Ymchwil Newydd Yn Dangos Bod Y Sector Menter Gymdeithasol Yn Gryfach Nag Erioed
Mae’r gwaith ymchwil diweddaraf sy’n mapio’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru wedi dangos ei fod yn mynd o nerth i nerth ar ôl Covid, gyda lefelau uchel o weithgarwch entrepreneuraidd.
Datgelodd Mapio’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru (2022), a gomisiynwyd gan Fusnes Cymdeithasol Cymru:
- Fod tua 2,828 o fusnesau yn y sector erbyn hyn, sef 22% yn fwy nag yn 2020 (2309).
- Bod busnesau cymdeithasol bellach yn cynrychioli 2.6% o gyfanswm y stoc busnes yng Nghymru, i fyny o 2.2% yn 2020.
- Bod cyfrifiadau’n dangos mai cyfanswm trosiant y sector yw £4.8bn, sef 26% yn fwy nag yn 2020 (£3.8bn). Mae hyn yn cynnwys mentrau mawr fel Dŵr Cymru a Pobl.
- Bod cyfrifiadau’n dangos mai cyfanswm y gyflogaeth ar gyfer y sector yw 65,299, sef 16% yn fwy nag yn 2020 (56,000).
- Bod cyfrifiadau’n dangos mai nifer y gwirfoddolwyr yw 54,261, sef 14% yn fwy nag yn 2020 (47,443).
- Bod chwarter y busnesau a arolygwyd yn ‘egin fusnesau’ sydd wedi bod yn masnachu am 2 flynedd neu lai.
Ers 2014, mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu arolwg mapio dwyflynyddol o’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Mae dau ddiben i’r ymarfer mapio, a gynhaliwyd gan Wavehill: deall maint a graddfa’r sector busnes cymdeithasol, a gwirio iechyd y sector (gan gynnwys amlygu rhai o’r heriau a wynebir a’r cyfleoedd sydd ar gael). Yn 2022, roedd yr ymarfer hefyd yn gyfle i ddeall sut oedd y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y sector.
Ddwy flynedd yn ôl yn 2020, canfu’r arolwg sector a oedd yn adfer ar ôl Covid-19, lle’r oedd effaith y pandemig yn atal twf yn hytrach nag achosi dirywiad. Yn 2020, roedd y sector yn dangos arwyddion cryf o ehangu trwy weithgarwch entrepreneuraidd.
Fodd bynnag, mae arwyddion o fregusrwydd yn y sector gyda thystiolaeth sy’n awgrymu y gallai effeithiau’r pandemig fod yn parhau o hyd, yn ogystal â phwysau yn sgil gostyngiad mewn arian cyhoeddus, prisiau ynni sy’n codi a chwyddiant uchel.
Fodd bynnag, mae’r rhagolygon ar gyfer twf busnes yn optimistaidd dros y tymor hir, ac mae llawer o fusnesau cymdeithasol yn obeithiol ynglŷn â’u trosiant a’u helw yn y dyfodol. Mae dangosyddion sy’n ymwneud â datblygiad busnes yn awgrymu bod busnesau cymdeithasol yn ceisio ehangu ac amrywiaethu, gan adrodd ar ystod o ddangosyddion datblygu busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llawer o ddangosyddion wedi adlamu’n ôl i lefel debyg i ffigurau 2018, ar ôl gostwng yn 2020. Mae hyn yn awgrymu y bu busnesau mewn cyfnod o gyfnerthu neu oroesi yn ystod y pandemig, ond eu bod yn ceisio tyfu eto bellach.
Glenn Bowen yw Prif Weithredwr dros dro Cwmpas, sy’n cyflwyno rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru. Dywedodd: “Mae’r astudiaeth arwyddocaol hon yn amlygu rôl gynyddol bwysig busnesau cymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru, yn enwedig yn y frwydr i fynd i’r afael â thlodi. Maen nhw’n aml yn cynnig gwasanaethau mewn ardaloedd difreintiedig na fyddent ar gael fel arall; maen nhw’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd, yn cyfrannu at ddatblygu economaidd mewn cymunedau sydd dan anfantais, ac yn aml yn targedu eu gwaith yn uniongyrchol i helpu pobl ddifreintiedig. Mae hyn yn bwysicach nag erioed o ystyried y pwysau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r argyfwng costau byw sy’n wynebu ein cymunedau.
“Gobeithiwn y bydd data o’r ymarfer mapio yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau, cynllunio a chynnal gwasanaethau cyhoeddus, a dyrannu arian er mwyn parhau i gefnogi’r sector.”
Darllenwch yr adroddiad mapio sector 2022 llawn a’r crynodeb yma.
Rhaglen cymorth busnes yw Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan Cwmpas ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.