Yr ymgais am Gymru sy’n rhydd rhag tlodi tanwydd
Ers gormod o amser, mae llawer o gartrefi yng Nghymru wedi bod yn cael trafferth ymdopi â thlodi tanwydd.
Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action yn gyfle i fyfyrio ar realiti tlodi tanwydd, ac ar yr hyn sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Fel rhan o’r Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol, ymatebom i ymchwiliad pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i dlodi tanwydd.
Dyma ein hymateb, gan dynnu sylw at y ffyrdd y gall prosiectau ynni cymunedol ailgydbwyso’r sector ynni yn yr hirdymor, a chefnogi cymunedau sy’n dioddef o dlodi tanwydd yn y tymor byr.
Mae tlodi tanwydd yn rhan gynyddol fawr o argyfwng tlodi ehangach yng Nghymru.
Rydym yn cefnogi galwadau National Energy Action i fynd i’r afael â thlodi tanwydd mewn ffordd dargedig, yn seiliedig ar ddata cadarn, cywir, cyfoes sy’n edrych ar y darlun tlodi cyfan.
Mae’r sector ynni sy’n eiddo i’r gymuned yn tyfu’n gyflym. Gallai’r prosiectau hyn, wedi’u perchen yn ddemocrataidd, fod yn ateb i’r system annheg heddiw lle mae pŵer wedi’i ganolbwyntio ar gorfforaethau mawr.
Dywed Ynni Cymunedol Cymru bod 36 o grwpiau ynni cymunedol gweithredol yng Nghymru yn 2022, yn cynhyrchu ynni gwyrdd, yn torri biliau tanwydd ac yn pwmpio arian a chefnogaeth i gymunedau lleol.
Mae’r prosiectau ynni cymunedol dibynadwy hyn, sydd wedi’u hangori yn yr ardal leol, hefyd yn cyflwyno cyngor targedig i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon, a darparu prosiectau trafnidiaeth gymunedol ac addysg lle mae eu hangen fwyaf.
Un enghraifft yw Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon yng ngogledd-orllewin Cymru.
Yn ddiweddar, cawsant eu henwebu ar gyfer Gwobr ‘Menter Gymdeithasol yn y Gymuned’ yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru – edrychwch ar y fideo hwn i weld yr effaith y maent yn ei chael yn eu cymuned:
Mae DEG yn cefnogi cymunedau i ymdopi â chostau cynyddol tanwydd ffosil wrth gefnogi’r newid i ddi-garbon.
Maent yn rhan o’r mudiad ynni gwyrdd llawer ehangach, yn darparu cyngor ynni i drigolion a sefydliadau cymunedol, yn lleihau allyriadau carbon, yn creu swyddi lleol yn yr economi werdd, yn ailgydbwyso’r sector ynni, ac yn helpu teuluoedd ledled Gwynedd i ddefnyddio ynni mewn ffordd fwy effeithlon.
Rydym yn cefnogi galwadau gan Ynni Cymunedol Cymru i sefydlu cronfa cyfoeth cymunedol newydd o ardoll ar ddatblygwyr ynni ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol, i roi newidiadau ar waith sy’n galluogi masnachu ynni lleol, ac ar gyfer buddsoddiad pellach mewn ynni cymunedol neu leol.
Byddem yn croesawu’r cyfle i weithio gydag Ynni Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi cymunedau i ddatblygu modelau newydd o berchnogaeth gynaliadwy.
Credwn fod angen cefnogaeth a buddsoddiad arbenigol ar brosiectau ynni cymunedol newydd a’r rheiny sy’n tyfu.
Mae angen capasiti, adnoddau ac ymwybyddiaeth ar gymunedau i ddechrau a thyfu’r prosiectau hyn ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor. Mae cefnogaeth y llywodraeth yn y maes hwn, yn ogystal â deddfwriaeth sy’n ymgorffori hawliau i berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau yng Nghymru, yn allweddol.
Dylai Llywodraethau Cymru a’r DU barhau i weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Ac yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru geisio gweithio gyda chlymblaid o randdeiliaid cymunedol eraill i ddatblygu dull amlweddog o fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac ailgydbwyso’r farchnad ynni.
Mae gan y sectorau mentrau cymdeithasol ac ynni sy’n eiddo i’r gymuned sgiliau, gwybodaeth a pherthnasoedd dibynadwy unigryw â’u cymunedau. Maen nhw’n bartner hanfodol yn yr ymgais i gael Cymru sy’n rhydd rhag tlodi tanwydd.
Yn y tymor byr, mae angen i ni gefnogi pobl sy’n dioddef tlodi tanwydd.
Mae prosiectau ynni cymunedol eisoes yn gwneud hyn mewn ffyrdd arloesol, dan arweiniad y gymuned.
Yn y tymor hwy, mae angen i ni ailgydbwyso’r farchnad ynni, gyda chymunedau a phrosiectau ynni sy’n eiddo i’r gymuned wrth wraidd gwneud penderfyniadau.
Credwn fod buddsoddi yn y sector mentrau cymdeithasol a chymunedol yn cynrychioli buddsoddiad yn ein gwytnwch ynni cyfunol.