Dathlu Diwrnod Menter Cymdeithasol 2024

21 Tachwedd 2024

Mae Cwmpas wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ledled Cymru am fwy na 40 mlynedd i gefnogi busnesau sy’n blaenoriaethu lles cymdeithasol dros elw preifat.

Rydym wedi gweithio’n agos gydag entrepreneuriaid sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Rydym wedi darparu cyngor a chymorth arbenigol i fentrau cymdeithasol er mwyn iddynt allu creu economi decach a gwyrddach, a chymdeithas fwy cyfartal.

Mae’r busnesau arloesol hyn yn alinio nodau gweithredol â gwerthoedd cymdeithasol.

Maent yn llenwi bylchau mewn gwasanaethau lleol.

Maent yn datrys heriau cymdeithasol.

Maent yn ennyn gobaith.

Maent yn newid bywydau.

Ac maent yn helpu tyfu’r economi.

Mae mentrau cymdeithasol yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol lle maent yn cyfrif fwyaf – ar lefel gymunedol.

Maent yn wynebu bygythiadau byd-eang fel newid hinsawdd, digartrefedd, tlodi ynni a bwyd, ynysigrwydd cymdeithasol, a dirywiad mewn iechyd meddwl. Maent yn defnyddio’u craffter busnes a’u craffter ariannol i adeiladu busnesau proffidiol, a berchnogir yn lleol, sy’n gyrru newid cadarnhaol ac yn dosbarthu cyfoeth yn ôl i’r gymuned.

Maent yn tyfu’r economi o’r gwaelod i fyny.

Maent yn creu swyddi, yn codi incwm proffidiol, yn gyrru masnach ar draws rhwydwaith o gyflenwyr, prynwyr, partneriaid a chwsmeriaid lleol – ac yn gwella bywydau eu gweithwyr trwy ddarparu swyddi gwerth chweil, incwm sicr, a’r modd iddynt fyw eu bywydau, gwneud busnes gyda busnesau lleol eraill, a helpu tyfu’r economi.

Mae arian yn cylchredeg. Mae lles yn gwella. Mae’r gymuned yn adfywio ac yn dechrau ffynnu. Mae’r economi’n tyfu.

Mae twf mewn incwm yn arwain at dwf mewn effaith gymdeithasol. Wrth i fentrau cymdeithasol sicrhau mwy o fusnes, maent yn dod yn fwy proffidiol. Maent yn ehangu eu gwasanaethau, yn cefnogi mwy o bobl, ac yn creu mwy o swyddi.

Mae cyflymdra a llwybr twf yn cynyddu, a chymunedau yn elwa ym mhob ffordd bosibl trwy strydoedd mawr ffyniannus, canol trefi prysur, amrywiaeth, cyfle a chydraddoldeb.

Mwy o swyddi yn yr ardal leol. Mwy o arian mewn pocedi. Mynd i’r afael â mwy o faterion cymdeithasol. Caiff mwy o wasanaethau eu darparu gan bobl leol, ar gyfer pobl leol. Caiff mwy o nwyddau eu cynhyrchu’n lleol. Mwy o arian yn aros yn y gymuned.

Cymunedau hapusach a mwy gobeithiol.

Am y 40 mlynedd ddiwethaf, bu twf cynyddol yn ein cefnogaeth i nifer y mentrau cymdeithasol sy’n ganolog i’w cymunedau, gan yrru twf yn dawel yn economi Cymru.

Mae mentrau cymdeithasol yn darparu gwasanaethau a chynhyrchion ystyrlon. Maent yn creu atebion gwreiddiol i broblemau oesol. Maent yn ysbrydoli cymunedau, yn darparu cyfleoedd newydd, ac yn tyfu’r economi.

Heddiw, ar Ddiwrnod Mentrau Cymdeithasol, rydym yn dathlu’r mentrau cymdeithasol a’r entrepreneuriaid gwych hyn sy’n gwneud gwahaniaeth i gymunedau ym mhob cwr o Gymru.

Mae mentrau cymdeithasol Cymru ar flaen y gad, yn datrys heriau cymdeithasol bob dydd, ac yn ysbrydoli newid er gwell.

Maent yn helpu creu economi ffyniannus ac yn gwella bywydau pobl a chymunedau.

Yma yn Cwmpas, rydym yn llongyfarch entrepreneuriaid cymdeithasol Cymru a’r staff sy’n cynnal y busnesau hynod bwerus hyn.

Rydych chi’n cefnogi eich cymunedau, yn lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn lleihau tlodi bwyd, yn darparu swyddi ac yn hyfforddi ac adfywio cymunedau, i gyd tra’n darparu busnesau proffidiol a hybu’r economi leol.

Edrychwn ymlaen at sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi am y 40 mlynedd nesaf.

Gyda’r gefnogaeth gywir, ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, bydd mentrau cymdeithasol yn mynd â thwf economaidd a gwerth cymdeithasol hyd yn oed ymhellach.