Vaughan Gething yn Amlygu Effaith Busnes Cymdeithasol ar Ddiwrnod Mentrau Cymdeithasol
Diwrnod Menter Gymdeithasol
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething…
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae mentrau cymdeithasol wedi wynebu cyfnod hynod anodd a heriol, ond maent wedi bod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru, yn darparu cymorth i’r rhai mwyaf anghenus.
Mae Diwrnod Menter Gymdeithasol yn rhoi llwyfan i bob menter gymdeithasol ddweud ei stori, dangos yr hyn sy’n eu gwneud yn wahanol i fusnesau traddodiadol a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae eu gwaith yn ei chael ar bobl a chymunedau ym mhob cwr o Gymru. Mae hefyd yn gyfle i ddylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid, fel eu bod yn dewis menter gymdeithasol fel eu model dewisol.
Rwyf wedi buddsoddi £1.7 miliwn y flwyddyn yn y sector menter gymdeithasol hyd at Ebrill 2025 er mwyn rhoi cyngor arbenigol i fusnesau i ategu gweledigaeth ‘Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol’ sy’n rhoi mentrau cymdeithasol wrth galon Cymru decach, fwy cynaliadwy a mwy llewyrchus.
Rwy’n gwybod bod ein cymuned fusnes yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Rydym am ddefnyddio’r dulliau sydd gennym trwy Busnes Cymdeithasol Cymru i helpu mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol i feithrin gwytnwch ac arloesi i ddatgloi eu potensial enfawr.
Mae llawer o fentrau cymdeithasol yn gweithredu mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, dim gwastraff, bwyd, bioamrywiaeth a rheoli tir. Mae gan rai amcanion amgylcheddol ac maent yn sicrhau bod gwella eu hardal leol wrth wraidd eu nodau cymdeithasol.
Trwy ddysgu o’r gwerthoedd cydweithredol a’r mudiad cydweithredol, rydym yn tynnu ac yn adeiladu ar werthoedd ac egwyddorion traddodiadol sydd wedi hen sefydlu yng Nghymru.
Mae potensial enfawr i gwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol fod yn fodel busnes dewisol, sy’n darparu atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Hoffwn ddiolch i bob menter gymdeithasol am y cyfraniad y maent yn parhau i’w wneud i wella llesiant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.