Mae ein maniffesto yn galw am gynhwysiant digidol – ar draws y cenhedloedd
Galwad ar y cyd i weithredu cyn etholiadau Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac etholiadau llywodraeth leol Lloegr Mae Cwmpas, Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban, a Good Things Foundation yn gweithio ar draws y cenhedloedd i weithredu ar gynhwysiant digidol. Mae’r cydweithrediad trawsffiniol newydd hwn yn uno ein polisi a’n harfer yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Mae angen arweinyddiaeth a darpariaeth ar bob lefel. Mae’r maniffesto hwn yn nodi’r ymrwymiadau yr ydym am eu gweld gan ymgeiswyr a phenderfynwyr ledled Prydain Fawr. Beth mae rhaid i lywodraethau ei wneud nawr Wrth i ni nesáu at etholiadau mawr ledled y DU, rydym yn galw ar ymgeiswyr a llywodraethau i gymryd cynhwysiant digidol o ddifrif. Mae allgáu digidol yn achos ac yn ganlyniad i dlodi ac anghydraddoldeb. Mae bellach yn rhwystr strwythurol i wasanaethau hanfodol, cyfranogiad economaidd, addysg a democratiaeth. Er gwaethaf hyn, nid yw llywodraethau lleol a chenedlaethol eto wedi gwreiddio cynhwysiant digidol yn eu polisïau a’u rhaglenni – gan olygu bod miliynau yn dal i gael eu gadael ar ôl (Digital Nation, 2025). …
26 Chwefror 2026