Sut gall mentrau cymdeithasol a pherchnogaeth gymunedol gefnogi a diogelu natur a bioamrywiaeth?

21 Awst 2024

Ein hymateb i’r Ymgynghoriad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd am atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030

Gyda WWF Cymru yn honni bod ‘Cymru bellach yn un o’r gwledydd sydd â’r lefel isaf o natur yn yn byd’, sut gall mentrau cymdeithasol a busnesau gymunedol helpu i warchod bioamrywiaeth yng Nghymru? 

I wrthdroi dirywiad natur, mae angen i ni newid sut mae ein heconomi’n gweithio. Mae angen i ni symud i ffwrdd oddi wrth fodelau busnes a datblygiad economaidd sy’n cymryd ychydig iawn o ystyriaeth o’r risg bosibl i fannau gwyrdd ac sy’n erlid elw ar draul niwed i’r amgylchedd. 

Fodd bynnag, mae mentrau cymdeithasol yn ymdrin â’r her o adeiladu busnesau cynaliadwy a phroffidiol mewn ffordd wahanol, trwy flaenoriaethu lles cymunedau, economïau lleol, a’r blaned. 

Dyma rai enghreifftiau gwych y mae Cwmpas yn falch o fod wedi gweithio gyda nhw. 

Mae Parc Gwledig Bryngarw yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn cael ei reoli’n synhwyrol i warchod a hyrwyddo bioamrywiaeth yr ardal, gyda’r ceidwaid yn cael eu cefnogi gan dîm o wirfoddolwyr. 

Yn Wrecsam, mae Groundwork North Wales yn cefnogi cymunedau sy’n agored i niwed oherwydd ansicrwydd economaidd presennol, gan weithio gyda’r gymuned i wella mannau gwyrdd lleol, gwella rhagolygon cyflogaeth pobl trwy gyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli, a hyrwyddo dewisiadau gwyrddach trwy ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae eu prosiect ‘Making More of Minera Country Park’ yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i gynnal cynefinoedd y safle ar gyfer bywyd gwyllt, ac fe’i cefnogir gan raglen addysg sy’n annog plant ysgol lleol i ddysgu am dreftadaeth adeiledig a naturiol y safle, ac i’w werthfawrogi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae Câr-Y-Môr, cymdeithas budd cymunedol yn ninas Tyddewi, Sir Benfro, yn fferm fasnachol forwellt a molysgiaid gyntaf Cymru. 

Mae ganddi ddau nod pennaf: 

  • Gwella’r amgylchedd arfordirol trwy ffermio môr adfywiol, a;
  • Gwella lles y gymuned leol trwy greu swyddi, cyflenwi bwyd môr lleol ffres, ac adfer yr amgylchedd. 

Fel y mae’r enghreifftiau hyn yn dangos, gall model menter gymdeithasol arwain at economi sydd â chynaliadwyedd a natur yn ganolog iddi. 

Mae dod â mentrau cymdeithasol lleol i mewn i’r genhadaeth yn sicrhau cefnogaeth gymunedol ac yn arwain at fwy o ymwybyddiaeth o’r mater. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn wrthdroi colli natur a chreu cymunedau cynaliadwy a chysylltiedig. 

Rydym wedi gwneud rhai argymhellion i Lywodraeth Cymru i warchod ac adfywio ein hamgylchedd prydferth yng Nghymru, i ymgysylltu â chymunedau i ddod o hyd i’r atebion sydd eu hangen i wneud hyn, ac i drawsnewid yr economi ehangach i fod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy cyfeillgar i natur: 

  • Gwnewch fenter gymdeithasol a pherchnogaeth gymunedol yn fodel busnes o ddewis fel rhan o’r broses o drawsnewid i economi gynaliadwy a chyfeillgar i natur. 
  • Hyrwyddo perchnogaeth gymunedol ar dir a mannau ar gyfer natur a hwyluso hyn trwy ddeddfwriaeth. 
  • Ehangu cymorth arbenigol i fentrau cymdeithasol dyfu a gwneud y mwyaf o’u heffaith ar draws sectorau gwahanol. 
  • Ymgorffori dull economi llesiant ar draws polisi datblygu economaidd, gan sicrhau bod lles pobl a’r blaned yn ganolog i’r agenda economaidd.

Clicwch yma i ddarllen ein hymateb llawn i’r Ymgynghoriad