Gweithio Gyda’n Gilydd i Feithrin Gallu Digidol yng GIG Cymru

28 Ebrill 2025

Mae trawsnewid digidol yn flaenoriaeth uchel i GIG Cymru. Fodd bynnag, mae bwlch sylweddol yn bodoli rhwng y datblygiadau cyflym mewn technolegau gofal iechyd a gallu’r gweithlu i ddefnyddio’r technolegau hynny’n effeithiol. Credir bod y bwlch hwn oherwydd llythrennedd digidol a gallu’r gweithlu, wedi ei gymhlethu gan heriau economaidd-gymdeithasol.

Fel rhan o Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, creodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y Fframwaith gallu digidol (DCF) ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Nod y fframwaith yw cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff nad ydynt yn arbenigwyr digidol i nodi a datblygu’r sgiliau, yr agweddau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i ffynnu yn yr amgylchedd iechyd digidol.

Mae’r DCF yn cynnwys offeryn hunanwerthuso wedi’i gynllunio i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi meysydd ar gyfer datblygiad digidol. Mae’n cynnwys chwe maes allweddol, sef parthau, sy’n darparu dull strwythuredig ar gyfer gwella sgiliau digidol:

•              Dysgu ac arweinyddiaeth

•              Gweithio gydag eraill

•              Diogelwch a lles

•              Defnyddio technoleg

•              Llythrennedd data

•              Ymchwil ac Arloesi

Ar y cyd mae’r parthau hyn yn  hanfodol ar gyfer meithrin llythrennedd digidol a grymuso ar lefelau  unigol a sefydliadol. Drwy wella llythrennedd digidol, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn sefyllfa well i ddefnyddio offer a thechnolegau digidol yn effeithiol yn eu gwaith beunyddiol. Gall hyn, yn ei dro, wella gofal cleifion trwy wella’r cydlynu , cyfathrebu a mynediad at wybodaeth. Mae’r fframwaith hefyd yn ategu datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac yn grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd perchnogaeth o’u taith trawsnewid digidol.

Partneriaeth ar gyfer cynhwysiant digidol a datblygu gallu
Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (DCW) wedi cyd-weithio ag AaGIC i hyrwyddo cynhwysiant digidol ochr yn ochr â thrawsnewid digidol a datblygu gallu. Y nod yw helpu’r gweithlu gofal iechyd i ddeall effaith trawsnewid digidol a sut y gallant gyfrannu at GIG Cymru mwy cynaliadwy. DCW yw’r rhaglen gynhwysiant digidol genedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei chyflwyno gan Gwmpas mewn partneriaeth â rhaglen y Sefydliad Good Things.

Dechreuodd y gwaith cydweithredol hwn yn ystod creu’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF) lle darparodd DCW gyngor a chymorth i feysydd o’r fframwaith gallu. Ers hynny, Mae DCW ac AaGiC wedi cyd-weithio i dreialu Fframwaith Hyrwyddwyr a Gallu Digidol, gan helpu timau i gychwyn ar eu taith ddigidol.

Datblygu trwy bartneriaeth 
Cynhaliwyd y peilot gyda’r Tîm Hawliau Lles yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a oedd yn paratoi i drosglwyddo rhan o’u gwasanaeth o gyngor ffôn i fodel rhithwir gan ddefnyddio  Mynychu’n Unrhyw Le.

Nod y peilot oedd asesu gallu digidol y tîm, gan bwysleisio dull yn seiliedig ar wybodaeth. Cymerodd staff ran mewn gweithdy i gyflawni’r DCF a derbyn hyfforddiant Hyrwyddwyr Digidol am ddim i roi hwb i’w sgiliau, hyder a’r cymwyseddau angenrheidiol.

Mae Hyrwyddwyr Digidol yn aelodau staff neu wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo cydweithwyr, cleifion a’r cyhoedd i wneud y mwyaf o’u hymgysylltiad ar-lein. Fel unigolion dibynadwy i’r rhai sydd mewn perygl o eithrio digidol, mae Hyrwyddwyr Digidol yn derbyn hyfforddiant a chymorth gan DCW i gael effaith ystyrlon yn eu sefydliad neu gymuned. 

Yn dilyn y sesiynau cychwynnol, teimlodd y tîm yn  fwy hyderus. Roedd myfyrio ar eu sgiliau digidol a’u hyfforddiant gyda Hyrwyddwyr Digidol wedi adnewyddu eu cymhelliant i hyrwyddo cynhwysiant. Roedden nhw hefyd yn cydnabod eu rôl i helpu cleifion i gysylltu’n ddigidol.

Roedd y dull cydweithredol yn galluogi’r tîm i dderbyn y cymorth gywir ar yr adeg gywir, rhywbeth sydd ar gael dim ond pan fyddwn yn cyd-weithio. O ganlyniad i’r peilot, mae’r Tîm Hawliau Lles yn Felindre bellach yn hyderus i symud ymlaen gyda’r platfform Mynychu’n Unrhyw Le, gyda chymorth gwasanaethau digidol. Bydd hyn yn cynnig mwy o opsiynau i gleifion a’u teuluoedd ymgysylltu â’r tîm, boed hynny trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb, apwyntiadau ar-lein trwy’r platfform Mynychu’n Unrhyw Le, neu gyngor ffôn. Bydd technoleg yn caniatáu i gleifion gysylltu â’r tîm o gartref, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd a gwella eu profiad cyffredinol. Mae llawer o geisiadau lles bellach ar-lein, a byddwn yn parhau i gefnogi cleifion, gan sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn a theimlo’n hyderus yn y broses ymgeisio.

Wrth fyfyrio ar y daith Gallu Digidol dywedodd Hayley Price, Rheolwr y Tîm Hawliau Lles:
“Mae cyflawni’r fframwaith fel tîm cyfan wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rhoddodd amser i staff fyfyrio, a sylweddolwyd gan lawer fod y tîm yn fwy medrus nag yr oeddent yn credu eu hunain. Felly, rhoddwyd hwb i hyder y tîm.”

“Ers cael cymorth gan Ellen a chydweithwyr eraill fel rhan o’r bartneriaeth mae wedi rhoi golwg newydd i mi ar beth yw gallu digidol mewn gwirionedd. Mae tîm Hawliau Lles Felindre wedi cofleidio gwella a chydnabod ein gallu digidol, a fydd yn ei dro yn gwella ein hymarfer. Byddwn yn rhannu ein hyder newydd trwy rannu’r wybodaeth hon gyda’r rhai rydyn ni’n eu cefnogi.”

Cysylltwch â ni yn AaGIC os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth am y gwaith hwn.