Dathlwch eich effaith – Rhowch gynnig ar Wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025

2 Mehefin 2025

A yw eich menter gymdeithasol yn cydbwyso elw â buddion diriaethol yng Nghymru?  Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025 ar agor – ac ni allwn aros i gael gwybod mwy am eich sefydliad ac y gwaith gwych rydych yn ei wneud.

P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n arwain y mudiad i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol a chreu cyfleoedd mewn cymunedau ledled Cymru, mae yna gategori i chi.

Eleni, y categorïau yw:

Un i’w Wylio  – ar gyfer mentrau gwych newydd llai na dwy flwydd oed

Arloesiad y Flwyddyn mewn Menter Gymdeithasol – ar gyfer mentrau creadigol sy’n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd

Gwobr Effaith Cymdeithasol – i’r rhai sy’n wych o ran profi eu heffaith trwy ddata a straeon cryf

Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn   

Gwobr Menter Gymdeithasol sy’n Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder 

Hyrwyddwr Menywod y Flwyddyn mewn Menter Gymdeithasol 

Gwobr Menter Gymdeithasol yn y Gymuned – sefydliad seiliedig ar le sy’n cael effaith fawr

Gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Cymru 

Gall ennill – neu gyrraedd y rhestr fer – roi hwb i forâl y tîm, rhoi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i’ch staff a’ch gwirfoddolwyr, a chodi’ch proffil gyda chleientiaid, cyllidwyr, a’r sector ehangach.

Dywedodd Trystan Jones, Prif Weithredwr The Community Impact Initiative, a enillodd Un i’w Gwylio yn 2019 a Gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yn 2024:

“Roedd ennill gwobr Busnes Cymdeithasol Cymru yn cadarnhau ein cred yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Fe roddodd hyder i bobl yn y dylanwad cadarnhaol sydd gennym, ac roedd yn gadarnhad pwerus a oedd yn golygu llawer i’n staff.” 

Eleni, mae cofrestru ar gyfer y gwobrau yn haws nag erioed gyda’n system mynediad ar-lein syml.

Mae ceisiadau eleni’n cau ar 14 Gorffennaf – peidiwch â cholli’ch cyfle i gael eich cydnabod.

Ni allwn aros i ddathlu gwaith a chyflawniadau sefydliadau fel chi sy’n adeiladu economi Cymru drwy werth cymdeithasol ac yn dathlu pŵer cydnerthedd a chymuned yng Nghymru.

Fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod ar ein platfform mynediad ar-lein i Wobr Busnes Cymdeithasol Cymru.