Preifatrwydd
Mae Cwmpas wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd pan rydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r datganiadau isod yn esbonio sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, sut rydym yn gwarchod eich preifatrwydd a beth yw eich hawliau. Beth yw gwybodaeth bersonol? Mae data personol yn golygu unrhyw ddata sy’n adnabod unigolyn byw. Mae prosesu data personol (casglu, storio, defnyddio, newid, rhannu neu ddinistrio gwybodaeth bersonol) yn cael ei lywodraethu gan Deddf Diogelu Data’r DU (2018). Pwy ydym ni? Cwmpas yw’r rheolwr data (manylion cyswllt isod). Mae hyn yn golygu ei bod yn penderfynu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu ac at ba ddibenion. Sut ydym ni’n prosesu eich data personol? Mae Cwmpas yn cydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan y GDPR trwy gadw data personol yn gyfredol; trwy storio a dinistrio data’n ddiogel; trwy beidio â chasglu na chadw gormod o ddata; trwy ddiogelu data personol rhag colled, camddefnydd, mynediad diawdurdod a datgelu diawdurdod, a thrwy sicrhau bod mesurau technegol priodol ar waith i ddiogelu data personol. Pam rydym angen eich gwybodaeth? Rydym angen defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn:
Rhannu eich data personolBydd eich data personol yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, a’i rannu â’r canlynol yn unig:
Mae’n ofynnol yn ôl contract i drydydd partïon ddiogelu eich data a chydymffurfio â’r GDPR. Sut mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol pan:
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol? Ein cyllidwyr prosiect sy’n pennu pa mor hir y mae’n rhaid i ni gadw eich data. Ni fydd eich data’n cael ei gadw am gyfnod hwy nag sy’n angenrheidiol rhag ofn y bydd unrhyw gwynion, hawliadau cyfreithiol neu ymholiadau archwilio. I gael manylion dyddiadau cadw ar gyfer prosiectau penodol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Eich hawliau a’ch data personol Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:
Trosglwyddo data dramor Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich data yn aros yn y DU, neu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) y cydnabyddir yng nghyfraith y DU bod ganddi fesurau diogelu digonol ar gyfer eich hawliau diogelu data. Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wledydd y tu allan i’r AEE neu i sefydliad rhyngwladol. Pan fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r AEE, byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y data’n ddiogel. Pan fydd sefydliadau neu lwyfannau rydym yn cydweithio â nhw yn gweithredu’n fyd-eang neu’n defnyddio gwasanaethau y tu allan i’r DU, byddwn yn cymryd camau rhesymol er mwyn sicrhau bod mesurau diogelu fel penderfyniad digonolrwydd y DU, neu gymalau contract enghreifftiol ar waith i ddiogelu data personol. Gwneud penderfyniadau’n awtomataidd Nid ydym yn gwneud penderfyniadau awtomataidd gyda’ch data personol. Prosesu ychwanegol Os hoffem ddefnyddio eich data personol at ddiben newydd, na chyfeirir ato yn yr Hysbysiad Diogelu Data hwn, byddwn yn rhoi hysbysiad newydd i chi sy’n esbonio’r defnydd newydd hwn cyn i ni ddechrau prosesu eich data, ac yn amlinellu’r dibenion perthnasol a’r amodau prosesu. Pryd bynnag y bo’r angen, byddwn yn ceisio eich caniatâd o flaen llaw ar gyfer y prosesu newydd. Manylion cyswllt I arfer eich holl hawliau perthnasol, gwneud ymholiadau neu gyflwyno cwyn, cysylltwch â Chyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Cwmpas yn y lle cyntaf ar 0300 111 5050 neu drwy anfon neges e-bost at info@cwmpas.coop neu drwy ysgrifennu at Sbarc, Stryd Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu drwy anfon neges e-bost at https://ico.org.uk/global/contact-us/email/ neu drwy ysgrifennu at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. |