Sianeli Cwmpas Bluesky Social: lansio 24 Chwefror

19 Chwefror 2025

Deallwn fod cyd-weithwyr yn awyddus i Cwmpas symud oddi ar y platfform X, neu Twitter cynt.

Mae’r cynnydd mewn rhethreg wenwynig ac iaith casineb ar X yn mynd yn groes i’n hymrwymiad i gynwysoldeb – yn Cwmpas ei hun ac yn y cymunedau a wasanaethwn.

Rydyn ni’n gwrando arnoch chi, ac yn deall cryfder eich teimladau.

O ystyried bod Bluesky Social yn Sefydliad Budd Cyhoeddus sy’n blaenoriaethu ystyriaethau moesegol a lles defnyddwyr, ac yn hyrwyddo cyfathrebu iachus a theg ar-lein, mae’n gwneud synnwyr i ni gael presenoldeb cadarn ar blatfform sy’n cyd-fynd yn well â’n gwerthoedd.

Rydyn ni bellach wedi creu platfformau ar gyfer Cwmpas, Cymunedau Digidol Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, Cymunedau’n Creu Cartrefi, a Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ar Bluesky Social, a byddwn yn lansio ein sianeli newydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Chwefror.

Rydyn ni’n ymwybodol o’r ffaith bod rhai sefydliadau, gan gynnwys Social Enterprise UK, wedi dewis dileu eu cyfrifon X ar unwaith, a chwblhau’r broses o symud i Bluesky Social.

Ond ein bwriad ni yw parhau i bostio ar X am y tro, gan nad yw llawer o’n dilynwyr sefydledig wedi symud eto i Bluesky. Mae gennym wybodaeth ar gyfer ein rhanddeiliaid y mae angen iddyn nhw ei chlywed. Mae angen i ni allu cyrraedd ein dilynwyr drwy’r sianeli maen nhw’n eu defnyddio.

Mae Bluesky Social yn blatfform sy’n tyfu. Dydyn ni ddim yn gwybod pa mor gyflym, na pha mor bell, y bydd yn tyfu.

Rydyn ni’n bwriadu monitro ein sianeli ein hunain yn y misoedd nesaf, yn ogystal â monitro tyfiant Bluesky, cyn gwneud penderfyniad ar bryd i roi’r gorau i bostio ar X.

Yn ystod y cyfnod hwn o bontio, byddwn yn annog ein dilynwyr i symud gyda ni i Bluesky Social.

Cofiwch hyn: rydyn ni’n cytuno ei fod yn gwneud synnwyr i ni gael presenoldeb cadarn ar blatfform sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, fel Bluesky Social.

Trwy fonitro tirwedd esblygol y cyfryngau cymdeithasol ac ailasesu yn ôl yr angen, gall Cwmpas gydbwyso ei flaenoriaethau moesegol ag ystyriaethau ymarferol, gan sicrhau trosglwyddiad meddylgar, effeithiol i Bluesky Social.