Sbarduno Newid: Myfyrio ar gynhadledd flynyddol gyntaf Cwmpas
Yn gynharach y mis hwn croesawodd Cwmpas gydweithwyr, partneriaid a chyfeillion o bob cwr o Gymru i’n cynhadledd flynyddol gyntaf. Roedd yn ddiwrnod bywiog ac ysbrydoledig a ddaeth â phobl ynghyd sy’n rhannu uchelgais gyffredin: adeiladu economi sy’n gweithio’n well i bobl, i gymunedau ac i’r blaned.
Wedi’i chynnal mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, fe greodd ein cynhadledd Sbarduno Newid le i weledyddion, ymarferwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau o bob sector ddod ynghyd i gysylltu, rhannu syniadau a herio ei gilydd i feddwl yn wahanol am ddyfodol economaidd Cymru.
I ni yn Cwmpas, roedd y nod yn syml: sbarduno sgyrsiau ac ysbrydoli pobl – ond hefyd symud y tu hwnt i drafodaethau damcaniaethol at y camau ymarferol y gellir eu cymryd i gyflawni ein nodau cyffredin.
Man cychwyn ysbrydoledig
Roeddem yn falch iawn o groesawu Neil McInroy fel ein prif siaradwr. Mae gwaith Neil ar adeiladu cyfoeth cymunedol wedi dylanwadu ar feddylfryd ledled y byd, ac roedd ei fewnwelediadau yn darparu sylfaen bwerus ar gyfer y diwrnod.
Gan dynnu ar ddegawdau o brofiad yn datblygu ac yn hyrwyddo dulliau o adeiladu cyfoeth cymunedol ar draws y byd, bu Neil yn trafod pwysigrwydd ail-ddychmygu sut mae ein heconomïau’n gweithredu. Yn hytrach na chaniatáu i gyfoeth lifo allan o’n cymunedau, gallwn gynllunio systemau sy’n cadw buddsoddiad yn lleol, yn cryfhau perchnogaeth ddemocrataidd, ac yn adeiladu gwydnwch hirdymor.
Roedd ei fyfyrdodau yn ein hatgoffa nad yw newid ystyrlon yn digwydd ar ddamwain. Mae’n digwydd pan fydd cymunedau’n cynllunio’n fwriadol ac yn dewis gwneud pethau’n wahanol.
Roedd hefyd yn wych cael Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn ymuno â ni i’n croesawu i brifddinas y genedl. Rhannodd Huw safbwynt gwerthfawr ar y rôl bwysig sydd gan sefydliadau angor fel awdurdodau lleol i’w chwarae wrth gyflawni gwerth cymdeithasol a grymuso cymunedau, yn ogystal â’r pwysigrwydd o arwain drwy esiampl fel cyflogwyr sydd wedi’u hachredu gan y Cyflog Byw.
Troi syniadau yn weithredu
Drwy gydol y dydd, bu gweithdai’n archwilio sut y gallai economi newydd edrych yn ymarferol yma yng Nghymru, a’r rôl hanfodol sydd gan fusnesau cymdeithasol a democrataidd i’w chwarae.
Bu’r cyfranogwyr yn trafod sut y gall gwaith cydweithfeydd bwyd gryfhau’r sector bwyd, gan adeiladu cyfoeth lleol a chefnogi cadwyni cyflenwi mwy gwydn. Archwiliodd eraill sut y gall ynni cymunedol sicrhau bod y newid i ddyfodol carbon isel yn dod â manteision gwirioneddol i bobl leol, a sut y gall modelau busnes cydweithredol gyflawni prosiectau datgarboneiddio cynaliadwy hirdymor sy’n dda i’r blaned ac sy’n helpu i leihau biliau ynni.
Canolbwyntiodd un sesiwn ar adeiladu sylfeini economi ffyniannus yng Nghymru – Cartref, Cymuned a Chymraeg – gan gydnabod bod materion yn ymwneud â thai, cymuned a’r Gymraeg yn gysylltiedig â’i gilydd yn ddwfn.
Fe wnaethom hefyd archwilio sut i adeiladu cymunedau yng Nghymru sy’n hyderus yn ddigidol drwy weithdy gyda chydweithwyr o’n timau cynhwysiant digidol a llythrennedd cyfryngau, gan sicrhau bod newid technolegol yn gallu grymuso pobl yn hytrach na’u gadael ar ôl.
Ac efallai’n bwysicaf oll, gofynnwyd cwestiwn heriol ond angenrheidiol i’r cyfranogwyr: beth sydd angen newid, a sut yn union y gallwn wneud iddo ddigwydd? Roedd hon yn sesiwn fywiog ac addysgiadol iawn, ac mae’n dod ar adeg hollbwysig yn y cylch gwleidyddol yng Nghymru wrth i etholiadau’r Senedd nesáu.
Byddwn yn casglu’r prif bwyntiau mewn adroddiad, ond roedd yn glir bod nifer o heriau a rhwystrau sy’n wynebu’r sector y mae angen mynd i’r afael â nhw. Yr hyn a oedd yn sefyll allan oedd dyfalbarhad, gwydnwch a chreadigrwydd aruthrol sector sy’n gweithio’n ddiflino i barhau a chreu dyfodol gwell i bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Roedd angerdd, ymroddiad ac ymrwymiad unigolion allweddol yn amlwg iawn – ond hefyd y rhwystredigaeth, y blinder a’r perygl o orflino.
Grym cysylltiad
Un o’r pethau mwyaf calonogol am y diwrnod oedd amrywiaeth eang y profiad ymhlith y bobl yn yr ystafell. Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff cyhoeddus, cydweithfeydd, busnesau a sefydliadau polisi i gyd yn dod ynghyd gyda diddordeb cyffredin: adeiladu economi Gymreig decach a mwy cynaliadwy.
Mae’r ehangder hwnnw o brofiad a’r amrywiaeth o safbwyntiau yn bwysig. Nid yw newid parhaol fel arfer yn dod pan fydd un sector neu sefydliad yn gweithredu ar ei ben ei hun. Mae’n digwydd pan fydd pobl a sefydliadau o wahanol sectorau yn dod ynghyd, yn herio syniadau ac yn cydweithio mewn ffyrdd newydd.
Edrych ymlaen
Wrth fyfyrio ar ein cynhadledd gyntaf, mae’n glir bod pobl yn deall yr angen am feddwl arloesol a syniadau newydd. Ond mae camau gweithredu pendant yn hanfodol i sbarduno’r newid hwnnw ac i adeiladu economi Cymru well i bobl, cymunedau a’r blaned.
Ledled Cymru mae’r newid hwnnw eisoes yn digwydd. Mae pobl yn gwneud gwaith rhyfeddol i sefydlu cydweithfeydd newydd, ehangu prosiectau ynni adnewyddadwy ac adeiladu cymunedau sy’n gynhwysol yn ddigidol. Yn hwyr y llynedd fe wnaethom ddathlu carreg filltir bwysig – sefydlu’r 100fed busnes sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru. Ein gwaith ni nawr yw cysylltu’r ymdrechion hynny, eu chwyddo, a sicrhau bod yr amgylchedd polisi yn gweithio o’u plaid ac nid yn eu herbyn.
Dim ond y dechrau oedd Sbarduno Newid. Ond os yw’r egni a’r ymrwymiad yn yr ystafell yn unrhyw arwydd, mae mudiad cynyddol yn barod i lunio economi newydd i Gymru – economi sy’n decach, yn wyrddach ac wedi’i gwreiddio mewn cymuned.
Diolch i bawb a gyfrannodd ac a fynychodd.