Dathlu Perchnogaeth gan y Gweithwyr yng Nghymru: Catalydd am Dwf Cynaliadwy a Llesiant Cymunedol

21 Mehefin 2024

Mae perchnogaeth gan gweithwyr yn fodel busnes trawsnewidiol sy’n gosod gweithwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau corfforaethol a chreu cyfoeth. Wrth i Gymru barhau i gerfio ei hunaniaeth mewn tirwedd ôl-bandemig, mae dathlu a hyrwyddo perchnogaeth gan y gweithwyr nid yn unig yn amserol ond yn hanfodol ar gyfer meithrin twf economaidd cynaliadwy, gwydnwch cymunedol a lles unigolion.

Mae Cymru, gyda’i hanes cyfoethog o arloesi diwydiannol ac ysbryd cymunedol, ar ei hennill yn sylweddol o fabwysiadu perchnogaeth gan y gweithwyr yn eang. Rydym wedi gweld twf mawr mewn perchnogaeth gan y gweithwyr o’r dyddiau cynnar o gefnogi’r diwydiant glo (cefnogodd Cwmpas Lofa’r Tŵr i fod y cwmni mwyaf sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru), hyd at heddiw lle caiff ei gofleidio fel model busnes cyffrous.

Ers dros 30 mlynedd, mae Cwmpas wedi hyrwyddo perchnogaeth gan y gweithwyr, tra bod ein hymdrechion i gefnogi busnesau drwy’r broses wedi gweld nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn dyblu yn y pedair blynedd diwethaf.

Yng Nghymru – ac yn Cwmpas – mae gennym lawer i fod yn falch ohono o ran pa mor bell yr ydym wedi dod, wrth gydnabod bod llawer mwy o waith i’w wneud o hyd.

Gwydnwch Economaidd a Sefydlogrwydd

Mae busnesau y mae gweithwyr yn berchen arnynt yn tueddu i fod yn fwy gwydn yn wyneb dirywiad economaidd. Mae’r sefydlogrwydd hwn yn hanfodol i economi Cymru sydd, fel llawer o rai eraill, yn llywio’r ansicrwydd ynghylch amrywiadau yn y farchnad fyd-eang a heriau economaidd lleol. Yn aml, mae gan fusnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr gyfraddau trosiant is a lefelau uwch o foddhad swydd, gan gyfrannu at weithlu mwy sefydlog ac, o ganlyniad, economi fwy sefydlog.

Olyniaeth

Mae gennym lawer o fusnesau bach yma yng Nghymru, gyda chanran uchel mewn perchnogaeth deuluol ers amser maith. Nid oes gan lawer o BBaChau gynllun olyniaeth ar waith ac nid ydynt yn ystyried atyniad perchnogaeth gan y gweithwyr ar gam cynllunio digon cynnar o reoli olyniaeth. Gyda’r economi yn dal yn ansicr a chostau benthyca yn dal yn uchel, mae’r Model EOT (Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr) – lle mae cyfranddaliadau yn y busnes yn cael eu prynu a’u dal gan ymddiriedolaeth ar ran yr holl weithwyr – yn parhau i fod yn llwybr deniadol iawn ar gyfer olyniaeth perchnogaeth a thrwy hynny ddiogelu swyddi yng Nghymru.

Gwella Cynhyrchiant ac Arloesi

Mae dod yn eiddo i weithwyr hefyd yn gwneud gwahaniaeth yn fewnol. Mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn alinio buddiannau gweithwyr â llwyddiant y cwmni – pan fydd gan gyflogeion ran yn y busnes, maent yn fwy tebygol o fod yn llawn cymhelliant, ymgysylltu ac arloesol. Gall y cynnydd hwn mewn cynhyrchiant arwain at well cynnyrch a gwasanaethau, gan wella cystadleurwydd busnesau Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae arloesedd yn cael ei sbarduno ymhellach gan y safbwyntiau a’r syniadau amrywiol sy’n dod o amgylchedd busnes mwy cynhwysol a chyfranogol.

Mae BIC Innovation, cwmni ymgynghori busnes yng Ngwynedd, wedi gweld nifer ei weithwyr yn fwy na threblu, gyda llawer o syniadau newydd yn cael eu cynhyrchu trwy ddull a rennir o gydweithredu ac arloesi.

Effaith Gymunedol a Chymdeithasol

Un o’r ffactorau sy’n ein hysgogi i hyrwyddo perchnogaeth gan y gweithwyr a gweithio gyda busnesau i drosglwyddo i’r model hwn yw’r effaith y mae’n ei chael ar ein cymunedau ehangach. Mae gwead cymdeithasol Cymru yn cael ei feithrin gan berchnogaeth gan y gweithwyr drwy’r ymdeimlad o gymuned a phwrpas a rennir a ddaw yn sgil perchnogaeth gan y gweithwyr. Mae busnesau sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau lleol ac sy’n cael eu rhedeg gan bobl leol yn fwy tebygol o fuddsoddi yn y cymunedau hynny, boed hynny drwy gyflogi’n lleol, cefnogi cyflenwyr lleol, neu gymryd rhan mewn mentrau cymunedol. Mae hyn yn creu cylch rhinweddol o ddatblygiad economaidd lleol a chydlyniant cymdeithasol, gan leihau’r rhaniadau economaidd-gymdeithasol a all ddarnio cymunedau.

Adeiladu Economi Decach

Mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn arf pwerus ar gyfer adeiladu economi decach a mwy cyfartal. Mae’n democrateiddio cyfoeth ac yn sicrhau bod manteision ariannol llwyddiant yn cael eu rhannu’n ehangach ymhlith y rhai sy’n cyfrannu ato. Pan fo anghydraddoldeb incwm yn fater dybryd, mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn darparu llwybr hyfyw tuag at economi fwy cynhwysol lle mae ffyniant wedi’i ddosbarthu’n fwy cyfartal.

Astudiaethau Achos a Straeon Llwyddiant

Mae gan Gymru lawer o fusnesau llwyddiannus sy’n eiddo i’r gweithwyr sy’n dangos manteision y model. Mae busnesau perchnogaeth gan y gweithwyr yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddiwydiannau ac ardaloedd daearyddol ac mae busnesau perchnogaeth gan y gweithwyr wedi’u lleoli mewn tirweddau a chymunedau amrywiol.

Mae Cwmni Da, cwmni cynhyrchu teledu yng Nghaernarfon, wedi trosglwyddo i berchnogaeth gan y gweithwyr ac wedi gweld twf a sefydlogrwydd sylweddol o ganlyniad. Yn yr un modd, mae llwyddiant y cwmni gweithgynhyrchu, Wecori, o Abertawe, a ddaeth yn eiddo i’r gweithwyr yn ddiweddar, yn tanlinellu potensial y model i drawsnewid diwydiannau a sbarduno twf economaidd rhanbarthol.

Efallai fod cwmnïau sydd â gwreiddiau’n lleol fel Melin Tregwynt yn Sir Benfro a Gwasanaethau Milfeddygol Archway yng Nghas-gwent yn cyflogi niferoedd cymharol fach o bobl, ond mae’r rhain yn swyddi pwysig sy’n talu’n dda. Pe bai’r busnes wedi’i werthu i berchennog tramor neu grŵp mwy, efallai na fyddai’r swyddi hyn wedi cael eu cadw yn yr ardal a byddai wedi arwain at golli cynhyrchion, gwasanaethau a sgiliau hollbwysig. Cefnogwyd pob un o’r busnesau hyn gan ein tîm perchnogaeth gan y gweithwyr arbenigol o ymgynghorwyr.

Cymorth a Pholisi’r Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod potensial perchnogaeth gan y gweithwyr ac mae wedi bod yn gefnogol i fentrau i hyrwyddo’r model hwn. Trwy bolisïau a chyllid sydd â’r nod o annog perchnogion busnes i drosglwyddo i berchnogaeth gan y gweithwyr, mae’r Llywodraeth yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin amgylchedd lle gall y model hwn ffynnu. Mae gosod targedau i ddyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yng Nghymru yn arwydd o’r ymrwymiad hwn. Mae dathlu’r ymdrechion hyn ac eiriol dros gefnogaeth barhaus yn hanfodol i sicrhau bod mwy o fusnesau Cymreig yn gallu gwneud y trawsnewid hwn yn ddidrafferth.

Y ffordd ymlaen

Nid yw dathlu perchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru yn ymwneud â chydnabod ac addysgu busnesau am y model busnes yn unig; mae’n ymwneud â hyrwyddo gweledigaeth ar gyfer economi fwy cydnerth, teg ac arloesol. Mae’n ymwneud ag adeiladu cymunedau cryfach a chreu Cymru decach lle mae gan bawb ran mewn llwyddiant. Wrth inni edrych tua’r dyfodol, bydd cofleidio a hyrwyddo perchnogaeth gan y gweithwyr yn allweddol i ddatgloi potensial llawn busnesau Cymru a’r bobl sy’n eu gyrru, o berchnogion sy’n gadael, i weithwyr presennol a’r rhai a fydd yn ymuno yn y dyfodol. Mae perchnogaeth gan y gweithwyr yno i bob un ohonynt.

Trwy ddathlu perchnogaeth gan y gweithwyr, rydym yn anrhydeddu gwerthoedd cydweithio, tegwch, a chymuned sy’n gynhenid i’r ysbryd Cymreig. Gadewch inni gydnabod a chefnogi’r busnesau a’r unigolion sy’n arwain y ffordd o ran gwneud Cymru’n esiampl o dwf cynaliadwy a chynhwysol.