Astudiaethau achos Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru
Darllenwch astudiaethau achos ar bwy y mae Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru wedi’u cefnogi a darganfyddwch yr effaith y mae’r sefydliadau hyn yn ei chael yn eu cymunedau
Mae Menter Ty’n Llan Cyfyngedig yn Gymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd ymmis Mawrth 2021. Ei nod oedd sicrhau cyfle i'r gymuned fod yn berchen ar ei thafarnleol a oedd wedi bod ar gau ers cryn amser, trwy gynnig cyfranddaliadaucymunedol, gyda'r nod o'i ailagor fel tafarn a hefyd, fel lle y gallai'r gymuned gyfanei ddefnyddio.
Tafarn Dyffryn Aeron yn gosod y safon ar gyfer llwyddiant budd cymunedol: Mae tafarn gymunedol wedi cael ei phrynu gan drigolion lleol – gyda’r sêr Hollywood Matthew Rhys a Rhys Ifans ymysg y rhai sydd wedi buddsoddi mewn cyfranddaliadau – ac mae’n mynd o nerth i nerth erbyn hyn.
Mae Gwlyptiroedd Cymunedol Cwmbach, yn Rhondda Cynon Taf, yn dod â haid o bobl leol ynghyd – yn cynnwys athrawon, pobl wedi ymddeol a gweithwyr cyfryngau proffesiynol – i drefnu cynnig cyfranddaliadau cymunedol ar gyfer llain o dir sydd wedi’i esgeuluso ers blynyddoedd lawer.
Cais cynllun cyfranddaliadau cymunedol i achub hen siop nwyddau metel a hyb cymunedol: Mae dyfodol siop nwyddau metel boblogaidd, sydd wedi bod wrth galon y gymuned yn Sir Benfro ers yr 1800au, wedi’i hachub gan berchnogaeth gymunedol – gyda gor-ŵyr y perchennog gwreiddiol yn rhan o’r cynllun.
Mae ein tîm yn frwd dros berchnogaeth gymunedol ac yn mwynhau gweithio gyda phobl ledled Cymru i godi’r cyfalaf sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a rennir. Os oes angen cymorth arnoch, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.
Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i Gymru ac angen cymorth gyda’ch cynllun cyfranddaliadau cymunedol, ewch i dudalen we Cyfranddaliadau Cymunedol yn Co-operative’s UK: Community Shares | Co-operatives UK
Tudalen gartref Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru: Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru
Darganfod mwy gan Cwmpas: Ein gwasanaethau