Tai Aan Arweiniad y Gymuned: Goresgyn Heriau a Chwalu Mythau

8 Mai 2025

Anaml y gallwch wylio’r newyddion neu ddarllen papur newydd heb weld rhywbeth am argyfwng tai y DU a’r angen i adeiladu mwy o gartrefi. Nid oes digon o gartrefi fforddiadwy i bawb ac mae’n rhywbeth sy’n effeithio ar bob un ohonom. Mae’n debygol ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi gorfod symud oherwydd bod eu landlord wedi penderfynu gwerthu, wedi gadael ardal yn anfoddog i ddod o hyd i gartref y gallant ei fforddio, neu’n methu dychwelyd i’r dref neu’r pentref y cawsant eu magu ynddo oherwydd na allant ddod o hyd i gartref yno. Efallai bod hon yn sefyllfa rydych chi wedi gorfod wynebu eich hun.

Mae angen lle fforddiadwy a gweddus arnom ni i gyd i’w alw’n gartref, ac mae angen i’r cartrefi hynny fod yn y lleoedd iawn ar gyfer y bobl sydd wir eu hangen. Mae’r ethos hwn wrth wraidd y sector tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Mae Cymunedau’n Creu Cartrefi, sef hyb Cymru ar gyfer y sector tai dan arweiniad y gymuned, a gyflwynir gan Cwmpas, yn gweithio gyda chymunedau i gyflawni hyn.

Her rhy gyffredin

Mae Gŵyr CLT yn un o dros 50 o grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw i geisio unioni’r cydbwysedd o gyflenwad tai fforddiadwy. Ffurfiwyd Gŵyr CLT ddiwedd 2020 gan bobl leol sydd wedi cael llond bol ar y sector rhentu preifat ansefydlog a rhestrau aros hir am dai cymdeithasol. Roedden nhw’n cydnabod nad nhw oedd yr unig rai nad oedd yn gallu fforddio tai diogel ac addas lle maen nhw’n byw ac yn gweithio.

Trwy weithio gyda Cwmpas, fe gwnaethant ddatblygu cysyniad i ddarparu llwybr i berchnogaeth cartref a fyddai y tu hwnt i’w gyrraedd, fel arall. Dyfarnwyd bron £900,000 iddynt gan Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau Llywodraeth Cymru tuag at y prosiect hunanadeiladu cyntaf o’i fath dan arweiniad y gymuned.

Mae’r cyllid wedi cyfrannu at geisiadau cynllunio ar safle ym mhentref Llandeilo Ferwallt i adeiladu 14 o gartrefi perchnogaeth a rennir i bobl leol ar draean o’r safle 6 erw. Bydd yr erwau sy’n weddill yn gwella’r hawl tramwy cyhoeddus presennol ac yn creu gofod amwynder gwyrdd i’r gymuned gyfagos gyfan.

Yn anffodus, gwrthodwyd eu cais cynllunio cychwynnol gan yr awdurdod cynllunio lleol, gyda’r penderfyniad yn cael ei wneud gan banel o swyddogion a heb wynebu craffu gan bwyllgor y mae cynnig arloesol fel hyn yn ei haeddu. Eu cam nesaf yw apelio.

Hyrwyddo datblygiad tai dan arweiniad y gymuned

Mae sefyllfaoedd fel yr un sy’n wynebu Gŵyr CLT yn tynnu sylw at yr heriau y mae sefydliadau tai dan arweiniad y gymuned yn eu hwynebu, yn aml – yn  enwedig os bydd angen argyhoeddi cynllunwyr y gall pobl mewn tai fforddiadwy gydweithio’n llwyddiannus i fodloni eu hanghenion tai eu hunain ac anghenion pobl eraill.

Er gwaethaf yr amheuaeth hon, mae sylfaen gadarn ym mholisi cynllunio Cymru sy’n cefnogi datblygiad dan arweiniad y gymuned. Mae sefyllfaoedd heriol fel hyn yn rhoi cyfle i ni ddileu mythau parhaus a dangos pa mor bwerus y gall tai dan arweiniad y gymuned fod:

  • Mae Polisi Cynllunio Cymru, sef fframwaith Cymru y mae pob penderfyniad cynllunio yn cael ei asesu yn ei erbyn, yn rhoi’r un statws i sefydliadau tai dan arweiniad y gymuned â chymdeithasau tai ac awdurdodau lleol fel darparwyr tai fforddiadwy.
  • Mae sefydliadau tai dan arweiniad y gymuned yn endidau dielw wedi’u cyfansoddi’n gyfreithiol. Mewn gwirionedd, mae llawer o
  • Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yn Gymdeithasau Budd Cymunedol neu Gwmnïau Budd Cymunedol sydd hefyd yn ffurfiau cyfreithiol cyffredin ar gymdeithasau tai.
  • Mae ffurf gyfreithiol sefydliadau tai dan arweiniad y gymuned yn eu galluogi i gael mynediad at grantiau, ymrwymo i gontractau a dod yn landlordiaid.

Mae grwpiau tai dan arweiniad y gymuned yn cydymffurfio â pholisïau dyrannu’r awdurdod cynllunio lleol y maent wedi’u lleoli ynddynt ac nid ydynt yn gweithredu y tu allan i hyn yn groes i bolisïau tai fforddiadwy.

Mae Cwmpas yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol i hyrwyddo tai dan arweiniad y gymuned fel rhan hanfodol o’r ateb i’r argyfwng tai. Rhan fawr o’n rôl yw cefnogi grwpiau fel Gŵyr CLT i lywio heriau a dod o hyd i’r llwybr gorau posibl ymlaen – fel y gallant ganolbwyntio ar adeiladu’r cartrefi a’r cymunedau maen nhw’n eu dychmygu.

Gallwch ddarganfod mwy am ddatblygiad arfaethedig Gŵyr CLT yma.