Perthyn cwrdd â’n tîm

Samantha Edwards – Rheolwr Prosiect Perthyn
Hei! Sam ydw i, rydw i wedi gweithio i Cwmpas ers 3 blynedd ac ar brosiect Perthyn am y 2 flynedd ddiwethaf ac rydw i’n rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd y prosiect, rydw i fel arfer yn y cefndir, ond rydw i’n mwynhau’n arw pob cyfle i sgwrsio a chwrdd â chymunedau.
Mae fy mhrofiad a chefndir yn dod o amrywiaeth o sectorau o awdurdod lleol, addysg a’r sector iechyd a chymdeithasol. Rwy’n angerddol am ddatblygiad cymunedol a’r iaith Gymraeg, rhan gorau o fy rôl yw gweld y cynnydd mae aelodau’r gymuned yn ei wneud a’r effaith maent yn ei greu trwy ddatblygu eu syniadau gyda phrosiect Perthyn a chynllun grantiau bach Perthyn.
Tu allan o waith dwi’n hoff o ddarllen, coginio, a threulio amser gyda fy nheulu a’n ci, Tirion.

Paul Roberts – Cydlynydd Gogledd Prosiect Perthyn
Haia, Paul ydw i, Cydlynydd Prosiect Perthyn ar gyfer Gogledd Cymru. Fy rôl i yw cefnogi cymunedau lleol i sefydlu, ehangu ac ysbrydoli eu mentrau trwy ddatblygu eu syniadau yn fentrau cymdeithasol.
Rwyf wedi gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau drwy gydol fy ngyrfa, o redeg lleoliad celfyddydau a sinema i helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u dyheadau. Rwy’n angerddol am Gymru, yr iaith Gymraeg a’i hanes, ac rwy’n gyffrous am ddyfodol ein cymunedau lleol.
Ar ôl bod yn rhan o daith fy nghymuned fy hun wrth sefydlu menter gymdeithasol a’i gweld yn ffynnu, rwyf wedi datblygu angerdd gwirioneddol dros helpu eraill i gyflawni eu nodau.
Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau teithio, profi diwylliannau newydd (a blasu’r bwyd lleol, wrth gwrs!), mynd i’r theatr, a mynd ar goll mewn llyfr da.

Jocelle Lovell – Cyfarwyddwr Cymunedau a Chynhwysiant
Shwmae. Rwy’n goruchwylio portffolio o waith gan gynnwys tai dai arweiniad y gymuned, cynhwysiant digidol, iechyd a gofal cymdeithasol a’r prosiect bach ond nerthol Perthyn.
Dechreuodd fy niddordeb mewn datblygiadau cymunedol pan oeddwn yn 21 oed, lle wnaethai cymryd dros dafarn bentref caeedig yn Sir Benfro. Daeth y dafarn yn galon i’r gymuned lle’r oedd croeso i bawb. Rwyf wedi gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru ers 20 mlynedd yn cefnogi pobl a chymunedau i fynd i’r afael â materion allweddol sydd o bwys iddynt.
Pan nad ydw i’n gweithio fe fyddwch chi’n ffeindio fi allan yn crwydro gyda fy Labrador du, ‘Otter’, mae e’n nofio fel Dyfrgi! Rwy’n hoffi marchogaeth a hefyd yn fy amser hamdden yn ymgyrchu i wella llwybrau marchogaeth yn fy ardal leol.

Chloe Howell – Gweinyddwr Prosiect Perthyn
Haia! Rhan fawr o fy rôl yw gweithio tu ôl i’r llenni gan sicrhau bod y broses grantiau yn rhedeg yn esmwyth, hefyd rwy’n gweithio’n agos gyda’r grwpiau sydd wedi derbyn y grant yn ogystal â chadw popeth wedi’i drefnu ar gyfer prosiect Perthyn. Rwy’n credu bod grant Perthyn yn amhrisiadwy i’r cymunedau Cymraeg lleol. Mae gallu gweld y gwahaniaeth mae’r prosiect a’r grant hwn yn ei gael ar gymunedau Cymreig yn ysbrydoledig ac rwy’n falch o chwarae fy rhan fach yn creu newid er lles pawb.
Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi aros yn actif a bod yn yr awyr agored gyda fy nghŵn, gwisgo i fyny a mynd am brydau neis gyda theulu a ffrindiau. Rwyf hefyd yn mwynhau coginio a phobi.

Cris Tomos – Cydlynydd De Orllewin Prosiect Perthyn
Helo, rwy’n gweithio i PLANED mewn partneriaeth â Cwmpas, yn darparu cefnogaeth ar gyfer syniadau cyfnod cynnar ar draws y De Orllewin. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, rydym yn helpu cymunedau lleol i gyflawni eu nodau.