Arweinwyr Cymdeithasol Cymru
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth am ddim i arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae Social Leaders Cymru 2024 ar Agor.
Mae rhaglen arweinyddiaeth Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi’i llunio i gefnogi arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ar bob cam o’u taith arweinyddiaeth.
Gan adeiladu ar y prosiect peilot yng Nghymru yn ystod 2021/22 bydd y rhaglen newydd, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gyflwynir mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a WCVA yn:
- datblygu arweinwyr ledled Cymru a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn galluogi’r trydydd sector i ffynnu
- ymgysylltu ag arweinwyr o gefndiroedd amrywiol
- annog cydlyniant a chydweithredu cymunedol.
Cyflwynir gan Clore Social Leadership, gan weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr Rhaglen yng Nghymru. Mae’r rhaglenni Arweinydd Cymunedol a Cenedlaethol yn creu amser, caniatâd a lle i wella lles a datblygu rhwydweithiau cyfoedion cryf. Fe’u cynlluniwyd i ehangu eich sgiliau presennol fel arweinydd i ddod yn fwy hyderus, wedi’u grymuso a’u gwydn.
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi cael eu creu i gefnogi arweinwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.
Dysgwch fwy am ein Rhaglenni a Chyfleoedd Social Leaders Cymru:
Rydym yn dod ag arweinwyr cymdeithasol at ei gilydd i feithrin gallu, cryfhau cymunedau a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis ar gyfer pobl â phob lefel o brofiad – ar-lein ac yn bersonol. Darganfyddwch fwy!
CASNEWYDD: Mae ceisiadau wedi cau am raglen Arweinydd Cymunedol Cymru (Casnewydd). Bydd y sesiynau mewn-person yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd, De Cymru. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Mehefin–fis Rhagfyr 2024.
WRECSAM: Mae ceisiadau wedi cau am raglen Arweinydd Cymunedol Cymru (Wrecsam). Bydd y sesiynau personol yn cael eu cynnal yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Medi-fis Mawrth 2025.
ABERTAWE: Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Ionawr-Gorffennaf 2025. Dyddiad cau 11 Tachwedd. Gwnewch gais nawr!
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar-lein am bedwar mis. Darganfyddwch fwy.
Arweinydd Newydd Cymru: Rhaglen ar-lein chwe mis wedi’i llunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â thair i chwe blynedd o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Fe fydd y rhaglen yn rhedeg – Medi 2024–Mawrth 2025. Mae ceisiadau bellach ar gau.
Arweinydd Profiadol Cymru: Rhaglen ar-lein chwe mis wedi’i llunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â chwe blynedd a mwy o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Ionawr ac Ebrill 2025. Gwnewch gais nawr!
Cyd-lunio ‘datganiad arweinyddiaeth’ drwy gyfres o weithgareddau ymgysylltu â
- chyn-fyfyrwyr o’r prosiect peilot,
- cyfranogwyr o’r rhaglenni arweinyddiaeth sydd ar y gweill,
- sefydliadau’r trydydd sector
- budd-ddeiliaid eraill sydd â diddordeb
Bydd y datganiad yn nodi:
- beth mae’r sector cymdeithasol yn ei ystyried yn arweinyddiaeth dda yng nghyd-destun ei waith yng Nghymru;
- sut y gallwn ymrwymo i gryfhau arweinyddiaeth yn y tymor hir;
- y dull y dylai arweinwyr cymdeithasol ei gymryd i ddod o hyd i atebion;
- gwerth datblygu arweinyddiaeth;
- manteision arweinyddiaeth gymdeithasol dda.
Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i gefnogi dyfodol arweinyddiaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis gyda sesiynau ar-lein ac wyneb-i-wyneb. Bydd y rhaglen yn rhedeg Mehefin–Rhagfyr 2024. Mae ceisiadau bellach ar gau.
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis gyda sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Medi 2024-Mawrth 2025. Mae ceisiadau bellach ar gau.
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth chwe mis gyda sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Ionawr-fis Gorffennaf 2025. Dyddiad cau 11 Tachwedd.
Arweinydd Newydd Cymru: Rhaglen ar-lein chwe mis wedi'i llunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â thair i chwe blynedd o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng Medi-Rhagfyr 2024. Mae ceisiadau bellach ar gau.
Ein Noddwyr a’n Partneriaid
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Cwmpas yn darparu Arweinwyr Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a CGGC.
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn bartner cyflawni ar gyfer y rhaglen unigryw hon yng Nghymru.
Cefnogir y prosiect gan Grŵp Cynghori ar Brosiect y mae ei aelodau’n adlewyrchu amrywiaeth a chyrhaeddiad y sector – sy’n arwydd o’r effaith rydyn ni am i’r rhaglenni ei chael. Rôl y grŵp Cynghori yw helpu i lunio’r rhaglen er mwyn ei gwneud yn berthnasol ac yn effeithiol i’r sector cymdeithasol yng Nghymru
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar ddydd Mercher 13 Mawrth 12:30 - 13:30 i gael gwybod mwy am y rhaglenni, cwrdd â thîm Rhaglenni Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore a chael ateb i'ch cwestiynau. Gallwch gofrestru lle ar gyfer y weminar yma, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!