Ymuno â ni
Cwmni cydweithredol yw Cwmpas. Drwy ymaelodi, gallwch ddangos eich ymroddiad i gydweithredu a helpu i sbarduno’r sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru.
Cwmpas yw asiantaeth datblygu cydweithredol fwyaf y DU.
Fel cwmni cydweithredol, rydym yn cael ein tywys gan gymuned egnïol o aelodau sy’n llywio ein cyfeiriad strategol, yn craffu ar ein gweithgarwch, yn cynyddu ein dylanwad ac yn sicrhau ein bod yn llais i’r economi gymdeithasol yng Nghymru.
Pam ymaelodi?
Mae aelodaeth i bobl a sefydliadau sy’n frwd dros gwmnïau cydweithredol a chydweithredu ac am wneud y canlynol:
- Gwneud gwahaniaeth drwy gefnogi gweithgareddau cydweithredol yng Nghymru
- Rhannu gwybodaeth am weithgareddau cydweithredol er mwyn helpu i addysgu a hysbysu’r boblogaeth ehangach
- Chwarae rhan lawn yng ngwaith Cwmpas a chymryd rhan yn ei phrosesau democrataidd
- Defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau cydweithredol lle bynnag y bo modd
- Meithrin partneriaethau cydweithredol ag eraill sy’n meithrin datblygiad cynaliadwy cymunedau lleol
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ymaelodi?
- Byddwch yn cael diweddariadau rheolaidd am ffyrdd o gymryd rhan yn Cwmpas a’r mudiad cydweithredol yng Nghymru
- Byddwch yn cael cyfleoedd i gysylltu â chydweithredwyr eraill
- Ymgynghorir â chi ynghylch cyfeiriad strategol Cwmpas a byddwch yn cael cyfleoedd i ddylanwadu ar ein gwaith polisi
- Byddwch yn cael eich gwahodd i’n cyfarfod cyffredinol blynyddol ac yn cael y cyfle i sefyll etholiad i’r Bwrdd
Faint mae'n ei gostio?
Sut y gallaf ymaelodi?
Mae’n hawdd iawn tanysgrifio drwy ddefnyddio ein proses dalu ddiogel, sef Web Collect. Mae eich tanysgrifiad yn cynnwys cyfranddaliad £1 nad oes modd ei dynnu allan na’i drosglwyddo a chaiff ei gymryd o’ch taliad blwyddyn gyntaf. Mae tanysgrifiad i’w adnewyddu’n flynyddol.
Mae’n rhaid i aelodau fod yn 16 oed neu’n hŷn. Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff ein Bwrdd beidio â chymeradwyo aelodaeth. Os yw hyn yn digwydd, caiff eich tanysgrifiad ei ad-dalu.
Rydym yn credu y gall cwmnïau cydweithredol ac egwyddorion cydweithredol helpu pobl, teuluoedd, cymunedau a busnesau i fod yn gryfach ac yn fwy hyderus. Drwy ymaelodi, byddwch yn cefnogi’r egwyddorion hyn ac yn helpu i ledaenu’r delfrydau hyn.