Budd Economaidd Perchnogaeth Gweithwyr yng Nghymru
Cael mwenwelediad i fuddion economaidd y model, yn ogystal ag effeithiau ar gynhyrchiant, gwytnwch ac ymgysylltu â gweithwyr
Mae Perchnogaeth Gweithwyr (PG) yn y DU wedi dyblu dros y tair blynedd diwethaf. Erbyn mis Rhagfyr 2022 gwelodd ymchwil gan y Gymdeithas Perchnogaeth Gweithwyr a Chanolfan White Rose ar gyfer Perchnogaeth Gweithwyr y nifer cyrraedd 1,300. Yma yng Nghymru, rydym hefyd wedi gweld twf dramatig yn nifer y busnesau sy’n dod yn eiddo i weithwyr. Roeddem ni am ddeall beth sy’n gyrru busnesau Cymru i drosglwyddo i PG.
I’r perwyl hwn, mae Wavehill wedi cael ei gomisiynu gan dîm Perchnogaeth Gweithwyr Cymru i helpu i ganfod manteision perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru, drwy ymgysylltu â busnesau sydd wedi trosglwyddo’n llwyddiannus i fodel PG. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau PG yng Nghymru, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.
Cliciwch yma i ddarllen a lawrlwytho adroddiad Budd Economaidd Perchnogaeth Gweithwyr yng Nghymru
Cliciwch yma i ddarllen a lawrlwytho Crynodeb Gweithredol yr adroddiad
"Mae'r manteision enfawr yn ymwneud â chadw cyfoeth yn y cymunedau sydd wedi creu'r cyfoeth hwnnw. Budd sylweddol i mi fel cyfranddaliwr yw cynaliadwyedd y busnes ymhell ar ôl i mi beidio â gweithio ynddo mwyach, a'r cyfleoedd y mae'n eu darparu i'r tîm sydd wedi ein helpu i adeiladu'r busnes."