Yr hyn a wnawn
Cwmpas yw asiantaeth datblygu cydweithredol fwyaf y DU.
              Rydym wedi bod wrth galon economi gymdeithasol fywiog Cymru ers 1982, gan ddod â chyllidwyr a phartneriaid ynghyd i wneud ein cymunedau’n fwy hyderus, uchelgeisiol, ac yn fwy cydweithredol.
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau (masnachol a chyllid cyhoeddus) ac yn gwneud gwaith polisi a materion cyhoeddus, pob un â’r nod o gyflawni ein hamcanion corfforaethol.
                                          Creu economi decach a gwyrddach
                Rydym yn helpu ein heconomi i ddod yn decach ac yn wyrddach trwy gynyddu nifer a graddfa’r mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau a berchnogir gan weithwyr.
                
                                  Cysylltwch â ni
                              
                                          Ffurfio cymdeithas fwy cyfartal
                Rydym yn helpu meithrin cydraddoldeb yn ein cymdeithas, trwy wella sgiliau’r rhai sy’n cael eu heithrio (neu mewn perygl o gael eu heithrio). Rydym hefyd yn helpu cymunedau sy’n cael eu hymyleiddio a’u hesgeuluso i wella gwasanaethau a chyfleusterau yn eu hardaloedd.
                
                              
                                          Gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd
                Rydym yn rhoi cyngor a chymorth i sefydliadau cyhoeddus, preifat, elusennol a gwirfoddol (‘trydydd sector’), fel y gallant wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cwsmeriaid a’u cymunedau.
                
                              
                                          Hoffem glywed gennych
                Felly p'un a ydych chi am gael cefnogaeth gan ein harbenigwyr, cyrchu ein hadnoddau ar-lein, neu gymryd rhan yn ein gwaith polisi, hoffem glywed gennych.
                
                                  Cysylltwch â ni