Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024
Daeth pymtheg menter gymdeithasol wych ynghyd yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mawrth 1 Hydref i dynnu sylw at y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf difrifol cymdeithas – ac enillodd busnesau ysbrydoledig o bob rhan o Gymru brif wobrau’r noson.
Mae busnesau cymdeithasol yng Nghymru i gyfrif am 2.6% o gyfanswm y busnesau yng Nghymru, sy’n cyflogi dros 65,000 o weithwyr, gyda throsiant blynyddol y sector yn £4.8 biliwn.
Enillydd prif wobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn oedd y Community Impact Initiative sy’n fusnes cymdeithasol o Ben-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Abi Lewis, Y Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau:
“Rydyn ni’n rhoi cyfle i aelodau’r gymuned leol ddysgu sgiliau newydd, gweithio ar eu hyder a’u cymhelliant a chwrdd â phobl newydd, a’r cyfan tra’n adnewyddu cartrefi gwag yr un pryd.”
“Y nod yw gwella bywyd yn sylweddol, beth bynnag mae hynny’n ei olygu i bob unigolyn. Gallai olygu dychwelyd i’r gwaith, ond yn bendant mae’n golygu magu hyder a grym trwy ennill sgiliau newydd.
“Byddan nhw’n rhoi cynnig arni, a byddan nhw’n llawn cyffro ar ddiwedd y dydd, am eu bod wedi dysgu sgil newydd, ac mae ganddyn nhw hyder ynddyn nhw eu hunain i drïo rhywbeth newydd.”
Mae enillydd y wobr am Fenter Gymdeithasol – Un i’w Wylio, sef Down to Zero Ltd yn cefnogi pobl yn Rhondda Cynon Taf i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd Tom Addiscott, Rheolwr y Prosiect:
“Holl bwrpas (ein gwasanaeth delifro llysiau) Lush Box oedd tyfu llysiau lleol, gweithio gyda gwirfoddolwyr a rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu sgiliau yn yr economi werdd, lleihau milltiroedd bwyd, a lleihau ôl troed carbon.
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn sefydlu strategaeth bwyd lleol yn RhCT ac ar draws Cymru.
“Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr Un i’w Wylio. Mae wedi dod â chlod i ni fel cwmni, wedi codi’r niferoedd sy’n gwirfoddoli gyda ni, ac wedi rhoi ‘teimlad braf’ i’n staff. Mae’r math yna o gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr yn bwysig iawn, ac mae’n hyfryd i’w weld.”
Enillydd Menter Gymdeithasol Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder yw Grange Pavilion Youth Forum CIC.
Mae’r busnes hwn yn Grangetown, yng Nghaerdydd yn newid bywydau pobl ifanc sy’n tyfu i fyny mewn ardal ddifreintiedig yng nghanol y ddinas trwy weithgareddau academaidd, celf, crefftau a chwaraeon, yn ogystal â darparu hyfforddiant sgiliau i helpu pobl ifanc i ddechrau yn y diwydiant lletygarwch.
Dywedodd Nirushan Sudarsan, Cyfarwyddwr Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange:
“Mae’r Fforwm Ieuenctid yn cynnig cyfleoedd a phrofiad lleol i bobl ifanc fynd i’r diwydiant lletygarwch, gan roi hwb i’w sgiliau cyflogaeth a rhoi cyfleoedd iddyn nhw weithio yn y caffi a dysgu sut mae’n cael ei redegl.
“Mae’r wobr hon yn dathlu cryfder yr holl bobl ifanc yn ein prosiect. Nid dim ond un person, nac un prosiect. Mae’n llawer o bobl yn gweithio gyda’i gilydd i wella eu hardal a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc.”
Enillydd gwobr Arloesedd Menter Gymdeithasol y Flwyddyn, sef Qualia Law CIC, yw’r unig gwmni nid-er-elw yn y DU sy’n darparu dirprwyaeth yn y Llys Gwarchod gan gyfreithwyr cymwys ac wedi’u rheoleiddio er mwyn helpu i ddiogelu eiddo ac arian pobl nad oes ganddyn nhw’r gallu, neu sy’n methu rheoli eu materion ariannol eu hunain.
Mae’r gwasanaeth hwn yn mynd â’r ddyletswydd oddi wrth yr awdurdod lleol, y pryder oddi wrth yr unigolyn, a’r gost oddi wrth y trethdalwr.
Meddai Hannah Davies, Cyfarwyddwr Qualia Law CIC:
“Rydyn ni’n helpu pobl sydd ar adegau mwyaf bregus yn eu bywydau, nad oes ganddyn nhw’r teulu na’r rhwydweithiau cymorth i’w helpu i reoli eu harian neu ddiogelu eu hasedau.
“I lawer o bobl, gall hyn fod y gwahaniaeth rhwng bod mewn cartref gofal, a gallu cael eu hannibyniaeth yn ôl.”
Mae cyd-enillwyr y wobr Menter Gymdeithasol yn y Gymuned, sef Mentrau Cymdeithasol CAIS a St Giles Cymru wedi darparu bwyd sydd wedi’i sybsideiddio i 453 o unigolion a theuluoedd lleol ac wedi darparu 1200 o sesiynau cymorth dwys drwy eu harchfarchnad gymdeithasol, Y Pantri, gan gynnwys 14,672kg o fwyd a gafodd ei arbed o safleoedd tirlenwi.
Dywedodd Sandy Ackers o Fentrau Cymdeithasol CAIS:
“Mae ein partneriaeth newydd gydag Ymddiriedolaeth St Giles yn hynod bwysig i ni, gan ei bod yn ymateb i angen o fewn y gymuned leol am archfarchnad gymdeithasol i’r rhai sy’n cael trafferth gyda chostau byw.”
Meddai Ian o St Giles:
“Nod Y Pantri yw pontio’r bwlch rhwng siopau a cheisio helpu pobl i oresgyn tlodi bwyd. Rydy ni’n cynnig cyngor ac arweiniad un i un. Mae cleientiaid wedi dweud bod Y Pantri wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy o ran o’r gymuned.”
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyngor a chefnogaeth i fentrau cymdeithasol newydd a phresennol ledled Cymru drwy gonsortiwm o ddarparwyr sy’n cynnwys Cwmpas, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd a’r CGGC, gan helpu busnesau i ffynnu mewn economi heriol.
Meddai Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter yn Cwmpas:
“Mae’r busnesau cymdeithasol gwych hyn yn mynd i’r afael â gwahaniaethu, grymuso cymdeithas ar ei mwyaf amrywiol er mwyn datrys problemau lleol a chenedlaethol, cydbwyso elw gyda gobaith am ffordd well o wneud pethau, a hybu gwytnwch yn eu cymunedau.
“Mae ein henillwyr anhygoel yn dangos sut y gall busnesau weithio er budd pobl a’r blaned er mwyn datrys problemau go iawn. Maen nhw’n cynnig cyflogaeth i gymunedau difreintiedig; gwella mynediad at dai fforddiadwy; lleihau milltiroedd bwyd a darparu cyflenwadau bwyd iach fforddiadwy; ac yn mynd i’r afael ag anghenion y rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas.
“Mae’r busnesau hyn yn dangos sut y gall y model busnes cymdeithasol weithio’n eithriadol o dda yn ein cymunedau ledled Cymru, gan gadw’r economi gylchol i symud, a chydbwyso elw â buddion diriaethol.
“Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr, ac i’r holl fusnesau cymdeithasol gwych oedd yn rhan o’r gystadleuaeth. Dylen nhw deimlo’n falch iawn.”
Noddwyd Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2024 gan Legal and General, The Co-op, Mentrau Cymdeithasol CAIS a Co-operative and Community Finance.