Gofal cymdeithasol – datgloi bywyd cadarnhaol, cynhyrchiol a chysylltiedig.
Mae pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol yn aml yn cael eu hystyried yn faich angenrheidiol i’r gymdeithas, yn gost, yn bobl sydd angen “derbyn gofal”. Ni ddylai’r ffaith bod angen rhywfaint o help roi person yn y categori baich. Ers gormod o amser mae gwasanaethau wedi canolbwyntio ar fecanweithiau darparu gwasanaethau yn hytrach nag ar weithio gyda phobl eu hunain i yrru tuag at y canlyniadau mwyaf cadarnhaol. Mae Cwmpas wedi datblygu dulliau y mae timau gofal cymdeithasol eisoes yn eu defnyddio i drawsnewid darpariaeth, heb ‘ypsetio’r applecart’.
Fel enghraifft, mae rheolwyr tîm yn dechrau adolygiadau wythnosol gyda chwestiynau “A allem ni gysylltu pobl a chymuned? Beth maen nhw eisiau ei wneud? Beth sy’n bwysig iddyn nhw? Beth sy’n bwysig i’r teulu?” ac yna defnyddio eu profiad proffesiynol a gwybodaeth leol i helpu i nodi neu ddatblygu atebion. Mae’r timau gofal cymdeithasol wedi’u grymuso yn yr amgylchedd cydgynhyrchu hwn ac yn cael boddhad o’r canlyniadau cadarnhaol.
Mae annog cyd-gynhyrchu neu ganiatáu i bobl nodi’r math o gymorth y maent yn ei ddymuno yn ymddangos yn broblematig. Yn reddfol mae rhywun yn dychmygu bod yn rhaid i hyn fod yn ddrud. Efallai na fydd pobl yn gwybod yn union beth maen nhw ei eisiau neu beth y gellir ei gyflawni. Sut ydych chi’n cydbwyso anghenion un person ag anghenion y rhanbarth gydag amser ac adnoddau cyfyngedig? Mewn gwirionedd, gall y cysyniadau hyn gydfodoli’n berffaith gyfforddus, wedi’u hwyluso gan gyfraniadau’r tîm gofal a chymorth medrus.
Mae cydweithrediadau gofal sydd newydd eu sefydlu yn Sir Gaerfyrddin wedi helpu pobl ag anghenion arbennig i ddatblygu sgiliau sydd, dros amser, wedi arwain at gyflogi’r bobl hynny yno. Gwnaeth un grŵp rhandiroedd waith mor dda fel eu bod yn gallu cyflenwi cynnyrch i’w banc bwyd lleol ar gyfer y tymor tyfu cyfan. Yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth awdurdod lleol, canfu rhai pobl, gyda chymorth cychwynnol, dros amser, eu bod yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad i weithgareddau. Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut mae pobl yn cymdeithasu, yn datblygu sgiliau ac yn bod yn weladwy o fewn eu cymuned.
Mae cynnwys pobl fel cyd-gynhyrchwyr gweithredol eu llesiant eu hunain yn arwain at ddulliau gofal cymdeithasol y maent yn fwy tebygol o ymgysylltu â nhw ac ymrwymo iddynt. Rydym eisiau helpu pobl i fyw’n well, i leihau eu hangen am Ofal a’u dibyniaeth ar Ofal, wrth ddatblygu sgiliau, hyder a pherthnasoedd. O safbwynt ymarferol, yn ogystal ag ariannol, mae cydgynhyrchu yn fwy cynaliadwy na chanolbwyntio ar ystod gyfyng o wasanaethau y telir amdanynt ar ddiwedd asesiad.
Yn wahanol i arfer traddodiadol, mae’r dulliau a hyrwyddwn yn fwy tebygol o arwain at ehangu gorwelion pobl ac annog cyfranogiad. Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn awgrymu synergeddau rhwng gwahanol nodau’r Ddeddf, maent yn cynnal ei gilydd. Er enghraifft, gall cydgynhyrchu gynyddu “Gwerth Cymdeithasol” a gweithredu hefyd i atal neu leihau dibyniaeth ar ofal hirdymor o dan rai amgylchiadau.
Mae galluogi, cefnogi a grymuso pobl trwy ofal cymdeithasol, yn hytrach nag ymateb cul i ‘anghenion’, yn datgloi ac yn ymgysylltu â phobl sy’n daer i ddefnyddio eu hamser, eu sgiliau a’u hegni i gyfranogi fel aelodau llawn a chynhyrchiol o’u cymuned.