Dathlu Diwrnod Menter Gymdeithasol 2025: Adeiladu dyfodol da gyda Down to Earth
Wrth i Gymru nodi Diwrnod Menter Gymdeithasol 2025, mae cymunedau ledled y genedl yn dathlu’r sefydliadau sy’n defnyddio busnes fel grym er lles, i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, cryfhau cymunedau, ac amddiffyn ein planed.
Yn eu plith mae menter gymdeithasol o Abertawe, Down to Earth, enillydd Gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru eleni.
Mae Down to Earth yn ailddiffinio sut rydym yn dylunio, adeiladu, a chysylltu â’n hamgylchedd trwy ei ddull arloesol, sy’n canolbwyntio ar natur, o adeiladu ac addysg.
Mae’r sefydliad yn cyd-ddylunio ac yn cyd-greu cartrefi, ysgolion ac ysbytai gan ddefnyddio egwyddorion dylunio cynaliadwy a deunyddiau naturiol. Ond i Down to Earth, nid adeiladau yn unig sy’n bwysig, mae’n ymwneud â phobl.
“Mae Down to Earth wedi bod yn datblygu ffurf newydd o ddarparu gofal iechyd ac addysg drwy gyd-ddylunio a chyd-greu cartrefi ac adeiladau cyhoeddus rhyfeddol gan weithio gyda rhai o’r cymunedau mwyaf agored i niwed ac sydd wedi’u hymylu yng Nghymru” meddai Mark McKenna, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol.
“Wedi’i seilio ar ymchwil gyhoeddedig, dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweithio gyda dros 1,800 o gyfranogwyr, gan ddod â newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau a’u cymunedau yn ogystal â dangos potensial adeiladau sy’n canolbwyntio ar natur”.
Mae’r cyfuniad hwn o weithredu amgylcheddol ac effaith gymdeithasol yn dal ysbryd Diwrnod Menter Gymdeithasol, ac yn dangos y gall busnes sbarduno newid ystyrlon a chynaliadwy.
Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas:
“Mae mentrau cymdeithasol yn darparu gwasanaethau hanfodol, yn creu swyddi da, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac yn cadw cyfoeth wedi’i wreiddio mewn cymunedau ledled y genedl. Maent yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd busnes yn cael ei yrru gan bwrpas, nid elw yn unig.
Dangosodd adroddiad diweddar Cwmpas, Mapio’r sector Menter Gymdeithasol, fod 3,100 o fusnesau cymdeithasol yn weithredol yng Nghymru, gan gyfrannu hyd at £5.7 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Ni ellir tanamcangyfrif effaith y sector hwn a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”
Wrth i ni ddathlu cyflawniadau mentrau cymdeithasol eleni, mae gwaith Down to Earth yn sefyll fel enghraifft ddisglair o sut y gall busnesau sy’n cael eu gyrru gan bwrpas drawsnewid bywydau a thirweddau, gan helpu i adeiladu Cymru decach a gwyrddach i bawb.