Diwrnod Robert Owen: Dathlu Hanes Cydweithredol Cymru a Chymryd y Camau Nesaf

14 Mai 2025

Mae Robert Owen Day yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrio ar waddol balch Cymru fel man geni gwerthoedd cydweithredol a dychmygu sut y gall y syniadau hyn adeiladu economi gryfach a thecach i bobl a’r blaned yng Nghymru.  

 Roedd syniadau Owen ymhell o flaen eu hamser ac yn dangos mai cydweithredu a grymuso yw’r llwybr i lwyddiant economaidd a ffyniant. Credai yng ngrym pobl yn gweithio gyda’i gilydd i wella eu bywydau, eu busnesau a’u cymunedau trwy rhanberchnogaeth.  

 Gellir olrhain DNA cydweithredol Cymru yn ôl dros ganrifoedd ac mae’n darparu fframwaith ar gyfer sut y gallwn adeiladu economi well. Yn 2025, nid dathlu ein hanes yn unig yw dathlu Diwrnod Robert Owen, ond mae’n rhaid ei fod yn gosod y marc ar gyfer ymagwedd newydd at ddatblygiad economaidd Cymru.   

 Gydag etholiadau Senedd 2026 ar y gorwel, mae holl bleidiau gwleidyddol Cymru yn y broses o lunio eu maniffestos a’u hagendâu polisi. Dyna’r amser pwysicaf yn awr i sicrhau bod gwerthoedd cydweithredol yn cael eu gwreiddio yn ein cymunedau ac yn nyfodol economi Cymru fel rhan ganolog o strategaeth i wneud Cymru’n fwy llewyrchus, cynaliadwy a chyfartal. 

Economi Llesiant, Wedi’i Gwreiddio yn y Gymuned 

 Ledled Cymru, mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol eisoes yn arwain y ffordd – gan dyfu busnesau arloesol, darparu gwasanaethau lleol, adeiladu cartrefi, creu cyflogaeth gynhwysol, rhedeg cynlluniau ynni cymunedol, creu cyfoeth a llawer mwy. Mae’r rhain yn atebion ymarferol, arloesol ac entrepreneuraidd sy’n ymateb i angen lleol ac yn meithrin gwydnwch hirdymor.  

 Bydd cefnogi’r busnesau cydweithredol a mentrau cymdeithasol hyn, a bod yn rhagweithiol wrth nodi cyfleoedd newydd a dod â phobl ynghyd i weithredu arnynt, yn rhan greiddiol o’r ateb i’r heriau hirdymor a strwythurol yn economi Cymru.   

Etholiadau 2026  

 Mae etholiad y Senedd blwyddyn nesaf yn rhoi cyfle inni i gyd roi hyn ar frig yr agenda bolisi. Roeddem yn falch o weld bod argymhellion penodol yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 i ddyblu maint y sector menter gymdeithasol a buddsoddi mewn hwb datblygu cydweithredol i Gymru. Unwaith eto, gall Cymru ddangos i’r byd sut beth yw llwybr gwahanol drwy roi atebion menter gydweithredol a chymdeithasol wrth galon ein strategaeth datblygu economaidd. 

Ffyniant Cynaliadwy  

Yn Cwmpas, rydym yn credu yn y model hwn oherwydd rydym yn gweld yr effaith y mae busnesau cymdeithasol Cymru yn ei chyflawni bob dydd. Dyna pam, yn y misoedd i ddod, y byddwn yn cyhoeddi ein Maniffesto ar gyfer Ffyniant Cynaliadwy, gan nodi sut y gallwn gefnogi’r sector hwn a’i wneud yn fodel busnes o ddewis yng Nghymru.  

  

Gan dynnu ar ein profiad o gefnogi busnesau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, a datblygiad dan arweiniad y gymuned ledled Cymru, bydd ein maniffesto yn nodi llwybr clir, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer sut y gall Cymru gynhyrchu cyfoeth a llesiant.  

 Mae hyn yn golygu diogelu cymorth arbenigol i fusnesau cymdeithasol ddechrau, goroesi a thyfu, buddsoddi yn natblygiad rhagweithiol y farchnad yn y sector cydweithredol, a sicrhau mynediad at y mathau cywir o gyllid. 

Mae’n golygu dathlu twf perchnogaeth gweithwyr yng Nghymru ac ymrwymo i fynd hyd yn oed ymhellach i addysgu ein pobl ifanc am fentrau cydweithredol llwyddiannus ac entrepreneuriaid cymdeithasol Cymru fel rhan o’r cwricwlwm, ac ymgorffori hawliau i berchnogaeth gymunedol mewn deddfwriaeth.   

Mae Cymru’n wynebu amrywiaeth o heriau a gall deimlo weithiau bod y ffordd y mae ein heconomi yn gweithio yn eu gwneud yn waeth, yn hytrach na’u datrys. Ond ar draws gwahanol gymunedau a sectorau mae yna gydweithredwyr ac entrepreneuriaid cymdeithasol ysbrydoledig yn gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd, ac mae angen inni eu grymuso nhw a’n cymunedau i ail-gydbwyso ein heconomi a chreu Cymru decach, gynaliadwy a llewyrchus.   

Mae Diwrnod Robert Owen yn dangos bod y traddodiad Cymreig hwn o gydweithio yn mynd yn ôl ganrifoedd, ond nid anrhydeddu buddugoliaethau’r gorffennol yn unig yw’r her i ni heddiw, ond dysgu eu gwersi ac adeiladu dyfodol gwell.  Mae Cymru wedi cymryd yr awenau o’r blaen, ac yn 2026 gallwn wneud hynny eto.   

 Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ar yr agenda hon, cysylltwch â’n harweinydd Polisi ac Ymgysylltu, Daniel Roberts, drwy dan.roberts@cwmpas.coop