Gwerth Cymdeithasol yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru

19 Mehefin 2024

Gwerth Cymdeithasol yng Nghymru drwy Addysg Bellach

Comisiynwyd Cwmpas gan ColegauCymru i gynnal y darn cyntaf hwn o ymchwil yn archwilio gwerth cymdeithasol yn y sector AB yng Nghymru. Mae Dr Sarah Evans, Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghoriaeth, Cwmpas, yn siarad am sut y cafodd argraff bositif gan y gwaith y mae pob un o’r 13 coleg AB yng Nghymru yn ei wneud mewn perthynas â gwerth cymdeithasol. Yn y blog hwn, mae Sarah yn sôn am y ffordd y mae pob coleg AB wedi addasu i amgylchiadau ac adnoddau lleol/rhanbarthol.

Yn ddiweddar, roeddwn yn falch iawn o ymuno â staff ac aelodau ColegauCymru a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle (AS), i lansio’r adroddiad: Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru. “mae gwerth cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn”

Er nad oedd y term gwerth cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio’n yn benodol gan y colegau AB. Yr hyn a ddaeth yn amlwg o’n hymchwil oedd bod gwerth cymdeithasol yn cael ei ymgorffori ym mron pob un o’u gweithgareddau – a gallai’r dull hwn fod yn arf buddiol i bwysleisio cyrhaeddiad ehangach y sector. Yn ystod un o’n cyfweliadau, eglurodd Pennaeth coleg “mae gwerth cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn” ac rwy’n cytuno’n llwyr.

Er mwyn archwilio gwerth cymdeithasol yn y sector AB, fe wnaethom ddefnyddio nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel fframwaith ac ymgymryd mewn ymchwil desg, adolygu’r ysgogwyr strategol cyfredol ar gyfer y sector a chwblhau cyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan ein galluogi i lunio’r cydrannau craidd o werth cymdeithasol o fewn AB yng Nghymru. Amlygwyd y canlynol yn ein gwaith:

Economi yng Nghymru

Mae pob sefydliad AB yn gweithredu fel sefydliad angor wrth lunio’r economi lleol/rhanbarthol bresennol a’r dyfodol. Maent yn darparu hyfforddiant sgiliau yn ogystal â datblygu cyrsiau hyfforddi newydd i lenwi bylchau sgiliau presennol a’r dyfodol. Mae nifer o’r colegau hefyd wedi sicrhau arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) i ddarparu rhaglenni sgiliau ac arloesi ychwanegol, gyda llawer yn canolbwyntio ar sgiliau yn yr economi werdd, technoleg ddigidol a thechnegau gweithgynhyrchu uwch.

Mae’r sector yn dechrau edrych ar wariant caffael lleol, yn enwedig mewn perthynas â phrosiectau cyfalaf a chanolbwyntio ar gyfleoedd lle gellir defnyddio neu ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol. Mae sefydliadau AB hefyd yn edrych ar eu rôl o ran adfywio canol trefi, er enghraifft sut y gall campysau newydd mewn lleoliadau canol tref gynyddu nifer yr ymwelwyr lleol a datblygu economïau dydd a nos.

Canolbwyntio ar Bobl

Mae’r sector wedi mabwysiadu dull canolbwyntio ar bobl gyda dysgwyr a staff wrth eu canol. Mae pob sefydliad yn ystyried sut y gall ddarparu cymorth ychwanegol a gwerth ychwanegol i’w myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd dysgu gydol oes, yn ogystal ag ymgorffori cydraddoldeb fel cefnogi cyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol trwy ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol ym mhob coleg, dan arweiniad ColegauCymru a’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddu.

Mae colegau AB hefyd yn cyflogi’n lleol, yn hyrwyddo gwaith teg a chydraddoldeb cyfleoedd i’w staff. Mae llawer hefyd yn ystyried goblygiadau’r ddeddfwriaeth Partneriaethau Cymdeithasol newydd a’r ffordd y maent yn ymgysylltu â staff ac undebau. Ar ôl Covid, bu twf sylweddol yn y cymorth iechyd meddwl a llesiant sydd ar gael i ddysgwyr a staff.

Cydweithio

Roedd cydweithio yn thema allweddol yng nghynhadledd ColegauCymru1 ym mis Hydref 2023. Mae pob sefydliad yn darparu gwerth economaidd a chymdeithasol ychwanegol trwy ei waith gyda busnesau, y sector cyhoeddus a sefydliadau addysgol eraill, yn ogystal â’r cyfleoedd y mae’r partneriaethau hyn yn eu creu i fyfyrwyr a chyflogeion y colegau a’r sefydliadau partner. Mae hefyd meysydd lle mae AB yn cynhyrchu gwerth cymdeithasol mewn meysydd a allai gael eu hystyried yn ‘draddodiadol’ i’r sector, megis partneriaethau rhyngwladol ac ymchwil.

Cymuned

Mae’r rhan fwyaf o’r colegau yn cefnogi eu cymunedau lleol mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys darparu dosbarthiadau a gweithgareddau o fewn lleoliadau cymunedol, neu drefnu a chefnogi digwyddiadau cymunedol, tra bo campysau eraill yn cael eu gweld fel asedau cymunedol, yn cynnal clybiau chwaraeon ac yn darparu mannau cyfarfod i grwpiau cymunedol ac elusennau lleol. Ni ddefnyddiwyd y term ‘cenhadaeth ddinesig’ yn ystod y cyfweliadau – mae’n derm sydd weithiau’n cael ei ystyried yn golygu gweithgareddau ‘ychwanegol’ y mae sefydliad yn eu cynnal, tra bod y gweithgareddau a drafodwyd gan y sector AB yn ymddangos yn llawer mwy naturiol, wedi’u gwreiddio o fewn eu cymunedau lleol.

Iaith Gymraeg

Mae’r sefydliadau AB yn parhau i ymgorffori’r Gymraeg yn eu lleoliadau. Mae’r cynnydd a wnaed yn adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol, ond mae llawer bellach yn cynnig cyrsiau, cyfleoedd gwaith a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod eraill yn datblygu gallu a hyder dysgwyr/staff i ddefnyddio’r Gymraeg ar bob lefel. Soniodd un pennaeth coleg bod 55 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad ar y campws ac felly mae cymorth ieithyddol, yn enwedig trwy’r ddarpariaeth ESOL, yn mynd y tu hwnt i’r Gymraeg a’r Saesneg.

Mae colegau hefyd yn darparu gwerth cymdeithasol trwy eu gweithgareddau diwylliannol – mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn dwyn ffrwyth trwy bynciau creadigol ac ar sail y celfyddydau, fel dylunio gwisgoedd. Mae eraill yn berchen ar ac yn rhedeg asedau diwylliannol gwerthfawr, megis theatrau lleol.

Sero Net

Mae cynaliadwyedd a chynllunio ar gyfer sero net yn gydrannau trawsbynciol a ddefnyddir gan y sector AB i gynhyrchu gwerth cymdeithasol. Mae’r llwybr tuag at sero net yn cefnogi cynlluniau strategol ac wedi’i ymgorffori mewn cynllunio’r dyfodol, yn enwedig o ran datblygu campysau. Mae colegau hefyd yn cynnwys modiwlau cynaliadwyedd mewn gwahanol gyrsiau, yn datblygu academïau sgiliau gwyrdd, yn mesur eu hôl troed amgylcheddol, yn adolygu ac yn ailddylunio systemau ynni cyfredol ac yn adnewyddu eu hasedau ystâd.

Gyrru Newid Cadarnhaol yng Nghymru

Credaf y gall yr adroddiad hwn weithredu fel astudiaeth sylfaenol ar gyfer y sector, wrth iddo ystyried beth sy’n digwydd nesaf o ran gwerth cymdeithasol. Rydym yn cydnabod bod cyfleoedd i ymgorffori a chofleidio gwerth cymdeithasol ymhellach o fewn y sector, gan ganolbwyntio ar alinio deddfwriaethol, eiriolaeth arweinyddiaeth, cydweithrediad mewnol, a dulliau adrodd ffurfiol. Drwy weithredu argymhellion yr adroddiad, bydd y sector AB yn gallu uchafu ei gyfraniadau cymdeithasol ac yn gosod cynsail drawsnewidiol ar gyfer rôl addysg wrth yrru newid cadarnhaol yng Nghymru.

Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Cwmpas yn parhau i gefnogi ColegauCymru a’r colegau unigol wrth iddynt barhau ar eu llwybr gwerth cymdeithasol.

Arweiniwyd y gwaith gan Cwmpas gyda chefnogaeth gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES).

Os hoffech drafod y gwaith ymhellach, cysylltwch â mi.

sarah.evans@cwmpas.coop