Etholiad y Senedd 2026: Beth Mae Angen i Fusnesau Cymdeithasol ei Wybod

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai, a hwn fydd yr etholiad cyntaf o dan system etholiadol newydd Cymru.  I fentrau cymdeithasol, cydweithredol  a chymunedol ledled Cymru, mae’r etholiad hwn yn bwysig. Bydd yn dod â chynrychiolwyr gwleidyddol ac etholaethau newydd ac o bosibl flaenoriaethau polisi newydd.  Bydd deall y newidiadau hyn – ac ymgysylltu â chandidatiaid a gwleidyddion yn gynnar – yn helpu i sicrhau bod y sector busnesau cymdeithasol yn parhau i dyfu ac yn chwarae rôl ganolog wrth adeiladu economi decach a mwy llewyrchus yng Nghymru, ynghyd â chymunedau cryfach a mwy gwydn.  Rydym yn gwybod bod llawer o bobl sy’n gweithio yn y sector mentrau cymdeithasol yn brysur iawn, ac nad oes gan bawb yr amser i gadw i fyny â newidiadau cymhleth i systemau etholiadol. Dyna pam rydym wedi ysgrifennu’r blog hwn i egluro’r prif newidiadau ac i awgrymu rhai camau y gallwch eu cymryd i helpu’r sector i wneud y mwyaf o’r cyfnod hwn.  System Etholiadol Newydd i’r Senedd  Bydd etholiad 2026 yn cael ei gynnal o dan system etholiadol gyfrannol newydd….