Dathlu Dydd Miwsig Cymru – gadewch i ni greu diwydiant cerddoriaeth cynaliadwy a hygyrch i Gymru

7 Chwefror 2025

Mae cerddoriaeth yn ganolog i ddiwylliant Cymru.

P’un a yw’n ymwneud â denu bandiau enfawr i’n cornel ni o’r byd yn Stadiwm Principality, y gigiau mewn lleoliadau llai ledled y wlad, neu o ran cael yr anthem genedlaethol orau, rydyn ni’n angerddol am gerddoriaeth.

Mae’n rhan hanfodol o’r diwylliant sy’n gysylltiedig â’n hiaith.

Heddiw, sef Dydd Miwsig Cymru, yw’r cyfle perffaith i ddathlu diwylliant, diwydiant sy’n rhoi cyfle i bobl fwynhau ein hiaith, a’r profiadau ar y cyd y gall cerddoriaeth eu creu. P’un ai Geraint Jarman a Dafydd Iwan neu Bwncath ac Adwaith, mae amrywiaeth enfawr o gerddoriaeth ar gael i chi ei mwynhau yn Gymraeg. Gall hyd yn oed eich helpu i ddysgu’r iaith os ydych chi newydd ddechrau gwneud hynny.

I wneud y gorau o’r diwylliant hwn, mae angen i ni sicrhau ei fod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn hygyrch i bawb. Gall y diwydiant cerddoriaeth ymwneud â llawer mwy na gwneud arian yn unig, a rhaid iddo fod felly.

Ledled y wlad, mae unigolion a phwyllgorau ysbrydoledig eisoes yn dod at ei gilydd i greu’r sefydliadau a fydd yn rhoi’r platfform i’r diwylliant hwn ffynnu.

Yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024, enwebwyd Beacons Cymru am Wobr Un i’w Wylio. Mae’r sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymoedd De Cymru, yn nodi a meithrin doniau cerddorol ifanc ledled Cymru, ac yn creu cyfleoedd i bobl ifanc yn y diwydiant cerddoriaeth, ni waeth beth yw eu cefndir neu’u hamgylchiadau.

Dywedodd Elan Evans, Rheolwr Prosiect yn Beacons:

“Rydyn ni bob amser yn ceisio rhoi’r sgiliau i bobl ifanc ddysgu sut i fod yn dechnegydd sain, sut i fod yn artist hunangynhaliol, sut i fod yn rheolwr prosiect… Wedyn, maen nhw’n mynd â’r sgiliau hynny gyda nhw ac yn trefnu digwyddiadau, neu’n cychwyn prosiectau newydd yn eu cymunedau. Dyna beth sy’n bwysig i’w weld.”

Rhan arall hanfodol o sicrhau bod y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol yw sicrhau bod lleoliadau addas mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r gofodau hyn yn rhoi cyfleoedd i artistiaid berfformio, ac i bobl fwynhau’r gerddoriaeth maen nhw’n ei chreu.

Ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, mae Saith Seren yn Wrecsam yn croesawu Meinir Gwilym, sy’n gerddor a chantores Gymraeg hynod ddawnus.

Hen dafarn yw Saith Seren, a oedd mewn perygl o gau yn 2015. Daeth y gymuned at ei gilydd i’w hachub a’i chadw ar agor. Prynwyd yr adeilad gan gwmni cydweithredol cymunedol, Canolfan Gymraeg Wrecsam, yn 2023, ac mae’n rhedeg y ganolfan.

Mae hon yn enghraifft ragorol o ba mor effeithiol gall ysbryd cydweithio fod. Erbyn hyn, mae gan bobl yn Wrecsam ofod i gymdeithasu, dysgu’r iaith a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg gyda’i gilydd.

Mae Beacons Cymru yn ymuno â Le Public Space, sef gofod adnabyddus ar gyfer cerddoriaeth a’r celfyddydau yng nghanol Dinas Casnewydd.

Mae Le Public Space yn falch o ddeillio o Le Pub, sef lleoliad cerddoriaeth bach hirsefydledig a oedd yn arddangos cerddoriaeth fyw yn llwyddiannus ac yn gwella bywydau am 25 mlynedd.

Maent yn ofod nid er elw sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n golygu y bydd popeth maen nhw’n ei wneud bob amser yn ymwneud â mynd yn fwy a gwella, a dathlu cerddoriaeth Gymraeg.

Yfory, ar 8 Chwefror, maent yn cynnal gig gan Mali Haf, un o’r artistiaid Cymraeg mwyaf cyffrous.

Mae Beacons Cymru, Saith Seren, a Le Pub yn storïau ysbrydoledig am y modd y mae cymunedau ac entrepreneuriaid cymdeithasol yn defnyddio modelau busnes cydweithredol a chymdeithasol i feithrin doniau pobl ifanc yng Nghymru a chreu’r gofodau sy’n galluogi i’n hiaith ffynnu.

Ar Ddydd Miwsig Cymru, dylen ni i gyd gael ein hysbrydoli i wrando ar y gerddoriaeth ragorol y mae ein gwlad yn ei chynhyrchu yn ein hiaith ein hunain.

Beth allwn ni ei wneud fel unigolion ac fel gwlad i gefnogi’r sefydliadau sy’n gwneud y diwylliant a’r diwydiant hwn yn bosibl?

Y peth cyntaf i’w wneud yw mynd draw i’r gigiau hyn i gefnogi ein hartistiaid Cymraeg gwych a’r lleoliadau maen nhw’n perfformio ynddyn nhw.

Ac wedyn, pan fyddwch chi yno, byddwch yn cael eich llonni mewn steil Cymreig go iawn.

Dewch, Gymru. Gadewch i ni deimlo’r hwyl!