Melin Tregwynt yn dathlu ei 110fed flwyddyn drwy gwblhau cytundeb perchnogaeth gweithwyr
Mae’r felin wlân yn Sir Benfro yn eiddo i’r un teulu ers ei sefydlu ym 1912.
Mae Melin Tregwynt, y felin wlân a siop eiconig, wedi’i thrawsnewid yn swyddogol i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr ar ôl i’w pherchnogion presennol, Eifion ac Amanda Griffiths, drosglwyddo’r awenau i 42 o weithwyr y cwmni. Cefnogwyd Melin Tregwynt yn y cyfnod trawsnewid gan Busnes Cymdeithasol Cymru, a ddarperir gan Cwmpas.
Sefydlwyd y felin ym 1912 gan dad-cu Eifion, a brynodd felin decstiliau fach yn Sir Benfro, sydd ers hynny wedi datblygu’n gwmni ffyniannus yn gwehyddu blancedi gwlân, carthenni, ffabrigau a llawer mwy.
Ochr yn ochr â’i hystodau cynhyrchion ei hun, mae’r cwmni’narbenigo mewn rhediadau byr a dyluniadau unigryw ar gyfer gwestai, dylunwyr a phenwyr a, dros y blynyddoedd, mae wedi gweithio gyda chwmnïau mor amrywiol â John Lewis, Liberty’s, Muji, Margaret Howell, Comme des Garçons a’r BBC, sydd oll wedi comisiynu ystodau ecsgliwsif.
Mae ei blancedi a’i charthenni wedi’u dylunio ar gyfer tŷ ‘Celebrity Big Brother’ a ‘The Apprentice’, ac mae hefyd wedi gweithio ar brosiectau cydweithredol gydag Oriel Tate, Amgueddfa Victoria & Albert, National Theatre Wales a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.
Yn 2008, llwyddodd y tîm i wehyddu’r flanced bicnic fwyaf a gofnodwyd yn y byd. Mae’r flanced hon, sy’n mesur 40 x 45 metr, yn Llyfr Recordiau Byd Guinness o hyd.
Mae’r busnes bellach wedi’i drosglwyddo i berchnogaeth ei 42 o weithwyr drwy ymddiriedolaeth, gan roi rhan iddyn nhw i gyd yn nyfodol y busnes. Bydd hyn yn cadw sgiliau traddodiadol a’r wybodaeth a gasglwyd dros ganrif neu fwy, ers i’r cwmni gael ei sefydlu.
Bydd Eifion ac Amanda yn aros yn y busnes yn rhan-amser, ac esboniodd Eifion y rhesymau dros drosglwyddo’r cwmni i berchnogaeth y gweithwyr: “Gwnaeth Amanda a finnau etifeddu’r busnes, ac rydyn ni wedi’i dyfu’n sylweddol dros y 35 mlynedd diwethaf. Erbyn hyn, rydyn ni am gymryd cam yn ôl.
“Roedd yn bwysig i ni fod Melin Tregwyntyn aros yn fusnes hyfyw, ac yn rhan o’i chymuned leol, acroedd rhoi ei pherchnogaeth yn nwylo’r gweithwyr yn ateb perffaith i ni.
“Byddwn yn arwain y bwrdd rheoli newydd drwy’r cyfnod trawsnewid, ond yn bwysicaf oll, bydd y gweithlu o 42 o bobl yn cadw eu swyddi a’u sgiliau, a bydd eu gwybodaeth yn aros yma ac yn cael ei chadw’n fyw.”
Ychwanegodd Eifion: “Rydyn ni’n parhau i fod yn fusnes teuluol iawn – nid yn unig o ran gwaed, ond o ran ethos, cred a thraddodiad. Mae llawer o’r gweithwyr wedi gweithio yma ers degawdau, ac roedd gennym hyd yn oed dair cenhedlaeth o’r un teulu yn rhan o’n tîm. Rwy’n falch o fod yn trosglwyddo’r cwmni i’r bwrdd gweithwyr newydd a fydd, rwy’n gwybod, yn mynd â’r busnes i lefelau twf newydd.”
Meddai Louise Clarke, Rheolwr Manwerthu Melin Tregwynt, sydd bellach yn aelod o’r Ymddiriedolaeth sydd wedi caffael y busnes: “Rydyn ni’n falch o fod yn cymryd y busnes hwn drosodd, ac mae’n wych bod Eifion ac Amanda yma i’n helpu wrth i ni gymryd ein camau cyntaf.
“Mae gan Melin Tregwynt gartref mor gadarn yma yng Ngorllewin Cymru, byddai wedi bod yn drasiedi ei gweld yn cael ei phrynu allan gan gwmni arall ac o bosibl yn cael ei newid am byth, felly mae’n anrhydedd i ni fod y teulu Griffiths wedi dewis ymddiried eu busnes teuluol i ni fel gweithwyr. Rwy’n methu aros gweld beth sydd yng nghôl y dyfodol i ni ym Melin Tregwynt.”
Cefnogwyd Melin Tregwynt wrth iddi symud i berchnogaeth y gweithwyr gan Dîm Perchnogaeth y Gweithwyr Busnes Cymdeithasol Cymru.
Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Cwmpas, sy’n darparu Busnes Cymdeithasol Cymru: “Mae’n wych gweld Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn cael ei defnyddio fel hyn, i ddiogelu nid yn unig swyddi, ond hefyd y dreftadaeth.
“Fel y dywedodd Eifion, dyma’r ffordd berffaith o drosglwyddo busnes i bobl sydd eisoes â budd personol ynddo. Mae cwmnïau dan berchnogaeth gweithwyr yn arloesol, yn uchel eu cymhelliant ac yn hyblyg – ac mae gweld busnes 110 oed yn cymryd y cam nesaf, dewr, hwn yn dangos pa mor bwysig yw perchnogaeth y gweithwyr.
“Mewn gwirionedd, does dim llawer o bobl yn sylweddoli bod bod dan berchnogaeth gweithwyr yn un o’r modelau busnes modern sy’n tyfu’n gyflym yn y DU. Mae rhai o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn y DU dan berchnogaeth eu gweithwyr, megis John Lewis, Unipart, ac yma yng Nghymru, Tregroes Waffles a Cwmni Da, ymhlith eraill. Mae’n ffordd wych o drosglwyddo cwmnïau ffyniannus i’r genhedlaeth nesaf, a dyna pam rydyn ni am annog sylfaenwyr a gweithwyr sy’n ymddeol yn fuan i’w ystyried fel opsiwn,” ychwanegodd Derek.
Fis Mehefin diwethaf, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru dros dymor nesaf y Senedd ac ers hynny mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi gweld ymchwydd mawr yn nifer y busnesau sy’n dod ymlaen yn edrych i wneud y cyfnod pontio hwnnw.
Geldards, sy’n un o’r prif gynghorwyr ar Ymddiriedolaethau Perchnogaeth Gweithwyr yng Nghymru, a gynghorodd Ymddiriedolaeth Perchnogaeth y Gweithwyr (EOT) ar gaffael Melin Tregwynt gan y teulu Griffiths.
Dan arweiniad Andrew Evans, sy’n Bartner Treth gyda Geldards, gyda chymorth Alex Butler, sy’n Bartner yn y Tîm Corfforaethol, rhoddwyd cyngor ar strwythur a sefydlu Ymddiriedolaeth Perchnogaeth y Gweithwyr (EOT). Yn ogystal â rhoi telerau’r caffaeliad yn eu ffurf derfynol, helpodd tîm Geldards i dywys y gweithwyr drwy’r broses a rhoi cymorth i sicrhau bod perchnogaeth yn cael ei throsglwyddo’n llwyddiannus.
Dywedodd Andrew Evans, Partner yn Geldards: “Roedd Geldards yn falch iawn o weithredu dros Melin Tregwynt a sicrhau proses lyfn i berchnogaeth gan Ymddiriedolaeth Perchnogaeth y Gweithwyr. Bydd y newid yn helpu sicrhau parhad y busnes a chaffi llwyddiannus y felin wlân yn ei lleoliad unigryw, yn ogystal â diogelu etifeddiaeth fusnes Eifion ac Amanda.
“Mae’r defnydd o Ymddiriedolaethau Perchnogaeth Gweithwyr wedi cynyddu’n ddramatig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, tuedd sy’n diogelu etifeddiaeth y busnes ac yn cadw swyddi gweithwyr, ac roedden ni’n falch o fod yn rhan o’r cam nesaf hwn ar gyfer Melin Tregwynt.”
Mae gwasanaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cymru yn rhan o raglen Busnes Cymdeithasol Cymru a ddarperir gan Cwmpas. Mae’n rhan o deulu Busnes Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.