnodd ychwanegol, rydym yn credu y gall y sector oresgyn rhai o’r heriau hynny – fel help i gael gafael ar gyllid.
Heriau i gyflawni sero net
Er bod busnesau cymdeithasol yn croesawu cynaliadwyedd amgylcheddol, mae sicrhau sero net yn parhau i fod yn her.
Er bod lliniaru’r argyfwng hinsawdd yn bwysig iddyn nhw, dim ond nifer cyfyngedig sydd wedi ymrwymo’n llwyr i ddod yn garbon niwtral neu sero net.
Mae’r rhesymau’n amrywio. I rai, mae hyn oherwydd diffyg amser neu adnoddau staff, i eraill mae’n ymwneud â chost gweithredu mesurau i ddod yn garbon niwtral.
Efallai y byddan nhw wedi’u cyfyngu hefyd o ran y camau y gallan nhw eu cymryd – er enghraifft, os ydyn nhw’n rhentu lle ac nad oes ganddyn nhw lais o ran gwneud addasiadau arbed ynni.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y sector yn awyddus i gyfrannu at yr economi werdd – o ran busnesau yn gweithredu mewn sectorau sydd â’r potensial i dyfu yn ystod y trawsnewidiad gwyrdd, ac ar draws pob sector drwy wreiddio arferion cynaliadwy.
Sut gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r sector ymhellach?
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl yn cefnogi a meithrin cadwyni cyflenwi lleol, yng Nghymru – ac mae cefnogaeth arbenigol i fentrau cymdeithasol yn ganolog i hyn.
Hoffem hefyd weld Llywodraeth Cymru’n mynd ati i feithrin y farchnad i fentrau cymdeithasol ddechrau a thyfu.
Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd. Un enghraifft yw Creu Menter, menter gymdeithasol a sefydlwyd gan gymdeithas dai Cartrefi Conwy, sydd â chenhadaeth gymdeithasol i greu cyfleoedd cyflogaeth llawn amser sy’n talu’n dda i’r gymuned leol, yn enwedig y rhai sydd y tu allan i’r farchnad lafur ar hyn o bryd. Yn ogystal â chael cenhadaeth gymdeithasol, maent yn adeiladu cartrefi ecogyfeillgar gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, gan gyrchu 80% o’u coed o Gymru. Fe ddechreuon nhw fasnachu yn 2015 ac erbyn hyn nhw yw’r contractwr cymdeithasol o ddewis ar gyfer y Gogledd.
Mae cyfle i Lywodraeth Cymru hwyluso cymdeithasau tai a chyrff cyhoeddus eraill i ddysgu oddi wrthynt a bod yn entrepreneuraidd yn yr un modd.
Mae diwygio caffael yn faes polisi pwysig. Er bod y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn gam i’r cyfeiriad cywir, hoffem weld lles a datblygiad economaidd lleol wrth wraidd strategaeth gaffael.
Yn ei faniffesto arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, addawodd Vaughan Gething “gyfeirio mwy o wariant caffael cyhoeddus tuag at fentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol” ac edrychwn ymlaen at weld yr uchelgais hon yn cael ei gwireddu, nawr ei fod yn Brif Weinidog.
Rhan greiddiol o’n strategaeth ar gyfer Busnes Cymdeithasol Cymru yw creu cyfleoedd ar gyfer mentora cymheiriaid a rhwydweithio rhwng entrepreneuriaid cymdeithasol – byddem yn croesawu trafodaethau ar sut y gellir ariannu a hwyluso hyn ymhellach.
Mae cefnogaeth i grwpiau cymunedol ffurfio mentrau cymdeithasol a chynyddu cynhyrchiant drwy drawsnewid digidol yn allweddol i wireddu potensial economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y sector hefyd.
Edrych i’r dyfodol
Mae’r sector mentrau cymdeithasol yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru – erbyn hyn mae tua 2,828 o fusnesau yn y sector, cynnydd o 22% ers 2020.
Credwn fod rhoi’r model hwn, a’r gefnogaeth i’r sector, wrth wraidd strategaeth economaidd Cymru yn hanfodol i sicrhau mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd i ddechrau a thyfu menter gymdeithasol – wrth wneud y mwyaf o botensial yr economi werdd i gymunedau Cymru.