
Mae elfen o ‘galon’ i fenter gymdeithasol bob amser: i Baobab Bach, bwyd fforddiadwy, noddfa a chefnogaeth yw hynny
Ar gyfartaledd, mae Cymru’n gwastraffu 400,000 tunnell fetrig o fwyd y flwyddyn, y mae 80% ohono’n fwytadwy.
Mae Baobab Bach yn mynd i’r afael â hynny trwy sicrhau bwyd sy’n ffres o hyd (a fyddai’n mynd i safle tirlenwi, fel arall) oddi wrth Fair Share Cymru, ac yn galluogi pobl i gael gafael ar fwyd da, nad yw’n costio rhyw lawer. Mewn pum mlynedd, mae 6 aelod staff a thros 100 o wirfoddolwyr Baobab Bach wedi cyflenwi 46,868 bag o fwyd o safon i oddeutu 270 o deuluoedd yr wythnos, heb brawf modd. Maen nhw wedi cyflawni hynny trwy eu 14 pantri cymunedol sydd wedi’u lleoli ar draws tair sir yn ne Cymru.
Mae pob bag yn costio £5. Weithiau, mae’n cynnwys eog mwg; weithiau, mae’n cynnwys stêc; weithiau, mae’r bwyd yn llai moethus – ond mae bob amser yn werth £15, o leia’. Mae aelodaeth o’r pantrïoedd yn costio £1 yn unig.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr, fel sawl sir yng Nghymru a’r DU yn ehangach, yn gartref i bobl sy’n cael trafferth â chostau byw. Mae llawer ohonynt yn byw ar incwm cymharol isel. Mae cael dau ben llinyn ynghyd yn gallu bod yn her. Nid oes angen banciau bwyd neu dalebau bwyd ar bobl, o reidrwydd. Yn aml, dim ond angen ffynhonnell fforddiadwy o fwyd y maen nhw.
“Mae talu am beth sydd ei angen arnoch yn rhoi ymdeimlad o falchder i bobl”, dywed Alison Westwood, Cyfarwyddwr Baobab Bach.
“Gall unrhyw un ddod draw i’n pantrïoedd cymunedol. Nid ydym yn gofyn am dystiolaeth. Nid ydym yn rhoi prawf modd i neb. Mae croeso i bawb.
“Mae mor bwysig peidio barnu. Rydym ni’n gwasanaethu pawb sy’n dod trwy ein drws.
“Gall pobl droi at ein pantrïoedd cymunedol bob hyn a hyn, neu gallant eu defnyddio bob wythnos.
“Ar ddiwedd y dydd, os bydd amgylchiadau’n digwydd, fel maen nhw’n gallu gwneud yn aml mewn ffyrdd anffodus, gallai unrhyw un ohonon ni fod yn brin o arian ar ddiwedd y mis.”
Coeden o Affrica yw’r baobab. Mae’n darparu ffrwyth maethlon, ac mae’n ffynhonnell ddŵr yn y boncyff, hefyd.
Mae gan goed baobab rwydwaith enfawr o wreiddiau o dan y tir. Maent yn para miloedd o flynyddoedd. Wrth iddynt heneiddio, mae cafn yn aml yn ymddangos yn y canol, a daw’r goeden faobab gymunedol yn fan i bobl gyfarfod, canu ac adrodd stori.
Aeth Alison ymlaen i ddweud:
“Mae’r goeden faobab yn symbol o bopeth rydym ni am ei wneud – bwydo pobl a chynnig rhwydwaith o gymorth cymdeithasol.
“Felly, daeth y goeden faobab yn eicon i ni a rhoddodd ei henw i Baobab Bach.
“Gall ‘angen’ olygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Weithiau, mae’n angen cymdeithasol sy’n dod â chwsmeriaid i’r pantrïoedd – beth sydd wir ei angen arnyn nhw yw paned o de a sgwrs.”
Ac mae hynny’n rhan bwysig o’r pantrïoedd: maen nhw hefyd yn mynd i’r afael â materion lles.
“Ar ôl Covid, roedd unigedd cymdeithasol yn broblem enfawr. Roedd ofn ar bobl fynd allan ac, yn y pen draw, aethant i deimlo’n unig iawn.
“Mae’r pantrïoedd cymunedol yn cynnig lleoliad i gyfarfod a chymdeithasu, lle i gael paned o de a sgwrs, ynghyd â man lle gellir cyfeirio pobl at grwpiau cymorth. Nid yw rhai pobl yn dewis prynu bwyd, hyd yn oed: maen nhw’n defnyddio’r pantrïoedd fel rhywle i ddal i fyny a dysgu am wasanaethau cymorth lleol nad ydynt efallai’n gwybod amdanynt, neu’n gallu cael atynt fel arall.
“Hefyd, rydym ni’n darparu gwasanaeth danfon bagiau bwyd i’r cartref. Mae criw ein fan yn cynnig ffynhonnell gymorth i bobl yn y gymuned – gwasanaeth danfon bwyd, wyneb cyfeillgar, cyfeillgarwch, a ffordd o drosglwyddo gwybodaeth a hysbysiadau brys i’r gweithwyr proffesiynol priodol.”
Ynghyd â phantrïoedd cymunedol, mae Baobab Bach yn rhedeg tri phrosiect tyfu. Mae’r rhain yn fannau lle gall pobl ifanc o ysgolion a chlybiau ieuenctid lleol, neu rai nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET), yn gallu dysgu tyfu eu bwyd eu hunain a bod yn rhan o’r broses o dyfu cynnyrch i’w pantri lleol, a helpu eu cymuned.
“Mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) wedi rhoi cyfle i ni adeiladu gwelyau codi ar gyfer ein prosiectau tyfu. Rydym ni’n hynod ddiolchgar. Bydd y cymorth hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
“Mae’n fuddsoddiad enfawr, a fydd yn gwneud y safleoedd yn fwy hwylus ac yn haws o lawer i’w trin. Yn y gorffennol, rydym wedi cael problemau gyda llifogydd, felly mae cael y cyllid i adeiladu gwelyau codi wedi bod yn weddnewidiol.
“Mae Cwmpas wedi helpu gyda strwythur rheoli, cynllunio strategol, ceisiadau am gyllid, sesiynau hyfforddiant a chyfleoedd Baobab Bach i rwydweithio.
“Mae mor bwysig cael gafael ar gymorth o safon. Mae pethau ar lefel sefydliadol nad ydym ni’n gwybod amdanynt, ond mae cael cynghorydd sydd â safbwynt allanol a chyngor arbenigol mor werthfawr. Derbyniwch y cynnig hwnnw. Mae’n fuddiol iawn.
“Mae Baobab yn sefydliad proffidiol sydd â diben cymdeithasol. Dyna’r peth gorau am fenter gymdeithasol: gallu cefnogi pobl leol yn y gymuned leol fel rhan o’r hyn rydym ni’n ei wneud.
“Mae menter gymdeithasol yn ychwanegu cymaint yn fwy y tu hwnt i elw a cholled. Mae mynd i’r afael â heriau cymdeithasol a gwneud bywyd pobl yn well gymaint yn fwy boddhaol.
“Ein gwirfoddolwyr yw enaid Baobab. Wythnos ar ôl wythnos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, maen nhw’n ymroddedig ac yn ddibynadwy. Maen nhw wrth eu bodd â beth maen nhw’n ei wneud. Alla’ i ddim dod o hyd i’r geiriau i ddisgrifio pa mor wych ydyn nhw. Allen ni ddim gwneud ein gwaith hebddyn nhw.
“Yn ein hanfod, y gymuned sy’n ein harwain. Rydym ni’n gwrando ar beth sydd gan gymunedau i’w ddweud.
“Rydym ni’n darparu man cymdeithasol gydol y flwyddyn i bobl gael hwyl a sgwrs, a gwasanaeth cymorth cymdeithasol, ynghyd â hybu lles, mynd i’r afael ag unigedd, helpu pobl i fynd yn ôl i waith, eu hyfforddi i dyfu a chynhyrchu eu bwyd eu hunain, a rhoi iddynt eu balchder yn ôl yn eu gallu i fwydo’u teuluoedd.
“Pa mor werthfawr yw hynny!”