Peilot Robert Owen – Dod â phobl ifanc at ei gilydd ar gyfer yfory mwy disglair
Hajer Newman, Intern Polisi Cwmpas, yn cyfweld â Martin Downes a Dan Roberts cyn lansio prosiect Robert Owen
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r asiantaeth datblygu cydweithredol, Cwmpas ar gynllun peilot blwyddyn i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fentrau cydweithredol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Bydd prosiect Robert Owen yn cyfoethogi rhaglenni presennol sy’n cefnogi ‘Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith’ (CWRE) fel elfen drawsgwricwlaidd o’r Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y prosiect ar gael i bob ysgol yng Nghymru a bydd yn canolbwyntio ar ddeall rôl cwmnïau cydweithredol o fewn yr economi gan archwilio materion fel effaith gymdeithasol, iechyd a lles, gwaith teg, ac amgylchedd gwyrddach.
Roeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio amser gyda chydweithwyr Cwmpas, y Swyddog Polisi ac Ymgysylltu Dan Roberts a’r Arweinydd Dysgu a Datblygu, Martin Downes, i gael gwybod mwy am y prosiect.
Mae gan Martin a Dan brofiad gydol oes o hyrwyddo cydweithio cydweithredol. Mae Dan wedi ymchwilio’n drylwyr i gwmnïau cydweithredol ac wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth o’u gwerthoedd cymdeithasol gyda phobl ifanc. Mae Martin yn awdur cyhoeddedig ac mae wedi gweithio gyda dysgwyr mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled y wlad i’w hymgysylltu â modelau busnes cydweithredol.
Dechreuwn ein trafodaeth gyda hanes cyfoethog Cymru o gwmnïau cydweithredol. Ganwyd Robert Owen ei hun yn Y Drenewydd ac roedd yn arloeswr mudiad y Siartwyr, grŵp a frwydrodd dros hawliau i bobl Cymru. Bu’n ymgyrchu dros hawliau addysg i bobl ifanc, 70 mlynedd cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno ar draws gweddill y DU – dyn oedd heb amheuaeth o flaen ei amser!
Mae cyflwyno’r prosiect yn nodi adfywiad ysbryd Robert Owen, gan fod y rhaglen yn ceisio gwreiddio gwerthoedd cydweithredol yn y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Mae Martin yn gweld y prosiect fel cyfle i bobl ifanc ‘ddatblygu meddylfryd cydweithredol.’ Fe wnaethom ymchwilio’n ddyfnach i beth yw gwerthoedd cydweithredol a beth mae hyn yn ei olygu i ddysgwyr ysgol.
Beth yw modelau busnes cydweithredol?
Mae modelau busnes cydweithredol yn seiliedig ar ddod â phobl at ei gilydd i gydweithio er daioni, mewn ffordd anghystadleuol a democrataidd. Mae cwmnïau cydweithredol yn gweithio i wasanaethu’r economi a’r gymdeithas drwy wasanaethu buddiannau pobl a’r amgylchedd. Mae modelau cydweithredol yn blaenoriaethu’r gwerthoedd hyn i’r un lefel â gwneud elw.
Mae pwysigrwydd cydweithio yn golygu bod pawb yn cael eu clywed, ac mae hyn yn creu sylfaen gref sydd wedi’i gwreiddio yn y gymuned. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod modelau busnes cydweithredol yn gyffredinol yn creu amodau gwaith tecach ac yn talu cyflogau uwch.
Mae modelau busnes cydweithredol yn ‘syniad busnes da, rydyn ni bron wedi anghofio amdano.’ Mae Martin yn esbonio, pan fyddwn yn siarad am fusnesau, rydym wedi’n cyflyru i feddwl amdanynt trwy lygaid unigolyn. Mae straeon sy’n cael eu hadrodd i ni droeon am y ffordd y mae pobl yn rhedeg busnesau yn tueddu i siapio ein dealltwriaeth ohono. Mae Martin yn gweld hyn yn debyg i stori rhywun tlawd yn gwneud ei ffortiwn, am un person yn goresgyn rhwystrau i gyflawni eu llwyddiannau. Gan ychwanegu at hyn, bu Dan yn ymchwilio i agweddau pobl ifanc wrth feddwl am eu dewisiadau gyrfa. ‘Yn aml, pan ofynnon ni i bobl ifanc ynglŷn â dechrau busnes, roedd y rhan fwyaf yn meddwl y byddai’n rhaid iddyn nhw symud i Lundain a gwisgo siwt a thei i ddod yn berson busnes.’ Gall modelau busnes cymdeithasol weithio i droi’r naratifau hyn am ganol dinasoedd prysur ac ystafelloedd bwrdd pŵer uchel. Maent yn dod â phobl ynghyd i fynd i’r afael â phroblem gymdeithasol er gwell i bawb sy’n gysylltiedig. Mae gan Gymru dros 50,000 o bobl yn gweithio mewn busnesau cymdeithasol, ac mae disgwyl i hyn dyfu. Gall dysgu am y sector hwn gynnig ffordd o weithio i bobl ifanc sy’n canolbwyntio ar les economaidd a chymdeithasol eu cymunedau, gan ddarparu cyflogaeth sy’n talu cyflog teg ac nad yw’n achosi niwed i’r amgylchedd. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnig gweledigaeth amgen o wneud busnes lle gall pobl ifanc weld eu dyfodol yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn agored i bob ysgol lle bydd disgyblion o bob cefndir yn gallu dysgu am fodelau busnes cymdeithasol. Mae gan y prosiect y potensial i estyn allan ar draws cenhedlaeth gyfan, gan gynnig cyfle i bobl ifanc danio atebion ffres a chreadigol i’r problemau y mae eu cymunedau’n eu hwynebu. Er nad yw pob myfyriwr yn dechrau ei fusnes ei hun, mae Dan yn tynnu sylw at y ffaith bod y gwerthoedd sy’n deillio o gydweithrediad yn dal i fod yn fuddiol. Mae gweithio cydweithredol yn hyrwyddo deialog ac yn pwysleisio manteision gweithio gyda’n gilydd ar gyfer achos gwell, gwersi sy’n mynd law yn llaw i ddinasyddion Cymru yn y dyfodol, gan weithio gyda’i gilydd er mwyn creu cymdeithas well lle bynnag y mae eu llwybr yn eu harwain.
Bydd athrawon a dysgwyr yn cael eu cefnogi gan y prosiect. Bydd Cwmpas yn rhoi arweiniad i addysgwyr gydag adnoddau i helpu i gyflawni’r prosiect. Mae Cymru ar flaen y gad o ran creu newid. Mae lansiad prosiect Robert Owen yn gyfle i holl bobl ifanc Cymru ymgysylltu â gwerthoedd busnes cymdeithasol er mwyn creu yfory mwy disglair.