Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus | Beth mae’n ei olygu i fentrau cymdeithasol
Un o’r datblygiadau pwysicaf yn y Senedd yn 2023 oedd y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn dod yn gyfraith. Mae ganddo’r potensial i drawsnewid sut yr ydym yn gwneud gwleidyddiaeth a datblygu polisi yng Nghymru, ac mae’n ceisio cael effaith sylweddol ar yr economi hefyd – gyda chyfleoedd i’r sector menter gymdeithasol i elwa.
Yn y blog hwn, byddwn yn esbonio pam y dylai mentrau cymdeithasol fod yn barod i ymgysylltu â’r darn hollbwysig hwn o ddeddfwriaeth, a sut mae Cwmpas yn gallu helpu cyrff cyhoeddus i wneud y mwyaf o botensial menter gymdeithasol wrth gyflawni caffael sy’n gymdeithasol gyfrifol.
Beth yw’r Ddeddf?
Mae’r Ddeddf yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth a fydd yn creu system gydweithredol o lywodraethu a fydd yn gweld llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr yn cydweithio’n ffurfiol i greu Cymru well a decach. Yn ogystal â chreu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod y gwerthoedd hyn wrth galon y llywodraeth, mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyrchu nwyddau, gwasanaethau a deunyddiau mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.
Mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio – yr awdurdod lleol sy’n prynu nwyddau neu wasanaethau – geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyflawni caffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol. Mae’n ofynnol iddynt osod, cyhoeddi ac adolygu “amcanion caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol”. Er mwyn cyfrannu at gyflawni’r amcanion hyn, rhaid i awdurdod contractio:
- cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion wrth gyflawni caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontractau rhagnodedig;
- cymryd camau rhagnodedig wrth gaffael contractau adeiladu mawr neu gontractau gwasanaethau allanol.
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i brosiectau adeiladu cyhoeddus mawr a chontractau gwasanaeth allanol ystyried y codau a’r cymalau enghreifftiol a nodir gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Ar gyfer prosiectau adeiladu mae’r rhain yn ymwneud â thaliadau, cyflogaeth, cydymffurfio, hyfforddiant, is-gontractio a’r amgylchedd, ac ar gyfer contractau allanol mae’n ymwneud â diogelu telerau ac amodau staff.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu darparu cyfleoedd cyflogaeth i grwpiau difreintiedig ac ymylol, darparu hyfforddiant priodol, a sicrhau bod hawliau cyflogaeth, mynediad i undebau llafur, a chynrychiolaeth undebau yn cael eu gorfodi a’u parchu.
Sut y gall mentrau cymdeithasol helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu rhwymedigaethau
Mae menter gymdeithasol yn cyd-fynd yn dda iawn â’r ffocws ar sicrhau bod caffael cyhoeddus yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae’r sector, drwy ei fodel gwaelodlin triphlyg, yn cyfrannu gwerth cymdeithasol sylweddol ac amrywiol sy’n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a’r nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dangosir rhai o’r effeithiau mwyaf cyffredin a nodwyd gan fentrau cymdeithasol yn ffigur 1:
Canfu ein hadroddiad mapio Busnes Cymdeithasol fod 66% o’r ymatebwyr yn talu’r Cyflog Byw i’r holl staff, gan ddangos bod y tegwch a’r ymrwymiad hwn i waith teg wrth wraidd y model gwaelodlin triphlyg yn y sector. Yn ogystal, mae ein hymchwil yn dangos bod mentrau cymdeithasol yn arbennig o gryf mewn ardaloedd sydd ag amodau economaidd heriol, gan ddangos y rôl hanfodol y gallant ei chwarae wrth greu llesiant economaidd a gwytnwch mewn cymunedau.
Os ydych chi’n entrepreneur cymdeithasol ac yn meddwl y gall eich sefydliad elwa o ymgysylltu â’r agenda caffael cyhoeddus ac eisiau dysgu mwy am sut y gallwch chi fanteisio ar yr amgylchedd caffael cyhoeddus newydd, gall Cwmpas helpu. Gallwn eich helpu i nodi lle mae angen ichi feithrin gallu i weddu i anghenion cyrff cyhoeddus a lle gall y gwerth cymdeithasol a grëwch roi mantais sylweddol i chi.
Mae Cwmpas hefyd yn gallu helpu cyrff cyhoeddus i wneud y defnydd mwyaf posibl o’r sector menter gymdeithasol wrth ddatblygu strategaethau caffael cyhoeddus sy’n blaenoriaethu llesiant fel y nodir yn y Ddeddf. Rydym yn helpu ystod amrywiol o sefydliadau i nodi gwerth cymdeithasol, cysylltu eu cadwyn gyflenwi â mentrau cymdeithasol a lleol a chynorthwyo gyda gweithredu strategaeth gwerth cymdeithasol. Mae ein tîm o arbenigwyr yn gweithio’n agos ar ymchwil a datblygu caffael, i gynghori’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus ar sut i wneud y mwyaf o werth cymdeithasol.
Cyfleoedd newydd i ddylanwadu ar bolisi drwy’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
Bydd y Ddeddf yn cael effaith ar unwaith ar weithwyr yng Nghymru drwy ei newidiadau i gaffael cyhoeddus, ac mae potensial i bolisïau hyd yn oed yn fwy cyffrous ac effeithiol gael eu datblygu yn y dyfodol drwy fwy o gydweithio ac ymgysylltu. Mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn cynnwys amrywiaeth o gyflogwyr, undebau llafur a chyrff cynrychioliadol, a byddwn yn gweithio i sicrhau bod gwerth menter gymdeithasol wrth galon eu trafodaethau.
Wrth i Gymru barhau i ddatblygu ei dull cydweithredol o ddatblygu polisi, bydd cyfleoedd sylweddol i fentrau cymdeithasol a modelau cydweithredol ddod i’r amlwg a dod yn fodelau busnes o ddewis yng Nghymru.
Os hoffech drafod sut y gall eich busnes neu sefydliad ymgysylltu â’r agenda partneriaeth gymdeithasol, cysylltwch â’n Swyddog Polisi ac Ymgysylltu, Dan Roberts, drwy dan.roberts@cwmpas.coop.