Glyn Wylfa: Bob amser yn gwneud elw, ond ddim yn cymryd elw – dyna sut i wneud i elw a diben gyfrif

14 Hydref 2025

“Bob amser yn gwneud elw, ond ddim yn cymryd elw: dyna sut i gael cydbwysedd a diben ar gyfer cynaliadwyedd.” 

Dyna’r cyngor gan Brian Colley, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Glyn Wylfa yn Y Waun, gogledd Cymru. Mae Glyn Wylfa wedi’i restru ymhlith 100 menter gymdeithasol orau NatWest yn y Deyrnas Unedig ar gyfer 2025, am y bumed flwyddyn yn olynol. 

Yn 2012, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn wynebu penderfyniad ynghylch un o hen swyddfeydd adfeiliedig y cyngor yn Y Waun, sef: trosglwyddo’r eiddo i’r gymuned leol neu’i dymchwel er mwyn adeiladu tai newydd. 

Dewisodd cymuned Y Waun gadw’r eiddo i fod yn hyb cymunedol, a thyfodd Glyn Wylfa oddi yno. 

Costiodd £600,000 i adnewyddu’r tŷ a chreu’r caffi. 

Mae Glyn Wylfa yn hunangynhaliol erbyn hyn, ac yn ehangu bob blwyddyn gyda thwf digid dwbl. 

Pan ymwelais i, roedd Caffi Wylfa yn brysur gyda grwpiau cerdded, grwpiau lleiafrifol, grŵp anghenion arbennig, llawer o gyplau a grwpiau o bob oedran, hyd yn oed ar ddiwrnod glawog. Roedd y waliau wedi’u sirioli gan ddelweddau a chreadigaethau gan arlunwyr lleol. 

“Rydyn ni’n cyflogi tîm gwych o un deg saith yn y caffi, yn cynnwys pobl ifanc leol, gan roi cyfleoedd iddyn nhw fagu profiad ac wedyn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd newydd. 

“Mae’r gymuned leol yn defnyddio’r lleoliad fel hyb. Mae bob amser yn brysur gyda thwristiaid, ond mae trigolion lleol yn hoffi gwneud defnydd helaeth ohono, hefyd. Mae agwedd cyfalaf cymdeithasol menter gymdeithasol yn bwysig, fel bod y gymuned yn gweld y buddion ar y cyd yn bwydo’n ôl i’r economi leol, gan hybu budd economaidd a pherthnasoedd o fewn y gymuned.”  

Mae’n amlwg fod Caffi Wylfa/Glyn Wylfa yn ofod gofalgar a chyfeillgar, sy’n croesawu dros 80,000 o gwsmeriaid y flwyddyn. 

“Rydyn ni’n cael adolygiadau gwych, sydd mor hyfryd i’n staff eu gweld. 

“Roedd un o’n cwsmeriaid rheolaidd yn eistedd ar ei ben ei hun un diwrnod, oedd yn anarferol. Siaradais efo fo, a dywedodd wrtha’ i fod o wedi colli’i wraig yn ddiweddar. Roedd o wedi dod i Gaffi Wylfa i gofio am yr adegau da, ac efallai chwilio am gysur yma. Cyflwynais i’r dyn i grŵp sy’n cyfarfod yma yn y caffi, a oedd yn gallu cynnig cefnogaeth a chyfeillgarwch iddo. Fe wnes i allu cyflawni math o wasanaeth cynghori cymdeithasol anffurfiol.”  

Mae Glyn Wylfa yn cefnogi tua 20 o sefydliadau lleol ac yn rhoi cyfanswm o dros £10,000 bob blwyddyn, sy’n cwmpasu popeth o bêl-droed a chriced ieuenctid i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen; Tŷ Gobaith (cartref gofal lliniarol i blant); grwpiau Cymraeg; grŵp pantomeim Y Waun a chlwb bowlio; The Rainbow Foundation (gofal am yr henoed); Picnic yn y Parc; St John Ambulance; ac Advance Brighter Futures (elusen iechyd meddwl). 

“Ein cenhadaeth o’r cychwyn oedd bod o fudd i’r gymuned leol. Mae unrhyw un yn gallu gofyn am gymorth ar ffurf rhoddion neu nawdd. 

“Rydyn ni’n gwneud elw, ac yn ei ailfuddsoddi. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi ailfuddsoddi 75-80% o’n helw yn barhaus i ehangu a gwella’n cyfleusterau, a chefnogi’r gymuned.” 

Yn ogystal â Chaffi Wylfa (sydd ar agor bob dydd o 9.30am-5pm), mae Canolfan Fusnes Glyn Wylfa yn rhentu swyddfeydd modern, â chyfarpar llawn yn yr adeilad gwreiddiol sydd wedi’i adnewyddu i fusnesau lleol, sy’n cyflogi 35-40 o bobl eu hunain: cwmni dosbarthu electroneg sy’n hyrwyddo ‘Beyond Borders,’ sef elusen ar gyfer gweithiau celf wedi’u mewnforio o Haiti; dau seicolegydd; cwmni cymorth anghenion addysg ychwanegol i blant; yr orsaf heddlu leol; cwmni gweinyddu cyfanwerthu yn y sector llaeth; ysgrifennydd i batholegydd fforensig lleol; a dylunydd gwefan. 

Mae safle Glyn Wylfa wedi lleihau ei ddefnydd ynni 50% yn unol ag amcanion menter gymdeithasol trwy osod yr offer ecogyfeillgar diweddaraf. 

“Mae gennym ni 57 o baneli solar ar y to. Mae ein holl osodiadau golau yn rhai ynni isel. Rydyn ni’n parhau i dargedu a gwella ein heffeithlonrwydd ynni. 

“Yn 2024, enillon ni wobr Busnes Swydd Arloeswyr NatWest yn Llundain, lle cawson ni ein llongyfarch am ein rôl fel ‘arloeswr busnes’ yn y sector Menter Gymdeithasol.  

“Rydyn ni’n rheoli gofod da, sy’n darparu gwasanaeth da, ac yn cynhyrchu busnes da, sydd o fudd i’n cwsmeriaid a’n cymuned.” 

Mae Brian a Glyn Wylfa yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Y Waun ar lawer o ddigwyddiadau. 

Dechreuodd ras 10k flynyddol gyntaf Y Waun o faes parcio Glyn Wylfa gyda 500 o redwyr ychydig o wythnosau’n ôl, a rhoddwyd arian i ysbyty orthopedig Croesoswallt. 

Ar 4 Hydref, bydd y Baton Gobaith, sef menter genedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad sy’n cynnwys 20 o ddinasoedd yn y Deyrnas Unedig, yn teithio o Gaffi Wylfa i Gastell Y Waun, ac wedyn ymlaen i Brifysgol Wrecsam – yr unig ymweliad â Chymru eleni. 

Mae iechyd meddwl a chymorth lles yn amlwg yn bwysig iawn i Brian a Glyn Wylfa. Mae nifer o aelodau staff wedi eu hyfforddi i fod yn swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl. 

Mae Glyn Wylfa yn cynnal busnes, ond gyda budd cymunedol a chymdeithasol diffiniedig. 

Pa gyngor fyddai Brian yn ei roi i rywun sydd eisiau sefydlu menter gymdeithasol? 

“Nodwch y sector rydych chi eisiau ei gefnogi, p’un a yw’n her gymunedol neu gymdeithasol, wedyn edrychwch ar sefydlogrwydd ariannol. 

“Paratowch gynllun busnes da, sy’n ymdrin â chymorth ar gyfer eich cynulleidfa darged. Gwnewch eich diben yn un eang. Os yw’n rhy gul ac â ffocws rhy gaeth, efallai y gwelwch chi fod eich opsiynau ar gyfer cyllid yn gyfyngedig. Gwnewch y busnes mor ariannol gadarn ag y gallwch chi, ac wedyn ailfuddsoddi’r elw er budd eich achos cymunedol neu gymdeithasol. A gwnewch i elw a diben gyfrif bob tro.” 

Tuag at ddiwedd y cyfnod monitro grantiau (sydd wedi dod i ben ers tro), cynhaliodd Y Gronfa Loteri Fawr gyfarfod yng Nglyn Wylfa. Mae’n amlwg fod y cyfarfod hwnnw wedi mynd yn dda, oherwydd, yn ôl y partneriaid busnes, roedd y grant yn ‘arian a gafodd ei wario’n dda’, gan gyflawni ‘popeth a oedd wedi’i ysgrifennu yn y cynllun busnes, a llawer mwy.’ 

O’r prysurdeb a welais, mae’n ymddangos bod y gymuned yn teimlo o hyd fod yr arian yn cael ei wario’n dda.