Cwmpas yn derbyn contract gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r rhaglen newydd Cynhwysiant Digidol Cymru
Mae Cwmpas, mewn partneriaeth â Good Things Foundation, wedi derbyn y contract gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r rhaglen genedlaethol newydd gyffrous Cynhwysiant Digidol Cymru, sy’n dechrau ym mis Hydref 2025.
Gan adeiladu ar gyflawniad llwyddiannus rhaglen cynhwysiant digidol flaenorol Llywodraeth Cymru, bydd Cwmpas yn helpu i fwrw ymlaen â’r cyfnod nesaf o gynhwysiant digidol yng Nghymru, gan ddarparu rhaglen weithgareddau ddwyieithog, wedi’i chydlynu yn genedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu gwasanaeth cyngor a chymorth cynhwysiant digidol cenedlaethol a mapio darpariaeth cynhwysiant digidol ledled Cymru i gryfhau cydweithredu a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Mae cynhwysiant digidol yn cael ei gydnabod fel blaenoriaeth allweddol ledled Cymru, sy’n sail i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn Strategaeth Ddigidol Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hefyd yn cyd-fynd yn agos â’r Isafswm Safon Byw Ddigidol (MDLS), uchelgais y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n weithredol i’w gefnogi – i alluogi pobl i gwrdd â’r MDLS, os ydynt yn dewis. Mae Cwmpas wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl o ran technoleg ddigidol, gan sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u hoedran, cefndir neu amgylchiadau personol, yn gallu cael mynediad at dechnoleg ddigidol ac elwa ohoni.
Bydd y rhaglen newydd yn targedu tri maes allweddol:
- Bydd gwasanaeth cynghori cenedlaethol sy’n gweithio i strategaethau rhanbarthol a thematig yn cefnogi sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i ymgorffori cynhwysiant digidol yn eu gweithrediadau.
- Bydd ymarfer mapio helaeth yn cael ei gynnal, gan nodi’r gefnogaeth, yr ymyriadau a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cynhwysiant digidol yng Nghymru a ledled y DU, yn enwedig yr adnoddau hynny sydd o fudd i gymunedau Cymru.
- Ffurfio partneriaeth gydweithredol, gan ddod â sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ynghyd sy’n ymwneud yn weithredol â llunio polisi cynhwysiant digidol. Bydd y gynghrair hon yn gweithio gyda’i gilydd i rannu arbenigedd, arddangos arfer gorau, a datblygu dulliau arloesol o oresgyn rhwystrau i fodloni Isafswm Safonau Byw Digidol (MDLS).
Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas:
“Rydym yn falch iawn bod Cwmpas, ynghyd â’n partneriaid Good Things Foundation, wedi derbyn y contract gan Lywodraeth Cymru i arwain rhaglen newydd Cynhwysiant Digidol Cymru.
Mae galluogi mynediad digidol yn hanfodol i gefnogi lles pobl a gwella cyfleoedd yn y byd heddiw. Drwy’r rhaglen cynhwysiant digidol newydd, byddwn yn adeiladu ar gyflawniadau rhaglen Cymunedau Digidol Cymru a ddaeth i ben yn ddiweddar, gan weithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i elwa o’r byd digidol.
Ar ôl mwy na degawd o waith ymroddedig yn y maes hwn, rydym yn awyddus i gydweithio ar draws sectorau i rymuso unigolion a chymunedau, cynyddu hyder digidol, a chreu effaith ystyrlon, barhaol ar ddyfodol Cymru.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran cynhwysiant digidol ers dros ddegawd, a bydd y rhaglen newydd hon Cynhwysiant Digidol Cymru yn adeiladu ar y sylfaen gadarn honno.
Mae ein huchelgais ar gyfer yr Isafswm Safon Byw Ddigidol (MDLS) yn cydnabod bod cynhwysiant digidol yn fwy na defnydd personol o’r rhyngrwyd. Mae angen y dyfeisiau, y cysylltedd a’r sgiliau sylfaenol cywir ar bobl i gymryd rhan lawn mewn bywyd modern. Mae allgáu digidol yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau ehangach, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu elwa o dechnoleg ddigidol os byddant yn dewis.
Rwy’n falch o fod yn dyfarnu’r contract hwn i Cwmpas a Good Things Foundation, y bydd ei arbenigedd a’i hanes yn amhrisiadwy wrth gyflawni’r rhaglen hanfodol hon i gymunedau ledled Cymru.”