Etholiadau lleol: Rydyn ni yma i helpu adeiladau cyfoeth cymunedol
Wrth i’r llwch setlo ar yr etholiadau lleol, rydym eisiau longyfarch pawb sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen i gynrychioli eu cymunedau a dymuno pob llwyddiant i’r rhai sydd wedi cael eu hethol wrth iddyn nhw ddechrau eu tymhorau. Mae Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan allweddol mewn cryfhau ac ail-gydbwyso ein heconomïau lleol, ac rydym am weithio gyda chynrychiolwyr o ledled y wlad i helpu i rymuso ein cymunedau.
Rydym ar bwynt hollbwysig. Yn dilyn heriau’r flynyddoedd diwethaf, mae consensws bod angen i’n heconomïau newid i sicrhau ein bod yn barod i wynebu heriau’r dyfodol. Mae’r argyfwng costau byw, yr argyfwng hinsawdd a’r heriau i’n sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gofyn am newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae ein cymdeithasau’n gweithio, ac mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ddull profedig o adeiladu economïau lleol cryfach a gwella’r gallu i wrthsefyll heriau economaidd a chymdeithasol.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd ein ‘Canllaw i adeiladu economïau lleol cryfach’ a byddwn yn anfon copi at bob cynghorydd sydd wedi cael ei ethol yng Nghymru. O’r economi sylfaenol i werth cymdeithasol, a pherchnogaeth gweithwyr i dai dan arweiniad y gymuned, mae’r Canllaw yma i helpu pobl i ddylunio polisi, darparu gwasanaethau allweddol neu creu newid yn eu hardal leol. Mae’n dangos sut mae’r ymagweddau hyn at ddatblygu economaidd yn creu cymunedau cryfach ac yn rhoi argymhellion diriaethol ar gyfer sut mae’r syniadau hyn yn gallu datblygu ymhellach yng Nghymru.
Mae Cwmpas yma i helpu pobl a mentrau i ddarparu newid yn eu cymunedau. Rydym yn darparu pob math o wasanaethau ymgynghori a chymorth er mwyn helpu pobl a chymunedau i sefydlu’r math o fentrau a phrosiectau sydd wedi’u nodi yn y canllaw, ac hefyd yn rhoi cyngor i lunwyr polisi o bob lefel o lywodraeth. Os ydych chi eisiau dysgu rhagor, cysylltwch â ni a byddwn yn falch iawn i helpu.
Cipolwg ar y cynllaw
Perchnogaeth gan weithwyr
Pan fydd gweithwyr yn berchen ar y busnes maent yn gweithio iddi, neu’n berchen ar ran sylweddol ohoni, bydd y gweithwyr, y busnes a’r economi leol ar eu hennill. Mae’r elw a’r broses benderfyniadau yn cael eu cadw yn yr ardal ac mae perchnogion busnes yn cael cynllun olyniaeth dibynadwy. Mae Llywodraeth Cymru eisiau dyblu nifer y busnesau hyn yng Nghymru, ac yn yr adran hon gallwch ddarllen mwy am pham a sut y gellir gwneud hyn.
Economi sylfaenol
Mae’r economi sylfaenol yn sector o’r economi sy’n ymwneud â sectorau “bob dydd” a gaiff eu darparu ym mhob man, ac ar draws Cymru gyfan. Gall edrych o’r newydd ar y sectorau hyn o safbwynt polisi economaidd arwain at fanteision mawr gan eu bod yn cyflogi llawer iawn o bobl ac yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol.
Mentrau cymdeithasol
Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy’n rhoi’r un flaenoriaeth i’w heffaith ar lesiant a’r amgylchedd ag y maent i wneud elw. Mae’r sector hwn o’r economi sy’n tyfu yn hanfodol wrth i ni ymateb i’r heriau rydym yn eu hwynebu fel cymdeithas. Isod, gallwch ddarllen am y ffordd mae’r busnesau hyn eisoes yn chwarae rhan mor bwysig a beth y gallwn ni ei wneud i’w helpu i dyfu ymhellach.
Gwerth cymdeithasol
Mae gwerth cymdeithasol yn ffordd o fesur effaith penderfyniadau sy’n ystyried ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’n ffordd o sicrhau bod yr effaith ar lesiant ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol yn gwbl sylfaenol i’n penderfyniadau.
Cyfranddaliadau cymunedol a pherchnogaeth gymunedol
Mae rhoi grym a rheolaeth go iawn i bobl leol dros yr asedau sy’n werthfawr iddynt yn ffordd wych o sicrhau y gallant chwarae rhan weithredol yn y ffordd mae cymunedau yn datblygu. Mae cyfranddaliadau cymunedol yn cynnig ffordd o sicrhau bod y grwpiau a’r prosiectau hyn yn gallu cael mynediad at y cyllid mae ei angen arnynt. Mae’r adran hon yn esbonio buddion y modelau hyn a sut gellir eu cefnogi.
Economi gylchol/rhannu
Mae’r Economi Gylchol a’r Economi Rhannu yn syniadau sy’n dod yn fwy poblogaidd, ac yn ennyn diddordeb gan amryw o randdeiliaid. Trwy fod yn llai gwastraffus a sicrhau y gall pawb gael yr adnoddau mae eu hangen arnynt, gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd a bywydau pobl. Mae’r adran hon yn esbonio sut gall y syniadau hyn gael eu datblygu yng Nghymru.