Cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen Bro Morgannwg yn arwain Cymru gam yn agosach at gynhwysiant digidol

10 Rhagfyr 2024

Gan nad yw 170,000 o bobl yng Nghymru (7% o’r boblogaeth) yn defnyddio’r rhyngrwyd, mae gormod o bobl o hyd yn methu manteisio ar gyfleoedd digidol – ond mae cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen Bro Morgannwg yn cymryd y cam cyntaf i gael Cymru ar-lein.

Mae Bro Morgannwg yn enwog am ei chefn gwlad bryniog, ei chymunedau arfordirol a’i phentrefi gwledig, yn ogystal â thref fwyaf Cymru, Y Barri.

Mae ardaloedd gwledig yn arbennig yn wynebu risg o unigrwydd ac ynysigrwydd, a oedd yn golygu mai’r Fro yw’r lleoliad delfrydol i lansio’r cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen.

Gall cynhwysiant digidol helpu unigolion i chwilio am swydd, ei sicrhau a’i chynnal, defnyddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd, a gwella lles.

Weithiau, mae allgáu digidol yn digwydd o ganlyniad i ddiffyg hyder a gwybodaeth.

Weithiau, mae’n digwydd oherwydd yr anallu i ddefnyddio offer neu’r rhyngrwyd.

Trwy weithio gyda Hyrwyddwyr Digidol, mae cynllun benthyg cyfrifiaduron llechen Bro Morgannwg yn mynd i’r afael â’r heriau hyn trwy gynorthwyo trigolion i ddefnyddio offer, ennill sgiliau digidol a mynd ar-lein yn hyderus.

Mae’r Hyrwyddwyr Digidol yn wirfoddolwyr ymroddgar sy’n meithrin ymdeimlad o gymuned ac yn rhannu eu profiad digidol, tra bod yr iPads wedi’u llwytho ymlaen llaw gydag apiau a gwybodaeth leol, yn ogystal â cherdyn SIM yn rhad ac am ddim.

Mae’r fenter wedi cael ei rhoi ar waith diolch i bartneriaeth rhwng Cwmpas a’i dîm cyflwyno Cymunedau Digidol Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, a rhwydwaith o sefydliadau cefnogol ym mhartneriaeth Cael y Fro Ar-lein.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas:

“Gan fod mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael eu darparu ar-lein, mae tîm Cymunedau Digidol Cymru yn Cwmpas a’n partneriaid yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael dewis i fod ar-lein. Mae cynhwysiant digidol yn golygu cael y sgiliau, y cymorth a’r hyder i fynd ar-lein ac ymgysylltu’n ddiogel, yn ogystal â mynediad at offer digidol a data. Dylai neb gael ei adael ar ôl yn yr oes hon.

“Diolch i’r fenter wych hon, gall trigolion Bro Morgannwg fenthyca iPad nawr yn yr un ffordd y gallan nhw fenthyca llyfr, a chael gwybodaeth ddigidol gan Hyrwyddwyr Digidol go iawn. Mae’n wych gweld y fenter hon ar waith.”