Rhaglen Busnesau Cymdeithasol Newydd Entrepreneuriaid Ifanc


Bydd rhaglen newydd, a fydd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau pobl ifanc i ddechrau busnes cymdeithasol, yn rhedeg yn ystod hydref 2025.
Bydd y rhaglen, sydd wedi’i chynllunio ar y cyd â phobl ifanc, yn helpu i ddatblygu eu syniadau eu hunain am fusnes cymdeithasol ac i’w gwireddu. Byddwn hefyd yn dysgu rhai sgiliau gwerthfawr ac yn meithrin hyder.
Mae’r rhaglen yn agored i bobl 16–25 oed ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i nod yw helpu’r bobl ifanc yma i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i gyflawni eu potensial, wrth iddyn nhw roi syniad busnes sy’n dda i bobl neu’r blaned ar brawf.
Byddwn:
- Yn edrych ar sut mae busnesau cymdeithasol lleol yn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol
- Yn cael ein hysbrydoli gan fentoriaid sy’n rhedeg mentrau cymdeithasol yn eich cymuned
- Yn ymchwilio i faterion sy’n bwysig i chi ac yn datblygu syniadau ar sut i fynd i’r afael â nhw
- Yn troi eich syniad yn gynllun busnes gyda hyfforddiant busnes arbenigol
- Yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel ymweliadau busnes, gŵyl syniadau a digwyddiad ‘pitsio’
Diddordeb? Cofrestrwch yma
Bydd sesiwn agored yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd/ar-lein – cofrestrwch eich diddordeb a byddwn mewn cysylltiad pan fydd dyddiadau ar gael. Mae’n debygol o fod yn 2–4 sesiwn ‘hanner diwrnod’.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda nifer fach o sefydliadau cymunedol i gyflwyno’r rhaglen yn uniongyrchol i’w haelodau grŵp. Cysylltwch â ni os oes gan eich grŵp ddiddordeb.
Cwmpas yw’r brif asiantaeth ddatblygu ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n cyflwyno’r rhaglen hon mewn partneriaeth â Plant yng Nghymru. Ariennir y prosiect hwn drwy ‘Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau: Tlodi Plant’ Llywodraeth Cymru.

Cwmpas yw’r brif asiantaeth ddatblygu ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni wedi helpu cannoedd o fusnesau cymdeithasol i drawsnewid cymunedau. Gyda’n gilydd, rydyn ni am helpu pobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n wynebu rhwystrau, drwy feithrin eu sgiliau a’u hyder i wneud yr un peth.
Fel arfer, caiff mentrau cymdeithasol eu rhedeg i helpu i fynd i’r afael â mater cymdeithasol neu amgylcheddol drwy fasnachu.
Oes gennych chi ragor o gwestiynau?
Cysylltwch â ni a bydd ein tîm cyfeillgar mewn cysylltiad. Gallwch anfon e-bost neu ffonio