
Datganiad gan Cwmpas ar y Bil Datganoli Lloegr a Grymuso Cymunedol
Mae Cwmpas yn croesawu cyflwyniad y Bil Datganoli Lloegr a Grymuso Cymunedol, ac yn benodol ei ymrwymiad i ymgorffori’r Hawl Gymunedol i Brynu mewn deddfwriaeth. Mae hwn yn gam hanfodol ymlaen wrth ddiogelu dyfodol hirdymor asedau cymunedol yn Lloegr.
Bydd yn cefnogi cymunedau i gymryd rheolaeth o’r mannau a’r asedau sydd bwysicaf iddynt ac yn anfon neges glir bod rhaid ymddiried mewn cymunedau fel stiwardiaid asedau lleol, gan eu diogelu a chynyddu eu gwerth cymdeithasol i’r eithaf.
Yn 2021, canfu’r Institute of Welsh Affairs mai cymunedau Cymru yw’r lleiaf grymus ym Mhrydain. Er gwaethaf blynyddoedd o dystiolaeth gref a galw cymunedol, nid ydym eto wedi gweld y newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i amddiffyn asedau lleol hanfodol. Tra byddwn yn parhau i aros, mae mwy o adeiladau, tir ac asedau mewn perygl o gael eu colli i werthiant masnachol, esgeulustod neu adfeiliad – asedau a allai ac a ddylai fod wrth wraidd cymunedau ffyniannus a chynaliadwy.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhellion sydd ar ddod gan y Comisiwn Asedau Cymunedol yn gyflym. Nid mater o degwch yn unig yw hyn – mae’n fater o frys. Rhaid inni ddysgu o’r profiadau yn Lloegr a’r Alban i ddatblygu dull pwrpasol o rymuso cymunedau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar hawliau mewn deddfwriaeth, cefnogaeth arbenigol, ymgysylltiad rhagweithiol a mynediad at gyllid priodol.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod fframwaith cadarn a pharhaol ar gyfer perchnogaeth gymunedol yn cael ei sicrhau yng Nghymru.