Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel – sut i adnabod ac osgoi camwybodaeth a thwyllwybodaeth

11 Chwefror 2025

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol.

Eleni, mae’n canolbwyntio ar sgamiau ar-lein, a’r ffyrdd gorau o’ch gwarchod chi’ch hun a phobl eraill, yn enwedig pobl ifanc.

Mae Cwmpas yn cyflwyno rhaglen ar lythrennedd yn y cyfryngau yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru, ar ran Ofcom. Mae’n rhan o Strategaeth tair blynedd Ofcom ar Lythrennedd yn y Cyfryngau.

Mae llythrennedd yn y cyfryngau yn golygu gallu ‘defnyddio, deall a chreu cyfryngau a chyfathrebu’, ac yn cynnwys helpu pobl i ddefnyddio cyfryngau y maent yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi, a byw bywyd mwy diogel ar-lein.

Gan fod cymaint o newyddion yn ymddangos ar-lein, ac ar gymaint o sianelau, gall fod yn anodd gwybod p’un a yw’r wybodaeth rydych chi’n ei darllen neu’n ei gwylio yn gywir a bod y ffeithiau wedi’u gwirio.

Yn y prosiect hwn yn Rhondda Cynon Taf, rydym ni wedi bod yn helpu pobl ifanc a phobl hŷn, unigolion nad ydynt mewn addysg a chyflogaeth, ac unigolion â gofynion hygyrchedd, i adnabod ffynonellau newyddion dibynadwy, a sut i osgoi rhannu newyddion ffug.

Dyma gyngor Cwmpas ar wahaniaethu rhwng ffaith a’r hyn sy’n ffug.

Daw newyddion o ffynonellau niferus. Adrannau’r llywodraeth, awdurdodau’r sector cyhoeddus, cwmnïau’r sector preifat, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector fel Cwmpas, ac asiantaethau newyddion.

Maent i gyd yn dosbarthu eitemau newyddion trwy sianelau niferus, trwy’r dydd, bob dydd.

Mae newyddiadurwyr a dylanwadwyr yn adrodd ar y newyddion hynny.

Mae pob newyddiadurwr proffesiynol yn gwirio manylion ac yn cadarnhau cywirdeb yr adroddiadau newyddion mae’n eu creu.

Mae hynny’n golygu bod y prif bapurau newydd print, a’u sianelau ar-lein a darlledu, i gyd yn gwarantu mai’r unig newyddion y byddant yn eu cyhoeddi yw newyddion dibynadwy, y mae eu ffeithiau wedi’u gwirio.

Gellir profi’r datganiadau y maent yn eu cyhoeddi gan ddefnyddio tystiolaeth neu drwy arsylwi. Mae’r rheiny’n ffeithiau. Gellir eu gwirio. Nid ydynt yn cael eu dylanwadu gan deimladau neu gredoau rhywun, ac maent yn gyson ni waeth pwy sy’n siarad amdanynt.

Cred bersonol sy’n adlewyrchu teimladau rhywun yw barn. Mae barn yn berffaith ddilys, ond ni ellir profi ei bod yn wir nac yn anwir, ac efallai bod gan wahanol bobl wahanol farn am yr un pwnc.

Gwybodaeth sy’n anwir neu’n anghywir yw camwybodaeth, ond nid yw’r unigolyn sy’n ei rhannu yn bwriadu twyllo nac achosi niwed.

Os ydych chi’n rhannu newyddion o bost ar y cyfryngau cymdeithasol nad yw’n gywir, rydych chi’n lledu camwybodaeth, hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu dweud anwiredd. Dyna pam mae’n bwysig gwneud yn siŵr mai’r unig newyddion rydych chi’n eu rhannu yw newyddion o ffynonellau y gallwch chi ymddiried ynddynt.

Gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yw twyllwybodaeth y mae rhywun yn ei chreu yn fwriadol gyda’r bwriad penodol i dwyllo pobl neu ddylanwadu arnynt.

Mae pobl sy’n lledu twyllwybodaeth yn defnyddio celwyddau i ddylanwadu ar farn y cyhoedd, neu achosi niwed i bobl eraill.

Dyma rai o’r arwyddion amlwg i’ch helpu i adnabod ac osgoi rhannu camwybodaeth a thwyllwybodaeth:

  • Dylech chi ond ddarllen a rhannu gwybodaeth o ffynonellau y gallwch chi ymddiried ynddynt.
  • Os yw’n ymddangos yn rhy eithafol neu syfrdanol i fod yn wir, mae’n siŵr nad yw’n wir.
  • A yw’r erthygl yn rhoi ffeithiau, ffigurau a thystiolaeth wedi eu cefnogi gan ddolenni at ffynonellau eraill? Os ydyw, gwiriwch y ffynhonnell i wneud yn siŵr fod y manylion yn wir. Os na roddir ffynonellau, mae’n bosibl iawn fod y manylion wedi cael eu dyfeisio.
  • Os yw’r iaith yn gythruddol iawn neu’n ysgytiol, mae’n siŵr nad yw’r erthygl yn wir.
  • Mae penawdau sy’n cynnwys PRIFLYTHRENNAU I GYD, Priflythrennau ar hap, llawer o atalnodi!!! neu eiriau fel Gwarthus! (Shocking!) neu Cyfrinach! (Secret!) yn arwyddion amlwg: mae’n siŵr mai twyllwybodaeth yw’r erthyglau hyn – dylech eu hosgoi.
  • Os yw un safle newyddion yn unig yn ymdrin â stori fawr, efallai bod y stori’n anghywir. Mae’n siŵr y byddai storïau newyddion dibynadwy yn ymddangos ar nifer o safleoedd.
  • A oes camgymeriadau sillafu neu wallau gramadeg yn y stori newyddion? Os oes, mae’n siŵr nad yw’n wir.
  • Mae delweddau sy’n edrych fel pe baent wedi cael eu golygu yn arwydd amlwg – dylech osgoi erthyglau gyda delweddau lle mae’r cysgodion yn edrych yn anghywir neu’n ymddangos fel pe baent wedi cael eu trin.
  • Gwiriwch y dyddiad ar stori newyddion. Weithiau, bydd hen wybodaeth neu wybodaeth wedi dyddio yn cael ei rhannu fel pe bai’n newyddion heddiw i greu ymateb negyddol cryf neu ddylanwadu ar ymateb emosiynol.
  • Meddyliwch pam mae darn o wybodaeth yn cael ei rannu. A yw’n ceisio dweud rhywbeth, neu ennyn emosiwn i hyrwyddo agenda wleidyddol, neu a yw’n ‘abwyd clicio’? Os oes cymhelliant sinistr neu annibynadwy y tu ôl i ddarn o newyddion, peidiwch ag ymddiried ynddo.
  • Defnyddiwch wefan ddibynadwy i wirio ffeithiau, fel Full Fact, PolitiFact neu FactCheck.org i wirio gwybodaeth mewn eitem newyddion.

Pwyllwch cyn rhannu’r darn hwnnw o newyddion. Ydych chi’n siŵr ei fod yn wir ac yn gywir? Os na, peidiwch â’i rannu.

Os byddwch yn dilyn y cyngor uchod, gallwch chi fod mor siŵr â phosib fod y newyddion yn ddibynadwy, ac nad ydych chi’n lledu camwybodaeth neu dwyllwybodaeth.

Mae Cwmpas yn partneru â Shout Out UK, AbilityNet, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Age Connects Morgannwg, a Chymdeithas Tai Newydd, gan helpu unigolion i ddeall sut i greu a rhannu gwybodaeth yn gyfrifol, a sut i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.

Os hoffech gymryd rhan yn un o’n gweithdai neu ddysgu mwy am ein Rhaglen Llythrennedd yn y Cyfryngau yn Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â samina.ali@cwmpas.coop.

 

Fideo: Adnabod cam-wybodaeth a gwybodaeth-ffug ar-lein