Cwmpas yn Cyflawni Ardystiad Lefel 3 y Ddraig Werdd!

7 Gorffennaf 2025

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Safon Amgylcheddol Lefel 3 y Ddraig Werdd wedi’i dyfarnu i Cwmpas. Dyma gydnabyddiaeth achrededig gan UKAS ar gyfer ein hymrwymiad i reoli effeithiau amgylcheddol mewn ffordd gynaliadwy a mesuradwy.

Beth yw’r Ddraig Werdd?

Mae’r Ddraig Werdd yn safon rheoli amgylcheddol pum lefel sydd wedi’i llunio gan Groundwork Cymru. Mae’n helpu sefydliadau i:

  • ddeall a rheoli eu cyfrifoldebau amgylcheddol,
  • cynllunio a gweithredu,
  • gwirio cynnydd, ac
  • adolygu perfformiad gyda phob lefel yn cynrychioli ymrwymiad dwysach. Mae Lefel 3 yn dangos bod Cwmpas bellach yn rheoli effeithiau amgylcheddol yn ffurfiol, gyda systemau ar waith i leihau ein hôl troed.

Pam mae’n bwysig

Nid dim ond plac ar y wal yw cyflawni Lefelƀ3 – mae’n gydnabyddiaeth ein bod yn cymryd camau pendant, go iawn i leihau’r defnydd o ynni, gwastraff, llygredd ac allyriadau carbon. Mae Cwmpas nawr yn barod i wella’n barhaus.

Beth rydym ni’n ei wneud O dan Lefel 3, rydym wedi:

  • Gwerthuso ein heffeithiau amgylcheddol – o ynni’r swyddfa a theithio i ddefnyddio adnoddau.
  • Gosod targedau a monitro systemau i fesur a lleihau’r effeithiau hynny.
  • Codi ymwybyddiaeth ar draws ein tîm, gan wreiddio gwiriadau amgylcheddol mewn gwaith bob dydd.
  • Creu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â gwastraff, y defnydd o ynni ac allyriadau.

Mae Bethan Webber, Prif Weithredwr Cwmpas, yn falch bod ein sefydliad wedi cyrraedd lefel tri: “Mae’r garreg filltir hon yn eiddo i gymuned gyfan Cwmpas – aelodau’r tîm, ymddiriedolwyr, partneriaid, cefnogwyr a phob unigolyn sy’n llywio ein gwerthoedd a’n gwaith. Nid yw gweithredu amgylcheddol fyth yn cael ei gyflawni ar wahân, ac mae’r achrediad hwn yn adlewyrchu diben a phroffesiynoldeb cyfunol.”

Beth mae hyn yn ei olygu i chi

I’n haelodau, ein partneriaid, ein cyllidwyr a’n cymunedau:

  • Mae’n sicrwydd bod Cwmpas yn gwneud nid dweud – yn troedio’n ysgafn ar y blaned tra’n cefnogi dulliau cymunedol a chydweithredol.
  • Mae’n cryfhau ein hygrededd fel partner mewn ceisiadau am gyllid, cyd-gynhyrchu a mentrau cynaliadwyedd rhanbarthol.
  • Mae’n cyflwyno map ffordd tryloyw i fynd ymhellach – gan fod gweithredu amgylcheddol yn daith gyfunol sy’n esblygu.

A allai eich sefydliad ennill yr un buddion? Dysgwch fwy am safon y Ddraig Werdd yn Groundwork Cymru.

Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i gynyddu ein heffaith gadarnhaol ar bobl ac ar y blaned, yn null Cwmpas.