Hwyliaith: Gall iaith fod yn hwyl!

1 Mawrth 2025

Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth Cymru, ac mae’n parhau wrth wraidd bywyd yn y Gymru gyfoes.

Mae treftadaeth Cymru yn adlewyrchu pobl a diwylliant Cymru. Mae’n adrodd hanes Cymru, ac mae’n ffynhonnell balchder mawr i bobl Cymru.

Mae Cwmpas wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion, yn helpu sefydliadau cymunedol i adeiladu balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled cymunedau Ceredigion trwy gymorth gan UK Shared Prosperity Fund (UKSPF).

Un o’r sefydliadau y mae Tricia, Ymgynghorydd Busnes Cwmpas, wedi bod yn gweithio gyda nhw o dan UKSPF yw Hwyliaith.

Sefydlwyd Hwyliaith gan Nia Llywelyn, Cyfarwyddwr, ym mis Hydref 2023 i helpu pobl i fagu hyder wrth siarad Cymraeg.

“Fy mhrif nod yw ennyn diddordeb teuluoedd i gefnogi eu plant wrth ddysgu Cymraeg. Rydw i eisiau dangos i bobl nad oes rhaid i ddysgu Cymraeg fod yn anodd, ac y gall fod yn hwyl!

“Mae hyn yn esbonio enw’r cwmni: Hwyliaith = Hwyl-Iaith.

“Mae oddeutu hanner o gymuned Ceredigion yn siarad Cymraeg.

“Mae clywed yr iaith yn cael ei siarad yn y gymuned yn sicr yn helpu, a dyna pam dwi yma – i roi hyder i bobl yn eu galluoedd, a’r cymhelliant i ddod at ei gilydd, ymarfer siarad Cymraeg gyda chyd-ddysgwyr a’u cymuned eu hunain, a pharhau i ddysgu.”

Penderfynodd Nia droi’r busnes yn fenter gymdeithasol yn 2024.

Gan nad oedd busnes blaenorol Nia wedi cael ei gofrestru gyda Tŷ’r Cwmnïau ac roedd Nia yn unig fasnachwr, roedd modd iddi ddechrau ei menter gymdeithasol fel endid newydd gan ddefnyddio’r un enw busnes.

Dechreuodd Tricia, Ymgynghorydd Busnes Cwmpas, weithio gyda Nia ym mis Ebrill 2024.

Rhoddodd Tricia gefnogaeth i Nia sefydlu ei busnes cymdeithasol newydd, gan ddarparu cymorth gyda datblygu polisi, a chyngor busnes ar strwythur cyfreithiol, cofrestru’r cwmni, a chydymffurfiaeth busnes.

Dywedodd Nia:

“Mae’r cymorth dwi wedi’i gael trwy’r cynllun SPF wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae fy ymgynghorydd, Tricia, wedi bod yn gynorthwyol iawn, iawn. Fyddwn i ddim wedi gwybod ble i ddechrau arni, fel arall.

“Gyda Hwyliaith, dwi eisiau rhoi yn ôl i’r gymuned. Trwy sefydlu fel menter gymdeithasol, bydd gen i dîm yn fy nghefnogi i, a gallwn ddosbarthu ein gwasanaethau yn ehangach.

“Dylai pawb gael mynediad i’r Gymraeg. Mae plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond nid ydyn nhw’n blant yn hir, ac mae pobl eisiau dysgu Cymraeg o hyd, hyd yn oed pan maen nhw’n hŷn.

“Mae angen rhoi dysgu yn ei gyd-destun. Bydd fy adnoddau a hyfforddwyr ar gael i addysgu plant mewn ysgolion, ac yna i addysgu eu rhieni y tu allan i oriau ysgol. Y nod yw cael uned gyfan y teulu i gymryd rhan.

“Rai blynyddoedd yn ôl, fel tiwtor yn y Drenewydd, siaradais â rhai plant meithrin a ddywedodd wrthyf eu bod yn mynd i’r siop anifeiliaid anwes i ddewis danteithion ac offer i ofalu am eu ci yn yr ysgol feithrin.

“Y stori yna, a fy nghi fy hun, Sam, oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i fy straeon am Sam Ci, sy’n gwneud Cymraeg sgyrsiol yn hwyl ac yn real.

“Mae’r cynllun yn cynnwys caneuon, deialogau a fideos, pum uned ddysgu, llyfrau darllen i blant, a mwy. Y gobaith yw y bydd ysgolion yn mabwysiadu’r cynllun hwn, a bydd yn cael effaith triongl, gan hybu a chefnogi’r plentyn, y teulu a’r gymuned.” 

Disgwylir i’r cynllun hwn gael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2025 gyda lansiad gwefan Nia www.hwyliaith.cymru.

Cysylltwch â nia.llywelyn@googlemail.com i ddysgu mwy.