Mae ein maniffesto yn galw am gynhwysiant digidol – ar draws y cenhedloedd
Galwad ar y cyd i weithredu cyn etholiadau Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac etholiadau llywodraeth leol Lloegr
Mae Cwmpas, Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban, a Good Things Foundation yn gweithio ar draws y cenhedloedd i weithredu ar gynhwysiant digidol. Mae’r cydweithrediad trawsffiniol newydd hwn yn uno ein polisi a’n harfer yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.
Mae angen arweinyddiaeth a darpariaeth ar bob lefel. Mae’r maniffesto hwn yn nodi’r ymrwymiadau yr ydym am eu gweld gan ymgeiswyr a phenderfynwyr ledled Prydain Fawr.
Beth mae rhaid i lywodraethau ei wneud nawr
Wrth i ni nesáu at etholiadau mawr ledled y DU, rydym yn galw ar ymgeiswyr a llywodraethau i gymryd cynhwysiant digidol o ddifrif. Mae allgáu digidol yn achos ac yn ganlyniad i dlodi ac anghydraddoldeb. Mae bellach yn rhwystr strwythurol i wasanaethau hanfodol, cyfranogiad economaidd, addysg a democratiaeth.
Er gwaethaf hyn, nid yw llywodraethau lleol a chenedlaethol eto wedi gwreiddio cynhwysiant digidol yn eu polisïau a’u rhaglenni – gan olygu bod miliynau yn dal i gael eu gadael ar ôl (Digital Nation, 2025).
Rydym yn gofyn i’n llywodraethau perthnasol ymrwymo i’r camau gweithredu canlynol:
- Trin cynhwysiant digidol fel seilwaith cyhoeddus – gan ei wneud yn gyfrifoldeb traws-lywodraethol, gwreiddio’r Safon Byw Ddigidol Isaf ar draws meysydd polisi, ac ymgorffori cynhwysiant digidol yn y broses o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus digidol.
- Buddsoddi mewn cymorth a ddarperir yn lleol – symud tuag at gymorth aml-flwyddyn wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith cynhwysiant digidol seiliedig ar le, a symleiddio prosesau i wella hygyrchedd i sefydliadau llawr gwlad llai.
- Mynd i’r afael â fforddiadwyedd fel prif sbardun allgáu digidol – gan gydnabod bod cysylltedd a chyfarpar yn hanfodol drwy normaleiddio a chryfhau arloesiadau tlodi data, a buddsoddi mewn cynlluniau atgyweirio ac ailddefnyddio dyfeisiau.
- Diogelu ac ehangu cymorth lleol wyneb yn wyneb – cydnabod gwerth cymorth digidol agos, wyneb yn wyneb ar gyfer gwasanaethau gwahanol (e.e. iechyd, tai, cyflogadwyedd a chyngor), a pharhau i helpu i ddileu ofn, diffyg ymddiriedaeth a diffyg hyder defnyddwyr.
- Gwrando ar y rhai sy’n profi allgáu digidol – gan gydnabod a gwerthfawrogi pobl â phrofiad bywyd wrth ddylunio a gwella gwasanaethau i sicrhau eu bod yn gweithio i bawb.