Prentisiaeth “Cymunedau Creu Cartrefi” 2026 – Canolbwyntio ar Bobl Hŷn

Prentisiaeth “Cymunedau Creu Cartrefi” 2026 – Canolbwyntio ar Bobl Hŷn

Prentisiaeth “Cymunedau Creu Cartrefi” 2026 – Canolbwyntio ar Bobl Hŷn

Mae Cwmpas yn cynnig brentisiaethau (interniaethau)  gyda’n Cyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol. Nod y brentisiaeth (interniaeth) 12 mis hon yn y tîm “ Cymunedau’n Creu Cartrefi” yw ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru ynghylch eu hanghenion tai a chodi ymwybyddiaeth o dai cyfunol – tai sy’n cael eu harwain gan y gymuned ( TDaG) fel opsiwn tai fforddiadwy, grymus ac chynaliadwy. Mae’r cyfle hwn ar agor i unrhyw un 18+ oed, ar unrhyw gam yn eu gyrfa, i weithio gyda hwb tai gymunedol Cymru. Yn arbennig, rydym yn annog ceisiadau gan bobl 50+ oed sydd â phrofiad byw o’r heriau o ddod o hyd i dai addas a fforddiadwy yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Ein sefydliad 

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid cadarnhaol yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydym yn  gwmni cydweithredol, a chanolbwynt ein gwaith yw adeiladu economi yn decach, yn wyrddach ac yn fwy  cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod gyntaf. 

 Ein nod yw creu economi wyrddach a  thecach drwy weithio i gynyddu cyfran y economi sy’n cael ei ffurfio gan fenterau cymdeithasol, cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr; cymdeithas fwy cyfartal  drwy weithio i hybu cyfiawnder cymdeithasol — cynyddu mynediad, ecwiti , amrywiaeth a chyfranogiad; a gwneud newid cadarnhaol drwy weithio gyda phobl a sefydliadau i gymryd camau er lles cymdeithasol. 

Ynghlwm â’n gwaith mae ymrwymiad i ddarparu cymorth i bobl, cymunedau a busnesau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd cydweithredol ein hunain. Credwn fod y ffordd rydym yn gwneud pethau yn ddigonol o bwysig â’r hyn a wnawn ni. Mae ein gwerthoedd wedi’u hysbrydoli gan egwyddorion cyweithredol rhyngwladol  ond wedi’u hysgrifennu  yng ngeiriau ein staff.  Maent fel a ganlyn: 

  • bod yn gydweithredol 
  • bod yn gefnogol 
  • bod yn deg 
  • cael integreiddiad 
  • bod yn gadarnhaol 
  • bod yn ysbrydoledig. 

Fel sefydliad di-elw, mae ein gwaith yn cael ei ariannu drwy gontractau a masnachu yn ogystal â chymorth gan amrywiaeth o gyllidwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru. 

Gallwch ddarllen mwy am ein meysydd o waith yma, a gallwch ddarllen am yr effaith a wnawn ni yma. 

Ein pobl 

Ledled Cymru  rydym bellach yn cyflogi bron 100 o bobl o oedrannau, rhywiau a chyfeiriadau rhywiol gwahanol. Fodd bynnag,  rydym yn cydnabod nad ydym yn cynrychioli’n llawn y cymunedau a’r pobl a wasanaethwn o ran hil, ac rydym yn hynod awyddus i sicrhau ein bod yn croesawu’n llawn y sgiliau, galluoedd a phrofiadau diwylliannol pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol oherwydd credwn fod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad yn hanfodol i’n twf. 

 

Ein cyfle 

Beth yw’r nod? 

Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio, ac mae llawer o bobl hŷn yn wynebu  tai anaddas, anhygyrch neu ynysig  Mae tai dan arweiniad y gymuned  yn cynnwys pobl yn dod at ei gilydd i benderfynu ar y math o gartrefi a chymunedau maen nhw eisiau byw ynddynt. Gallai fod yn grŵp o ffrindiau yn trawsnewid eiddo gwag yn gartref i’w rannu, cymunedau gyfan yn adeiladu eu cartrefi eu hunain neu gymdeithas tai’n gweithio gyda’r gymuned i ddarparu tai fforddiadwy sydd  eu hangen. Gall tai  dan arweiniad y gymuned gynnig  fwy o lais, dewis a rheolaeth i bobl hŷn dros ble a sut  maen nhw’n byw – boed hynny drwy gyd-fyw, perchnogaeth a rennir, byw rhyng-gehedlaeth neu leoedd addas sy’n cefnogi lles a chysylltiad. 

Nod y interniaeth hon yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dai  dan arweiniad y gymuned ymhlith pobl hŷn yng Nghymru, a chefnogi grwpiau a chymunedau i archwilio atebion sy’n cyflawni eu hanghenion  newidiol. Byddwch yn helpu i osod y sylfeini i bobl hŷn chwarae rôl weithredol mewn datblygu opsiynau tai fforddiadwy iddynt sy’n hybu annibyniaeth, urddas a chymuned. Rydym eisiau sicrhau bod pobl o bob cymuned ledled Cymru yn  rhan  o’r penderfyniadau am eu hanghenion tai a’u dyfodol. 

Byddwch hefyd yn cyfrannu at sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn siapio dyfodol tai yng Nghymru. 

Mae’r interniaeth  ar gael i unrhyw un18+, ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, fel cyfle i weithio gyda hwb tai cymunedol Cymru  Yn arbennig, rydym yn annog ceisiadau gan bobl 50+ sydd â phrofiad byw o’r heriau o dai addas a fforddiadwy. 

Beth sydd ar gael? 

Byddwn yn cynnig interniaeth12 mis gyda’n tîm “Cymunedau’n Creu Cartrefi ”. Byddwn yn talu’r cyflog byw gwirioneddol  am y rôl hon, h.y. £13.45 yr awr (sy’n cyfateb i £24,479 y flwyddyn). 

Yn ddelfrydol, byddai’r  interniaeth  yn rôl  llawn amser (35 awr yr wythnos), ond byddem hefyd yn ystyried gweithio’n rhan-amser (21-35 awr yr wythnos) os  yw hyn yn helpu i gefnogi ymrwymiadau eraill neu anghenion hygyrchedd. 

Bydd yr Intern  yn gweithio o gartref gan ddefnyddio datrysiadau digidol fel Microsoft Teams i gyfathrebu  ag aelodau’r tîm a rheoli dogfennau gwaith. Bydd offer digidol yn cael ei ddarparu i’w galluogi i wneud hyn. Bydd cyfle i dreulio amser gyda’r tîm ehangach “Cymunedau’n Creu Cartrefi ” wyneb yn wyneb. Lle bydd teithio o fewn Cymru yn ofynnol, bydd Cwmpas yn talu costau’r milltiroedd neu’n prynu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. 

Beth fyddwch yn ei wneud? 

Wedi’i leoli yn ein tîm “Cymunedau’n Creu Cartrefi ” ac wedi’i ariannu gan Oak Foundation, byddwch yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu â phobl hŷn o bob cwr o Gymru i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltiad â’n rhaglen dai cdan arweiniad y gymuned. 

Bydd hyn yn c ynnwys deall anghenion tai pobl hŷn ac ymchwilio i’r rhwystrau a mae pobl yn wynebu wrth fynd i’r afael â thai dan arweiniad y gymuned . Byddwch yn adeiladu a meithrin perthnasoedd ystyrlon a dod â phobl ynghyd i drafod yr heriau maen nhw’n eu hwynebu,  wrth hyrwyddo tai  dan arweiniad y gymuned fel opsiwn tai ar gyfer y dyfodol. 

Gall diwrnod cyffredin gynnwys: 

  • Siarad â phobl hŷn am eu hanghenion tai a’u dyheadau 
  • Deall ac ymchwilio’r rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn wrth gael mynediad at neu ddatblygu tai dan arweiniad y gymuned  fforddiadwy 
  • Adeiladu perthnasoedd gyda sefydliadau pobl hŷn, gweithwyr proffesiynol tai, a rhwydweithiau cymunedol i ddeall sut y gallant gefnogi tai  dan arweiniad y gymuned 
  • Dysgu o rannau eraill o’r DU a rhyngwladol lle mae tai  dan arweiniad y gymuned ar gyfer pobl hŷn wedi’u datblygu, a rhannu’r dysgu i lywio ac ysbrydoli  gweithredu yng Nghymru 
  • Cynnal digwyddiadau ymgysylltu  cymunedol, gan gynnwys sesiynau gwybodaeth, galw heibio, gweithdai ac ati 
  • Hyrwyddo tai  dan arweiniad y gymuned fel offeryn i fynd i’r afael  ag  unigedd, gwella lles, a chreu amgylcheddau cefnogol mewn bywyd hŷn 
  • Gweithio fel rhan o dîm i ddylanwadu ar lunwyr bolisi a  phenderfyniadau 
  • Cysylltu ag   interniaid eraill o fewn gyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol Cwmpas a rhannu syniadau a dysgu. 

Beth fyddwch yn ei ddysgu? 

Byddwch yn dysgu am yr argyfwng  tai yng Nghymru, a sut y gall tai  dan arweiniad y gymuned chwarae rôl wrth greu mwy o gartrefi fforddiadwy, a ddatblygwyd gan ac ar gyfer pobl leol. 

Byddwch yn dysgu am fanteision tai  dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys sut y gall leihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd, cynyddu hyder a sgiliau, yn ogystal â chreu cymunedau mwy gwrthsefyll a chydlynol. 

Byddwch yn cael y cyfle i ymgysylltu ag amrwywiaeth eang  o bobl a chymunedau a’u helpu i gymryd camau i fynd i’r afael â materion sy’n bwysig iddynt. 

Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm bach ond prysur, sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru.  

Byddwn yn darparu clawr gwaith i chi, a fydd yn caniatáu i chi weithio’n annibynnol a defnyddio’ch creadigrwydd eich hun ond hefyd yn darparu cefnogaeth pan fydd angen. 

Bydd gennych fynediad i’n Hwb E-ddysgu, sy’n cynnwys amrywiaeth fawr o fodiwlau ar gael ar bynciau megis Iechyd a Diogelwch, GDPR, Arweinyddiaeth, TG a Llesiant. Hefyd byddwch yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm ac yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd hyfforddi mewnol sydd efallai’n codi o bryd i’w gilydd. 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch? 

Rydym yn chwilio am  ymgeiswyr sy’n: 

  • yn ymrwymedig i’n gwerthoedd sefydliadol 
  • yn gallu hyrwyddo ein hymrwymiad i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiad 
  • yn gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon dda yn Saesneg 
  • yn gallu trefnu eu gwaith, eu hunain a chyflawni gwaith gwahanol ar gyfer dyddiadau cau gwahanol 
  • yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm 
  • yn gallu meddwl yn greadigol, ac awgrymu syniadau newydd 
  • yn gallu defnyddio cyfrifiadur ac yn ddelfrydol llwyfannau fel Facebook, Twitter, LinkedIn neu YouTube. 

Pwy all wneud cais? 

Os credwch y byddech yn addas ar gyfer ein lleoliad gwaith , rydym yn chwilio am bobl: 

  • sy’n gallu tystio’r hawl i weithio yn y DU 
  • sy’n gallu ymrwymo i’r cyfnod lleoliad 12 mis llawn neu rhan-amser 
  • sy’n gallu cael mynediad i’r rhyngrwyd o gartref 
  • sy’n gallu teithio i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau fel yn ôl yr angen. 

Yn arbennig rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd  heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnoad lafur yng Nghymru, ond mae’r lleoliad hwn ar agor i bob ymgeisydd cymwys waeth beth fo’u rhyw, oedran, anabledd, hunaniaeth rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, cred neu’r diffyg cred, beichiogrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil. Mae hefyd ar agor i bobl ag unrhyw lefel o brofiad gwaith mewn unrhyw faes, gan gynnwys y rhai heb brofiad o gwbl. 

A stock photo of two people working at a laptop and consu
Sut i wneud cais?
I wneud cais am y interniaeth, cwblhewch ein ffurflen gais fer ac e-bostiwch at recruitment@cwmpas.coop. Rhaid i chi gyflwyno’ch ceisiadau erbyn hanner nos dydd Sul 4 Ionawr 2026. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Casey Edwards, Rheolwr Rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi ar 07771554948 neu casey.edwards@cwmpas.coop. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Ffurflen Gais