Mae cwmnïau cydweithredol yn creu byd gwell yn 2025, Blwyddyn Cwmnïau Cydweithredol y Cenhedloedd Unedig
Mae 2025 yn Flwyddyn Ryngwladol Cwmnïau Cydweithredol.
Y thema yw ‘Mae Cwmnïau Cydweithredol yn creu byd gwell’. Mae cwmnïau cydweithredol ledled y byd yn helpu i ddatrys materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol byd-eang, ac i adeiladu twf a gwytnwch yn eu cymunedau..
Mae cwmnïau cydweithredol yn fusnesau sy’n eiddo i’w gweithwyr, eu cwsmeriaid neu aelodau o’r gymuned.. Mae aelodau yn dod ynghyd at ddibenion cydfuddiannol.
Mae cwmnïau cydweithredol llwyddiannus yn gweithredu ym mhob rhan o’r byd. Mae’r International Co-operative Alliance yn uno, cynrychioli a gwasanaethu 1 biliwn o aelodau cydweithredol a thua 3 miliwn o gwmnïau cydweithredol ledled y byd.
Yn India, sefydlwyd y National Yuva Co-operative Society i helpu pobl ifanc. Mae’r rhaglenni’n cynnwys cefnogi pobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol uwchradd i ymgymryd â hyfforddiant sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant; cyflwyno hyfforddiant entrepreneuriaeth fel cadw llyfrau, marchnata a hyfforddiant rheoli drwy grwpiau hunangymorth a micro-fentrau; a rhaglen sgowtio talent i nodi a hyfforddi athletwyr ifanc addawol. Mae’r gymdeithas gydweithredol hefyd yn darparu cwnsela i helpu pobl ifanc ddewis y llwybr gyrfa cywir.
Ym Mecsico, mae’r Sociedad Cooperativa de Producción y Prestación de Servicios Cuauhtémoc (SCL) yn gwmni cydweithredol sy’n arbenigo mewn cludo deunyddiau adeiladu ledled y wlad mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol gan ddefnyddio cerbydau a threlars o’r radd flaenaf.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu tyfu’r economi gydweithredol yn y DU, ac mae maniffesto’r Blaid Lafur yn cynnwys addewid i ddyblu maint y sector cydweithredol er budd cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Yma yng Nghymru, mae’r mudiad cydweithredol Cymreig yn tyfu’n gyflym. Mae tua 14,000 o weithwyr yn cyfrannu at drosiant blynyddol o £1.5 biliwn.
Mae ein cynghorwyr yn Cwmpas wedi bod yn cefnogi cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru er 1982.
Mae potensial enfawr i dyfu’r sector cydweithredol, a newid y ffordd y mae’r economi’n gweithio i un sydd â lles wrth ei wraidd, trwy ganolbwyntio ar fodelau busnes cymdeithasol a democrataidd sy’n sbarduno twf ac adfywio cymunedol.
Mae gennym gyfle go iawn i greu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal.
Mae cwmnïau cydweithredol ledled Cymru yn cynnig i aelodau gyfran emosiynol neu ariannol mewn busnes, ac yn ceisio mynd i’r afael â’r materion cymdeithasol sydd bwysicaf i’w cymunedau.
Mae The Timber Co-operative, sef busnes sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghaernarfon, yn arbenigo mewn cynhyrchu pren o ansawdd uchel o ffynonellau lleol i hyrwyddo prosiectau adeiladu fforddiadwy sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ar gyfer y gymuned leol.
Mae Ynni Sir Gâr, sef menter gymdeithasol a chwmni cydweithredol yn Sir Gaerfyrddin, yn lleihau allyriadau carbon drwy hyrwyddo mesurau ynni adnewyddadwy glân a lleol. Mae’r rhain yn cynnwys y tyrbin gwynt cyntaf sy’n eiddo i’r gymuned yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â phwyntiau gwefru cerbydau trydan dan berchnogaeth leol ac a reolir yn lleol. Mae Ynni Sir Gâr yn hybu atebion ar lawr gwlad i’r argyfwng ynni, gan gadw elw a swyddi yn y gymuned, ac ailfuddsoddi yn yr economi leol.
Mae Coed Organic, sef fferm organig gydweithredol gweithwyr ym Mro Morgannwg yn darparu cyfran o’u cynhaeaf o lysiau tymhorol i’w haelodau fel rhan o’u cynllun dosbarthu, yn ogystal â chyflenwi caffi fegan yng Nghaerdydd a gwerthu cynnyrch ym Marchnad Ffermwyr Glanyrafon Caerdydd.
Nod Rhisom Housing Co-operative yw mynd i’r afael ag anghenion tai’r gymuned LHDTC+ yng Nghaerdydd. Mae ansicrwydd tai yn broblem fawr yn y gymuned hon, gan arwain at amddifadedd, unigrwydd ac unigedd, yn enwedig i bobl iau.
Mae mwy na 150 o siopau bwyd Co-op yng nghymunedau Cymru. Mae rhoddion yn cefnogi achosion lleol fel grwpiau sgowtiaid, elusennau canser a gwasanaethau cwnsela.
Mae cwmnïau cydweithredol fel Timber Co-operative, Ynni Sir Gâr, Coed Organig, Rhisom, a siopau’r Co-op yn brysur yn datrys problemau cymdeithas, yn hybu masnach ar draws rhwydwaith o gyflenwyr lleol, prynwyr, partneriaid a chwsmeriaid, gan ddarparu swyddi gwerth chweil, tai diogel ac incwm cyson, a chadw arian a llesiant i gylchredeg yn yr economi leol.
Bydd 2025 yn flwyddyn gyffrous i’r mudiad cydweithredol yng Nghymru, a ledled y byd.
Er 1982, a ninnau’n asiantaeth datblygiad cydweithredol fwyaf y DU, rydym wedi bod yn ganolog i economi gymdeithasol Cymru, gan ddarparu cymorth a chyngor arbenigol i gwmnïau cydweithredol, busnesau sy’n eiddo i’r gymuned a mentrau cymdeithasol sy’n mynd i’r afael â materion cymdeithasol lle maen nhw’n fwyaf pwysig ac yn taro galetaf – ar lefel gymunedol.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy.