Partneriaeth yn rhoi hwb i hyder digidol cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe

Gall effaith dysgu hyd yn oed sgiliau digidol sylfaenol newid bywyd. P’un a yw’n golygu gallu siopa ar-lein neu gynnal galwad fideo gydag anwylyd, mae sgiliau digidol yn eich cysylltu.
Mae mynd ar-lein hefyd yn rhoi ymdeimlad enfawr a gwerthfawr o annibyniaeth i bobl.
Mae Renew Mind Centre yn Abertawe yn gweithio gydag unigolion o leiafrifoedd ethnig. Mae ei brif wasanaethau’n cynnwys aml-chwaraeon, celfyddydau a gweithgareddau corfforol, ynghyd â chymorth cwnsela hanfodol i bobl ifanc a theuluoedd.
Mae wedi cael ei brofi bod cyfleoedd fel hyn, sy’n grymuso cymunedau i gymryd rhan yn y celfyddydau a chwaraeon – ni waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ac ethnigrwydd – yn rhoi hwb i iechyd a lles, ac yn lleihau unigrwydd.
Mae tîm Cymunedau Digidol Cymru (CDC) Cwmpas wedi gweithio gyda Renew Mind Centre ers cwpl o flynyddoedd, gan drosglwyddo’r sgiliau a’r wybodaeth i gefnogi preswylwyr yn ddigidol.
Dywedodd Myriam N’Gossema o Renew Mind Centre:
“Mae’r hyfforddiant yn sicr wedi ehangu fy ngwybodaeth i. Rydw i wedi dysgu sgiliau newydd ym mhob sesiwn, ac rydw i hefyd wedi cael fy nghyflwyno i offer defnyddiol fel apiau cyfieithu, sy’n helpu i chwalu rhwystrau iaith.”
Nid oedd Renew Mind Centre yn cynnig cymorth mewn cynhwysiant digidol yn flaenorol, ond gyda sawl gwasanaeth bellach ar-lein, fe welon nhw gyfle.
Nawr gallant helpu pobl i gysylltu â ffrindiau a theulu ar-lein, cael mynediad at wasanaethau hanfodol, a llenwi ffurflenni ar-lein.
Esboniodd Myriam:
“Mae’r rhan fwyaf o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, ac mae rhai ohonynt o gefndiroedd ffoaduriaid, felly gall fod rhwystrau iaith. Rydym yn cefnogi pobl ifanc, a hefyd eu rhieni, a all fod yn cael anawsterau. Roeddem yn gwybod bod angen i ni ddysgu mwy o sgiliau digidol er mwyn i ni allu rhannu ein gwybodaeth. Pan glywsom am raglen Cymunedau Digidol Cymru, roeddem yn gyffrous i gymryd rhan a chael mynediad at gymorth.
“Mae rhai o’r bobl rydyn ni’n eu helpu angen cymorth i wneud cais am fudd-daliadau fel Credyd Cynhwysol. Rydym hefyd wedi helpu pobl i sefydlu cyfrifon i lywio a phrynu o lwyfannau siopa ar-lein fel Amazon, ac i chwilio am a chymharu opsiynau yswiriant car ar-lein.
“Rydym hefyd yn cyfeirio teuluoedd at wefannau sy’n cynnig awgrymiadau gwerthfawr am rianta. Er enghraifft, fe ddes i o hyd i wefan a roddodd gyngor i mi ar sut i helpu fy mhlentyn a oedd yn cael trafferth gyda chysgu, ac ers hynny rydw i wedi cyfeirio rhieni eraill at yr adnodd hwnnw. Mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol.”
Gan gydnabod pŵer dysgu ymarferol, ymunodd Myriam a’r tîm o Renew Mind Centre yn gweminarau a sesiynau hyfforddi ar-lein CDC, gan feithrin eu gwybodaeth ddigidol a rhoi hwb i’w gallu i gefnogi’r gymuned.
Mae Cwmpas wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau a sefydliadau fel Renew Mind Centre i ymgorffori cynhwysiant digidol ledled Cymru ers 2005.
Rydym yn gwybod mai’r ffordd orau o gyrraedd cymunedau sy’n dioddef allgáu digidol yw gweithio gyda’r wynebau a’r sefydliadau dibynadwy sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol. Mae ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn: rydym yn gweithio gyda sefydliadau i sicrhau bod gan eu staff a’u gwirfoddolwyr y sgiliau angenrheidiol i gefnogi eraill.
Trwy roi i aelodau’r gymuned yr offer sydd eu hangen arnynt i lywio’r byd digidol, maent nid yn unig yn helpu cymunedau i gael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd, ond hefyd yn meithrin mwy o hyder ac annibyniaeth.
Wrth i’r byd barhau i ddod yn fwyfwy digidol, mae partneriaeth CDC a Renew Mind Centre i bontio’r rhaniad digidol yn bwysicach nag erioed.
Nid cyfrifoldeb un sefydliad yw cynhwysiant digidol, ac ni ellir ei hyrwyddo gan un rhaglen yn unig. Mae’n gofyn am gydweithio, cydweithrediad ac ymrwymiad gan rhanddeiliaid amrywiol, yn gweithio gyda’i gilydd, i greu cenedl gynhwysol yn ddigidol yng Nghymru sydd o fudd i bawb, heb adael unrhyw un ar ôl.
Dywedodd Mohammed Basit, Ymgynghorydd Cynhwysiant Digidol CDC ar gyfer Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig,:
“Rydw i wedi gwybod am Renew Mind Centre ers blynyddoedd lawer, ac rwy’n ymwybodol o’r cyfleoedd gwych maen nhw wedi’u creu i’w cymunedau, yn enwedig o ran gwella iechyd trwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
“Mae’n wych clywed sut gall y camau lleiaf i ddysgu’r pethau sylfaenol ar-lein wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Renew Mind Centre, a darparu cymorth lle a phryd y mae ei angen.”
I gael mwy o wybodaeth am gymorth cynhwysiant digidol i gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, cefnogaeth, neu i gael sgwrs, cysylltwch â Mohammed Basit drwy anfon neges e-bost at mohammed.basit@cwmpas.coop neu ffonio 07824 035880.