
Tai, swyddi, sgiliau a lles: adeiladu cymuned o gefnogaeth gyda Community Impact Initiative
Mae’n llanastr ar dai yng Nghymru, gyda thros 100,000 eiddo gwag a dirywiad mewn darpariaeth tai cymdeithasol.
Mae cyfraddau diweithdra yng Nghymru yn uwch nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
Esblygodd Community Impact Initiative (Cii) i fynd i’r afael â’r union her gymdeithasol hon.
Dyma Trystan Jones, y Prif Weithredwr, yn esbonio:
“Mae’n rhaid bod mentrau cymdeithasol yn cael eu harwain gan yr hyn y mae ar bobl ei angen, ac rydym yn gwybod bod angen yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn ein cymunedau. Datblygu tai cymunedol, meithrin sgiliau ar gyfer cyflogaeth a gwella lles: maen nhw’n ffordd wych o gefnogi pobl.”
Trwy raglenni tai, datblygu sgiliau ac ymgysylltu â’r gymuned, mae Cii yn cefnogi pobl i ailadeiladu eu hyder, eu hiechyd a’u cyfleoedd bywyd.
“Rydyn ni’n mynd i’r afael â phroblemau yn y meysydd sydd fwyaf angen cymorth, y rhanbarthau gyda’r ganran uchaf o dai gwag, a’r niferoedd uchaf o bobl anweithredol yn economaidd. Mae’r ardaloedd hynny hefyd yn tueddu i weld dirywiad yng nghryfder y gymuned.
Mae mannau cymunedol, lle mae pobl yn tueddu i ddod at ei gilydd, yn cael eu cau – fel llyfrgelloedd, ysgolion, tafarndai a chlybiau: mae’r cyfan yn cau. Mae’r angorau cymunedol yn diflannu ac mae hynny’n drychinebus. Felly rydyn ni’n helpu i greu ymdeimlad o gymuned i bobl. Mae ein gwaith ni’n creu gofod cymunedol, lle mae pobl yn ymfalchïo yn yr hyn maen nhw’n ei wneud.
Nid cwmni adeiladu ydyn ni, ond rydyn ni’n defnyddio adeiladu fel arf. I ddechrau, roedden ni’n meddwl mai sefydliad sgiliau oedden ni, ond fe wnaethon ni ddarganfod yn eithaf cyflym mai sefydliad lles ydyn ni, mewn gwirionedd. Rydyn ni’n dod â phobl ynghyd mewn trawstoriad cymysg o gymdeithas i ddysgu sgiliau ar gyfer gwaith ac i gyfarfod â phobl. Rydyn ni’n chwalu’r rhwystrau rhag cyflogaeth, yn targedu unigrwydd, yn hybu eu hyder a’u hiechyd meddwl ac yn cymryd safiad yn erbyn unigrwydd. Rydym ni’n cael effaith gadarnhaol ar fywyd pobl.”
Mae Cii yn cefnogi pobl o bob oedran, rhywedd a chefndir, o 16 – 70+ oed. Mae croeso i bawb o unrhyw gefndir. Mae Trystan yn parhau:
“Rydyn ni’n darparu cinio am ddim a PPE, ac rydyn ni’n ad-dalu treuliau teithio i bobl sy’n gweithio ar ein prosiectau. Rydyn ni’n gwrando ar y rhwystrau a’r anghenion sydd ganddynt ac yn addasu yn wyneb hynny. Pan fyddwn ni’n dewis eiddo gwag ac yn symud ein gweithrediadau i ardal, rydyn ni’n fwriadol osgoi gweithio mewn ‘seilo’.
Rydyn ni’n creu rhwydwaith, yn ymchwilio i’r sefydliadau digartrefedd, iechyd meddwl a lles sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal, ac yn creu gwe o gymorth, map lles o’r gymuned, ac yn eu cysylltu nhw â’i gilydd. Mae’r unigolion rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt gennym ni, ac rydyn ni’n eu cyfeirio nhw at sefydliadau sy’n darparu cymorth ategol yn yr ardal.
“Allen ni ddim gwneud ein gwaith ar ein pen ein hunain. Mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd yn ystyrlon.”
Mae Cii wedi dod yn begwn er newid cymdeithasol, gan gefnogi unigolion i wneud cynnydd cadarnhaol a pharhaol yn eu bywyd, a symud ymlaen o fod yr ‘Un i’w Wylio’ yn 2019 i ennill Gwobr fawreddog Menter Gymdeithasol y Flwyddyn 2024 yng ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, a gynhaliwyd yn Llandudno.
“Dros y blynyddoedd, mae Cwmpas wedi ein cynorthwyo i ddatblygu a deall y prosesau ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned. Mae’r cymorth hwnnw wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt, yn enwedig pan rydych chi’n teimlo’ch ffordd yn y dyddiau cynnar. Roedd 2024 yn flwyddyn dda iawn. Cynhyrchom ein Hadroddiad Effaith sefydliad gyfan cyntaf ac enillom wobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Busnes Cymdeithasol Cymru.
“Fe gymerodd deng mlynedd i ni adeiladu o geisio gwneud enw i ni’n hunain, i ennill y wobr honno. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi datblygu model sy’n gweithio. Rydyn ni’n ceisio bod yn rhagorol yn ein gwaith. Mae ennill yn cadarnhau’r gred honno. Mae’n gadarnhad grymus.
Mae bod yn Fenter Gymdeithasol y Flwyddyn yn rhoi i bobl yr hyder ein bod ni’n sefydliad y mae’n werth siarad ag e, ein bod ni’n gwybod beth rydyn ni’n ei wneud. Dyma’r eisin ar y gacen, sy’n golygu llawer i’n staff. Gofynnom i’r staff beth oedd y peth gorau am eu gwaith. “
Meddai Abi Lewis, Pennaeth Cyflwyno Gwasanaethau: “Gweld y newid mewn pobl sy’n golygu fwyaf i mi. Ar ddechrau prosiect, mae pobl yn swil ac yn nerfus. Wrth weithio yn amgylchedd cefnogol ein prosiectau, maen nhw’n newid yn llwyr. Mae eu gweld nhw’n newid, a thyfu, a chymryd rhan mewn rhywbeth maen nhw am ei wneud, yn golygu cymaint.”
Dywedodd Ellen McCubbin, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu: “Mae adeiladu cymuned i bobl, hyd yn oed os byddant yn gadael yn y pen draw i symud ymlaen i rywbeth mwy, yn golygu llawer. Mae bob amser yn dda eu gweld yn cyflawni nod.”
Aeth Trystan ymlaen i ddweud:
“Rydyn ni’n gweithio gyda phobl wych. Gan symud ymlaen, byddwn yn gwneud llawer o’r un pethau ag yr ydyn ni’n eu gwneud nawr. Byddwn ni o hyd yn cael effaith ac yn helpu pobl i feithrin sgiliau a chael gwaith. A byddwn yn edrych ymlaen at wneud rhai newidiadau hefyd, datblygu rhai syniadau newydd.
Mae’n rhaid i’r angen cymdeithasol ddod gyntaf bob amser. Fy nghyngor gorau i yw, peidiwch â cheisio gorfodi angen ar eich sefydliad.
“Ond os ydych chi’n siŵr am yr angen, ac rydych chi’n siŵr y gallwch chi helpu i ddatrys yr angen hwnnw mewn rhyw ffordd, ewch amdani. Mae’n fuddiol tu hwnt.”
Darganfyddwch fwy am Wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025 yma.