Datganiad gan Cwmpas – Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

23 Ionawr 2025

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi ymgysylltu â Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) drwy wahanol gamau datblygu, yn fwyaf diweddar mewn ymateb i Ddatganiad Ysgrifenedig y Gweinidog ym mis Tachwedd y llynedd a’r newyddion siomedig na fydd Cymdeithasau Cydweithredol yn fodel a ganiateir fewn y ddeddfwriaeth.

Wrth i’r Bil fynd drwy ei gamau olaf, rydym yn siomedig nad oes unrhyw welliannau wedi’u cyflwyno a allai weld Cymdeithasau Cydweithredol yn cael eu cynnwys, fel cyrff democrataidd sy’n seiliedig ar werthoedd a ddim yn cael eu llywio gan elw. Er ein bod yn llwyr gefnogi bwriad y polisi i atal echdynnu elw o ofal plant, rydym yn parhau i fod o’r farn bendant bod gan Gymdeithasau Cydweithredol rôl allweddol i’w chwarae wrth weithredu gofal o ansawdd uchel, a arweinir gan bwrpas, sydd â chanlyniadau plant yn ganolog iddo.

Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r rôl sydd ganddynt i’w chwarae ochr yn ochr â modelau menter gymdeithasol a dielw eraill a all gefnogi pontio diogel sy’n rhoi canlyniadau plant wrth galon. Ochr yn ochr ag ADSS Cymru a CLlLC, byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch yr angen am hyblygrwydd modelau i gefnogi’r broses o drosglwyddo darparwyr. Mae datganiad CLlLC mewn ymateb i gam cynharach y Bil yn nodi heriau gwirioneddol y diwygio hwn.

Yn benodol, eu sylwadau ar yr angen am yr ystod gywir o fodelau i gefnogi nodau’r polisi tra’n sefydlogi’r cyfnod pontio:

“Mae’r llinell amser ar gyfer gwneud y newid hwn yn bryder mawr hefyd. Mae cynghorau eisoes wedi’u hymestyn, a gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried pryderon rhanddeiliaid ynghylch cyflymder y trawsnewid ynghyd â’r angen i ystyried unrhyw fodelau busnes pellach a allai fod ar gael a fyddai’n hyrwyddo egwyddorion menter gymdeithasol tra’n dal i fod yn ddielw. Mae’n rhaid i’r prif ffocws fod yn sicrhau nad oes unrhyw leoliad plentyn yn cael ei ansefydlogi wrth i’r polisi hwn gael ei roi ar waith.”

Byddem yn hapus i drafod a chydweithio ag eraill sy’n rhannu’r pryderon hyn.