Ac yntau’n dair oed yn unig, roedd Henry Chesterton, a fagwyd ym Miwmares ar Ynys Môn, allan ar long yn rheolaidd gyda’i dad. Ar ôl 30 mlynedd o weithio fel therapydd galwedigaethol, mae mewn safle perffaith erbyn hyn i ddarparu gwasanaethau rhagnodi cymdeithasol i oedolion anabl. Mae prosiect Henry ychydig yn wahanol i’r mwyafrif, serch hynny. Mae ef a’i dîm yn mynd ag oedolion anabl a phobl ifanc i hwylio ar gyfres o bedwar cwch hwylio sydd wedi’u hadfer yn brydferth.
Ond nid dim ond yr hwylio sy’n bwysig.
Mae’r prosiect treftadaeth lleol hwn yn gwahodd pobl ifanc i ymuno â’u ‘sied’, gan ddwyn ynghyd grŵp eang o bobl sy’n gweithio ar neu o gwmpas y cychod.
Dechreuodd y syniad ar gyfer y prosiect yn ystod Covid, pan brofodd lawer o bobl ynysu cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl. Gyda gwasanaethau cymorth yn gwegian dan bwysau ac yn methu ymdopi ag atgyfeiriadau, fe wnaeth prosiect treftadaeth lleol a oedd hefyd yn cefnogi cynhwysiant, cymorth iechyd meddwl a datblygiad sgiliau yn arwain at gyfleoedd gwaith dicio llawer o flychau. Yn y blynyddoedd cynt, roedd pob un o 17 cwch ‘One Design’ y Fenai, a ddyluniwyd gan bensaer morol lleol ac a adeiladwyd ar Benrhyn Safnas ar y Fenai rhwng 1937 a 1952, wedi cael eu darganfod. Mae pob un ohonynt yn bodoli o hyd a hwyrach mai dyma’r fflyd gyflawn hynaf o gychod hwylio ‘One Design’ yn y byd. Darganfuwyd un ar Afon Tafwys, roedd un arall yn cael ei ddefnyddio’n gartref i ieir yn Abermaw ac roedd trydydd yn gwch bysgota ar Ynys Metgawdd (Lindisfarne).
Mae pump ohonynt bellach wedi dychwelyd i’w hangorfa wreiddiol ar y Fenai.
Meddai Henry:
“Mae dim ond eistedd ar gwch yn cynnig buddion corfforol a seicolegol, ac mae cymryd rhan weithgar mewn hwylio yn mwyhau’r rheiny. Mae tynnu’r rhaffau i reoli’r hwyliau a chodi’r angor yn hybu nerth corfforol ac mae dysgu sut i hwylio yn hybu sgiliau gwybyddol.
“Allan ar y dŵr, mae’r buddion yn fwy fyth. Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Caerwysg fod 20% yn llai o iselder ymhlith pobl sy’n byw neu’n gweithio ar y dŵr. Gall hwylwyr cymwys rasio’r llongau, gyda’r holl fuddion mae chwaraeon cystadleuol yn eu dwyn, ac mae bod yn rhan o dîm hwylio llong ac ymgysylltu â’r gymuned hwylio ehangach yn dwyn buddion cymdeithasol mawr.”
Mae’r sied yn croesawu tua 25-30 o wirfoddolwyr yn rheolaidd, gyda rhyw 20 arall yn cefnogi pobl ar y dŵr.
“Mae gennym gymuned gyfan yn gweithio yn ein sied llongau. Dylai neb deimlo na allant fod yn ddefnyddiol, boed hynny ar y dŵr neu yn y sied. Hyd yn oed os gwneud paned o de i’r peirianwyr morol yw eu prif arbenigedd adeiladu llongau – mae croeso i bawb.”
Mae amddiffyn amgylchedd heb ei difetha Ynys Môn a’r Fenai yn flaenoriaeth. A chan mai cychod hwylio ydynt, ychydig neu ddim effaith negyddol y mae cychod y Prosiect yn ei chael ar yr amgylchedd. Mae gan yr elusen bolisïau amgylcheddol ac ailgylchu cadarn yn y sied ac maent yn dewis gweithio gyda chwmnïau moesegol cymaint ag y bo’n bosibl. Defnyddir pren wedi’i ailgylchu i drwsio’r llongau, neu bren gan dyfwyr sydd â pholisi cadarn ar gyfer aildyfu.
Mae Hwylio Treftadaeth y Fenai yn mynd â hyd at 100 o bobl i hwylio bob tymor, gan ddarparu profiadau o safon i grwpiau bach. Maent yn derbyn atgyfeiriadau rhagnodi cymdeithasol trwy amrywiol bartneriaethau, gan weithio gydag unigolion â phroblemau iechyd meddwl a dementia, neu bobl anabl, pobl ar y cyrion neu bobl sydd wedi’u hynysu. Eleni, byddant hefyd yn mynd â grwpiau ffermwyr ifanc, grwpiau sgowtiaid a chybiau, grŵp iechyd meddwl dynion y Wilderness Tribe, a thîm cyfan o feddygfa yng ngogledd-orllewin Cymru i hwylio.
Mae’r elusen wedi elwa o gymorth gan Medrwn Môn a Chymdeithas Elusennol Ynys Môn sydd, ymhlith buddiolwyr eraill, wedi ariannu prentisiaeth a gwblhawyd yn ddiweddar mewn peirianneg forol.
“Enillodd Polly, ein prentis, sgiliau oes a swydd anhygoel, ar y diwedd.”
Rhoddodd ymgynghorydd Busnes Cymdeithasol Cymru Cwmpas, Rob Hughes, gefnogaeth Hwylio Treftadaeth y Fenai i’w cais am statws elusen.
Aeth Henry yn ei flaen i ddweud:
“Yn sgil hynny, dyfarnwyd cyllid i ni gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, a chyllid ychwanegol y cawsom gyngor arno gan Rob.
“Roedd ef yn allweddol hefyd wrth ein cynorthwyo ni ag amrywiaeth o faterion llywodraethu nad oeddem yn gwybod dim amdanynt.
“Mae llawer o hiraeth yn perthyn i’r prosiect hwn a’n nod yw cael pob un o’r 17 cwch hwylio ar y dŵr. Hefyd, rydym yn gweithio i gynnig teithiau hwylio masnachol ecogyfeillgar ar y Fenai brydferth i ymwelwyr ag Ynys Môn.
“Rydym ni wedi bod yn ffodus. Mae pobl yn mwynhau hwylio gyda ni ac yn parhau i ddod yn ôl, ond mae’n gofyn am lawer o waith caled.
“Beth ydw i wedi’i ddysgu trwy sefydlu’r prosiect hwn?
- Bod cynnwys y gymuned o’r cychwyn yn golygu eu bod yn eich cefnogi chi, oherwydd rydych chi wedi cyfrif am eu hanghenion a’u meddyliau o’r cychwyn cyntaf. Mae’r ymgysylltu a’r ymgynghori hwn yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud.
- Ei bod hi’n bwysig cymryd camau bach, a thyfu’n araf.
- I ddadansoddi beth fydd ei angen arnoch chi: incwm, polisïau, ymddiriedolwyr da.
- Bod angen i chi gael pobl o’ch cwmpas chi sy’n cael eu parchu, rhai ohonynt gyda meddylfryd busnes.
- Canolbwyntio ar eich cryfderau.
- Gofyn am gymorth gan bobl sy’n gwybod beth nad ydych chi’n ei wybod: Mae cyngor Busnes Cymdeithasol Cymru Cwmpas wedi bod yn wych.
- Mae’n wych rhoi cynnig arni a gweld a yw eich syniad yn bosibl ai peidio, ond mae’n bwysig bod yn realistig: os nad yw’n gweithio, gorau po gyntaf y rhowch y gorau iddi.
- Peidiwch â cheisio rhoi cynnig ar ormod o bethau newydd – gwnewch bethau ar raddfa fwy.
“Er bod y prosiect hwn yn waith caled, dwi’n difaru dim.
“Rwy’ wedi gwylio rhywun a oedd wedi cynhyrfu gymaint, hyd at drawma, yn eistedd ar long a gwylio hwyl am awr a hanner, a llonyddu a bod yn ddigynnwrf.
“Rwy’ wedi gwenu wrth i ddyn oedrannus ag anaf i’r ymennydd gofio ei hen sgiliau a hwylio llong am ddwy awr, gan ymroi’n llawn am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
“Mae’r adegau hynny yn eich atgoffa bod hwylio’n gallu dwyn pleser i bobl sydd heb lawer o bleser yn eu bywyd mwyach.
“Pan rydych chi’n cael rhannu’r adegau hynny, mae’n werth y byd.”