Perchnogaeth Gweithwyr Cymru
P’un a ydych chi’n ystyried camu’n ôl, gwerthu neu ddatblygu gweithlu ymroddedig, gallwn gynnig ateb i chi.

A wyddoch chi mai perchnogaeth gan weithwyr yw’r math o berchnogaeth busnes sy’n tyfu’n gyflymaf yn y DU?
Pam? Oherwydd mae Busnesau sy’n Eiddo i Weithwyr:
- Yn fwy proffidiol
- Yn dangos cynnydd mewn cynhyrchiant
- Yn dangos lefelau arloesi uwch
- Yn fwy cydnerth yn economaidd
- Yn well o ran denu a chadw staff rhagorol
- Yn ymrwymo’n gryfach i gymunedau lleol
P’un a ydych chi’n ystyried pontio’n llwyr at berchnogaeth gweithwyr, rhoi cynllun cyfrannau gweithwyr ar waith neu bryniant gan reolwyr, gall ein tîm o arbenigwyr profiadol reoli’r broses cyfan ar eich rhan – a hynny wedi’i gyllido’n llawn. Mae’n benderfyniad mawr, ond gyda ni wrth eich ochr, rydych chi a’ch busnes mewn dwylo diogel.

Darganfod mwy
Mae’n benderfyniad mawr, ond gyda ni wrth eich ochr, rydych chi a’ch busnes mewn dwylo diogel. Mae Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn wasanaeth a ddarperir drwy raglen Busnes Cymdeithasol Cymru, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i gyflenwi gan Cwmpas. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru neu e-bostiwch ein tîm yn sbwenquiries@cwmpas.coop
Ewch i wefan Perchnogaeth Gweithwyr Cymru