Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Blog gan Prif Weithredwr Bethan Webber
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, ymunwch â Phrif Swyddog Gweithredol Cwmpas, Bethan Webber, i dynnu sylw at gyfraniadau anhygoel entrepreneuriaid cymdeithasol benywaidd sy’n llywio cymunedau Cymru. O elusennau celfyddydau ac iechyd meddwl i fentrau cynaliadwy, mae menywod ar flaen y gad, gan bontio arloesedd â llesiant. Archwiliwch y straeon a’r llwyddiannau dylanwadol, gan feithrin cyfnod newydd o ddatblygiad economaidd i Gymru.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod roedden ni yn Cwmpas eisiau rhoi sylw i rai o’r entrepreneuriaid cymdeithasol benywaidd ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr yng nghymunedau Cymru.
Ar draws ystod o sectorau gwahanol, mae menywod yn defnyddio’r model menter gymdeithasol i ateb yr heriau mae nhw a’u cymunedau yn eu hwynebu. Gan gyfuno rhinweddau arloesedd ac entrepreneuriaeth â gwerthoedd llesiant a chynaliadwyedd, mae gan y sector menter gymdeithasol rôl ganolog i’w chwarae wrth drawsnewid ein heconomi i un sy’n blaenoriaethu llesiant, yn cyrraedd sero-net ac sydd â gwir gydraddoldeb i fenywod.
Yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2023 enillodd Eleanor Shaw, sylfaenydd PeopleSpeakUp, Wobr Pencampwr Menywod Menter Gymdeithasol. Ar ôl amser yn gweithio yn y maes addysg am sawl flwyddyn, teimlai Eleanor yr alwad i wneud gwahaniaeth mwy dylanwadol. Ar ôl gadael ei rôl arweiniol mewn Addysg Bellach, cymerodd amser i ffwrdd i deithio i ddod o hyd i iachâd a phwrpas. Daeth Eleanor o hyd i hynny trwy adrodd straeon.
Heddiw, mae People Speak Up yn elusen cymdeithasol, celfyddydol, iechyd a llesiant gyda bwriad cymdeithasol sy’n cysylltu cymunedau trwy ddweud stori, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a’r celfyddydau cyfranogol. Maen nhw’n cynnig gweithdai, hyfforddiant, digwyddiadau, gwirfoddoli a sgyrsiau ac yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl trwy gymunedau cysylltiedig a gwaith partneriaeth cryf.
Mae menywod ledled Cymru yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cymunedau mewn ffyrdd tebyg i PeopleSpeakUp, ar yr un pryd â hybu economi Cymru drwy fenter gymdeithasol, sector sydd bellach yn cyflogi 65,299 o bobl ledled y wlad. Mae ein hymchwil wedi dangos bod gan arweinyddiaeth o fewn y sector gydbwysedd rhwng y rhywiau sylweddol well na’r sector preifat, gyda 51% o’r bobl ar dimau arweinyddiaeth uwch yn fenywod, a 56% o fentrau cymdeithasol â menyw fel eu rheolwr uchaf.
Dyma un rheswm yn unig pam ein bod yn angerddol am fenter gymdeithasol. Credwn fod yn rhaid iddo fod wrth wraidd model newydd o ddatblygu economaidd i Gymru. Trwy gefnogi’r sector menter gymdeithasol byddwn yn meithrin cymunedau eu hunain i ddatrys y problemau y maent yn eu hwynebu ac yn ail-gydbwyso economïau lleol i greu ffyniant cynaliadwy. Yng ngoleuni colli Chwarae Teg a’u gwaith hanfodol, mae’n allweddol nad ydym yn hunanfodlon ynghylch cydraddoldeb a sicrhau bod arweinwyr cymdeithasol benywaidd – yn y sector menter gymdeithasol a thu hwnt – yn cael y cymorth, yr hyfforddiant a’r cyfleoedd rhwydweithio sydd eu hangen i greu’r effaith fwyaf posibl.
Rydym yn ffodus yng Nghymru i gael cymaint o fodelau rôl benywaidd gwych yn y sector menter gymdeithasol. Rydyn ni’n gweld bob dydd y gwahaniaeth enfawr maen nhw’n ei wneud yn ein cymunedau. Drwy hyrwyddo’r menywod ysbrydoledig hyn gallwn helpu i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf yr hyder a’r meddylfryd entrepreneuraidd i ddod o hyd i’r atebion i’r heriau sy’n ein hwynebu.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld mwy o enghreifftiau o fenywod ysbrydoledig o fewn tîm Cwmpas ac ar draws y sector menter gymdeithasol. Os oes gennych chi syniad am fenter gymdeithasol, eisiau dysgu mwy am y sector neu’n meddwl y gallwch chi ei gefnogi yn eich gwaith, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn siarad.